English
Map o'r Safle
Arloesi, Sgiliau a Chymuned

Dysgu Yn Y Gweithle

Mae rhaglenni dysgu yn y gwaith yn cael eu dilyn gan bobl sydd eisiau dysgu mewn ffordd sy’n uniongyrchol berthnasol i’w gwaith, boed hynny yn waith a delir neu yn waith gwirfoddol

Beth yw Dysgu yn y Gwaith?

Dysgu Yn Y Gweithle

Mae dysgu yn y gwaith yn seiliedig ar yr egwyddor bod gan ddysgu perthnasol yn y gwaith y potensial i gael ei adnabod a’i achredu fel rhan o ddyfarniad neu gymhwyster. Er mwyn gwneud hyn, rhaid dod â'r dysgu ynghyd mewn rhaglen gydlynol y gellir sicrhau ei hansawdd. Mae gweithgareddau yn y gwaith, wedi eu hategu gan ddarllen ehangach a gwybodaeth greiddiol, mewn gwirionedd yn dod yn rhaglen addysg uwch, wedi’i theilwra i gwrdd ag anghenion unigolion neu grwpiau o staff. Gall y rhaglen arwain at gymhwyster addysg uwch fel Tystysgrif Addysg Uwch, Gradd Sylfaen neu Radd Uwch, neu gall fod yn rhaglen fyrrach sy'n arwain at gredydau yn hytrach na chymhwyster cyfan.

Darpariaeth dysgu trwy waith learndirect

Learning Through Work - Learndirect

Coleg Prifysgol y Drindod yw’r sefydliad cyntaf yn y sector prifysgol yng Nghymru i gynnig y cyfle dysgu hwn. Mae nifer o’n rhaglenni yn gysylltiedig â gwefan Dysgu trwy Waith (DtW) learndirect, sy’n hybu addysg uwch yn y gweithle. Mae’r rhaglenni hyn wedi eu datblygu gan learndirect ac fe’u darperir ac fe sicrheir eu hansawdd gan Goleg Prifysgol y Drindod.

Dysgu Yn Y GweithleMae DtW yn darparu fframwaith y mae ei ansawdd wedi ei sicrhau, lle gall unigolion ddatblygu ac ennill cymwysterau prifysgol a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i symud ymlaen o un cymhwyster (fel HNC, diploma israddedig neu dystysgrif ôl-raddedig) i un arall (fel gradd anrhydedd neu radd uwch).

Dysgu trwy Waith (DtW) learndirect

Sut mae dysgu yn y gwaith yn ymateb i anghenion busnes?

  • mae’n galluogi staff i ennill cymwysterau perthnasol y mae eu hansawdd wedi ei sicrhau tra yn cyfyngu ar yr amser y mae’n rhaid ei dreulio y tu allan i'r gweithle
  • galw sy'n arwain y rhaglenni a gellir eu teilwra yn benodol i ofynion sy’n gysylltiedig ag anghenion y cyflogwr a’r unigolyn
  • gellir datblygu rhaglenni teilwredig ar gyfer cyflogwyr o fewn graddfa amser fer
  • gellir ymgorffori cyrsiau cyfredol perthnasol mewnol
  • mae’n cynnwys ystod o becynnau dysgu ar-lein sy’n berthnasol i anghenion busnes

