English
Map o'r Safle
Arloesi, Sgiliau a Chymuned

Cyflwyniad

Meri HuwsMae’r rhan yma’n rhoi manylion am y rhaglenni dysgu yn y gwaith a’r cyrsiau rhan-amser galwedigaethol sydd ar gael drwy Goleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin. Yn arbennig, mae’n rhoi manylion am ystod o raglenni arloesol sydd wedi eu datblygu gan y Brifysgol i ddarparu cyflogwyr a’u gweithwyr gyda llwybrau dysgu cyfleus a chanolbwyntiedig sy’n arwain at gymwysterau prifysgol. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni Tystysgrif Addysg Uwch, Diploma Addysg Uwch, Gradd Sylfaen, Gradd Anrhydedd a Gradd Meistr. Ceir hefyd manylion ar sut y gall cyflogwyr fanteisio ar fframwaith credydau a chymwysterau’r Drindod er mwyn ennill achrediad ar lefel brifysgol ar gyfer eu rhaglenni datblygiad staff cyfredol.

Un o’r datblygiadau allweddol a nodir yw’r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Proffesiynol yn y Gwaith. Wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â dysgu trwy waith (DtW) learndirect, mae hwn yn fframwaith sy’n galluogi unigolion i ennill credydau prifysgol am y gwaith maent yn ei wneud yn y gweithle. Y Drindod yw’r coleg cyntaf yn y sector prifysgol yng Nghymru i gynnig y rhaglen hon ac mae’n nodi cyfle cyffrous i gyflogwyr â gweithwyr o fewn y rhanbarth. Mae’r rhaglen yn caniatáu i gyflogwyr ddatblygu sgiliau eu staff ar lefel uwch drwy brosiectau perthnasol yn y gwaith a gall gynnig hyfforddiant unigol i staff heb iddynt orfod cymryd amser o’r gwaith i fynychu prifysgol neu goleg. I aelodau unigol o’r staff mae’n llwybr teilwredig tuag at gymhwyster cydnabyddedig ar lefel brifysgol sy’n defnyddio’r gwir brosiectau maent yn eu gwneud fel rhan o’u gwaith.

Mae’r rhaglenni hyn yn rhan o ddatblygiadau mawr yn y Brifysgol a fydd yn galluogi cyflogwyr a gweithwyr yn y rhanbarth i gael mynediad i’r arbenigedd sydd ar gael yn y Drindod. Yn ogystal, byddant yn galluogi’r Drindod i weithio’n agos gyda’r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol i sicrhau mai galw sy’n arwain y ddarpariaeth a fydd yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen gan gyflogwyr. Fel Prifysgol Gymunedol Gorllewin Cymru, mae’r Drindod mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd i’r afael â diffyg sgiliau yn y rhanbarth a gwneud cyfraniad cadarnhaol at adfywiad economaidd De Orllewin Cymru.

Meri Huws
Cyfarwyddwr Arloesi, Sgiliau a Chymuned