Croeso!
Croeso i’r wefan hon a ddatblygwyd yn benodol i’ch helpu chi, gyn-fyfyrwyr y Drindod, i gadw mewn cysylltiad â’r Brifysgol ac â’ch gilydd drwy’r Brifysgol.
Gobeithiwn y mwynhewch ddarllen am yr hyn sy’n newydd yn y Drindod ac y cewch eich annog i fod yn rhan o’r Coleg nawr ac yn y dyfodol drwy Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Gall aelodau fanteisio ar y nifer o wasanaethau a gynigiwn, gan gynnwys:
- Aduniadau
- Digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol
- Cylchlythyron
- Gostyngiadau ar amryw o wasanaethau gan gynnwys:
- 20% o ostyngiad ar aelodaeth i’r Ganolfan Chwaraeon newydd
- Gostyngiadau ar ddefnydd llety’r campws yn ystod yr haf (yn ddibynnol ar argaeledd)
- Gostyngiadau ar gynnal achlysuron yng Nghanolfan yr Halliwell
- Gstyngiadau ar gyrsiau Ôl-raddedig (Datblygiad Proffesiynol Parhaus)
- Cyfleoedd gwaith
- Digwyddiadau busnes a rhwydweithio
ond nid dyma’r cyfan, cadwch mewn cysylltiad i gael gwybod mwy!
Rydym yn awyddus iawn i glywed oddi wrthoch, felly gyrrwch eich sylwadau atom dros yr e-bost i alumni@drindod.ac.uk
11.09.2010 - 12.09.2010 Aduniad y Cyn-fyfyrwyr 2010