Nodweddion allweddol o raglenni dysgu yn y gwaith Coleg Prifysgol y Drindod

Dysgu Yn Y Gweithle
  • Dysgu sy’n ymateb i’r galw sydd â’i ansawdd wedi ei sicrhau ac sydd wedi ei addasu i anghenion unigolion ac anghenion datblygu eu cyflogwyr.
  • Lleolir y dysgu yn y gwaith yn bennaf ac felly mae’n torri i lawr ar yr amser sydd ei angen y tu allan i’r gweithle. Mae rhai rhaglenni DtW nad oes rhaid eu mynychu a gellir eu hastudio yn y gwaith, yn y cartref neu mewn unrhyw le sydd â chyfrifiadur gyda chysylltiad i'r rhyngrwyd.
  • Dysgu sydd wedi ei drafod, gyda ffocws ar bartneriaeth sy’n cynnwys y dysgwr, y cyflogwr a Choleg Prifysgol y Drindod.
  • Cynnigir rhaglenni drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Dysgu hunan reoledig a gynllunnir gan yr unigolyn sy’n galluogi dysgwyr i dderbyn cyfrifoldeb am ddatblygu eu rhaglen eu hunain. Gall dysgwyr gofrestru ar raglenni DtW yn hwylus, a chynllunio a datblygu eu cwricwlwm eu hunain sy’n cwrdd â’u gofynion dysgu ac anghenion eu cyflogwyr o fewn fframwaith y mae ei ansawdd wedi’i sicrhau.
  • Gall achredu dysgu blaenorol fod yn nodwedd o’r rhaglen, naill ai ar gyfer dysgu a enillwyd drwy brofiad gwaith neu drwy astudiaeth flaenorol.
  • Mae dysgu â chymorth technoleg yn un o nodweddion allweddol rhaglenni DtW ac mae'n cael ei ddatblygu ar draws cwricwlwm dysgu yn y gwaith y Drindod mewn rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig. Mae hyn yn caniatáu i bobl ddysgu ar amserau ac mewn mannau sy'n gyfleus iddynt hwythau.

Beth yw’r rhaglenni?

Mae Coleg Prifysgol y Drindod yn cynnig ystod gyfan o ddyfarniadau dysgu yn y gwaith ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Mae pob dyfarniad yn cynnwys nifer o gredydau rhagnodedig ar lefel neu lefelau penodol. Mae’r ffordd y mae’r credydau yn arwain at ddyfarniad penodol yn seiliedig ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCCC).

Os ydych yn astudio ar lefel AU am y tro cyntaf byddem yn eich cynghori i astudio rhai modylau unigol ar lefel 4, gan ddechrau gyda modwl DtW fel Cynllun Rhaglen Dysgu yn y Gwaith a/neu Gweithio a Dysgu: Cyflwyniad i Addysg Uwch yn y Gwaith. Mae ystod eang o fodylau eraill ar gael ar lefel 4, y gellir dod o hyd i fanylion amdanynt ar wefan y Brifysgol, a gellir rhoi pob un tuag at Dystysgrif Addysg Uwch sy’n gallu arwain at radd.

Mae’r fframwaith credydau israddedig yn seiliedig ar gyfanswm o 360 credyd (120 ar bob un o’r lefelau 4, 5 a 6). Mae gan bob lefel ei ddyfarniad ei hun hefyd. Tystysgrif Addysg Uwch; Diploma Addysg Uwch/Gradd Sylfaen a Gradd Anrhydedd.

Tyst AU 120 credyd lefel 4 >> Dip AU/Gradd Sylfaen 120 credyd arall ar lefel 5 >> Gradd Anrhydedd 120 credyd arall ar lefel 6

Mae’r fframwaith credydau ôl-raddedig wedi seilio ar gyfanswm o 180 credyd i gyd ar yr un lefel. Mae pwyntiau graddio ar ôl cwblhau 60 credyd (Tystysgrif ôl-raddedig); 120 credyd (Diploma ôlraddedig) a 180 credyd (Gradd Mesitr).

Tystysgrif ôl-raddedig 60 credyd lefel 7 >> Diploma ôl-raddedig 60 credyd arall ar lefel 7 >> Gradd Meistr 60 credyd arall ar lefel 7

Pwy fydd yn elwa?

Mae rhaglenni dysgu yn y gwaith yn cael eu dilyn gan bobl sydd eisiau dysgu mewn ffordd sy’n uniongyrchol berthnasol i’w gwaith, boed hynny yn waith a delir neu yn waith gwirfoddol.

Cyflogwyr

Dysgu Yn Y Gweithle

Gyda dysgu yn y gwaith fe ellwch:

  • gael mynediad i raglenni dysgu sy’n eich cynorthwyo yn uniongyrchol gyda’ch cystadleurwydd ac sy’n berthnasol i’ch anghenion datblygu penodol, gan gynnwys Buddsoddwyr mewn Pobl
  • cefnogi uchelgeisiau’ch staff o fewn cyd-destun y gweithle a diddordebau’r sefydliad
  • ymgorffori safonau gofynnol a galluoedd mewn rhaglenni hyblyg
  • cael mynediad i gymorth gan arbenigwyr a deunyddiau dysgu arbenigol.

Yn ogystal mae cyfleoedd i chi weithio gyda staff Coleg Prifysgol y Drindod i ddatblygu rhaglenni hyfforddiant unigol i grwpiau o weithwyr.

Achredu Datblygiad Staff

Os yw’ch sefydliad yn cynnal ystod o hyfforddiant i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus eich staff, wedyn dylech siarad â’r Drindod am gyfleoedd i achredu’r hyfforddiant hwn tuag at gymhwyster AU. Bydd yr achrediad hwn yn ychwanegu gwerth at yr hyfforddiant i gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd. Bydd achrediad yn golygu y bydd y gweithiwr yn ymgymryd â gwaith a asesir a fydd fel arfer yn berthnasol i werthuso a gweithredu’r hyfforddiant yn y gweithle, gan roi’r budd ychwanegol i chi o sicrhau y gellir defnyddio a datblygu’r hyfforddiant.

Modylau heb achrediad

Dysgu Yn Y GweithleOs nad ydych yn chwilio am achrediad, mae’r Drindod yn gallu darparu rhaglenni byr ar gyfrifiadur drwy Ddysgu trwy Waith mewn ystod o feysydd datblygu rheolaeth. Gellir defnyddio’r rhain ar eu pennau eu hunain neu eu hymgorffori mewn rhaglenni datblygu a ddarperir gan eich staff eich hun neu gydag arbenigedd Coleg Prifysgol y Drindod. Ar hyn o bryd y pynciau a gynigir yw:

  • Arweinyddiaeth
  • Y gyfraith a chyflogaeth
  • Rheoli Prosiectau
  • Rheoli newid
  • Arloesi wrth Farchnata
  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle
  • Goruchwylio yn y gweithle
  • Mentora a hyfforddi
  • Creadigrwydd a datrys problemau yn y gwaith
  • Gwella’ch effeithiolrwydd personol

Gweithwyr

Gyda dysgu yn y gwaith fe ellwch:

  • greu rhaglen dyfarniad unigol i gwrdd ag anghenion na fydd cyrsiau ‘o’r silff’ efallai yn
    eu cynnig
  • datblygu rhaglen ddysgu unigol a seilir o gwmpas ac a brofir drwy’ch gweithgareddau yn y gwaith
  • ehangu’ch gallu a gwella’ch effeithiolrwydd a’ch cyflogadwyedd
  • ymgymryd â dysgu a reolir gennych chi’ch hunan, ac sy'n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, o unedau o gredyd i raddau cyfan.

Yn ogystal, cewch fynychu modylau perthnasol a addysgir yn y Brifysgol, fel y gellwch ymgorffori’r rhain yn eich cymhwyster.

Sut mae’n gweithio?

Mae dysgu yn y gweithle yn aml yn digwydd yn isymwybodol. Drwy gynllunio a strwythuro gweithgareddau, gyda chefnogaeth ar-lein, gellir manteisio’n llwyr ar y dysgu hwn a’i gasglu tuag at gymhwyster. Gyda dysgu yn y gwaith, ni chewch gredydau o ganlyniad i fynd i’r gwaith yn unig! Mae dysgu yn y gwaith yn gofyn am y gweithgareddau ychwanegol canlynol:

  • contract dysgu a gytunir
  • ymchwil digonol a phriodol
  • archwiliad o’r pwnc y tu hwnt i’r gweithle cyfagos, a’r safbwyntiau o fewn y gweithle
  • rhwydweithio gydag eraill sy’n gweithio yn yr un maes ar yr un lefel neu lefelau uwch
  • cael eich cyflwyno i heriau deallusol tiwtoriaid sydd ag arbenigedd perthnasol
  • gwerthuso ac ystyried eich cynnydd gyda’r dysgu a’r prosesau gwaith cysylltiedig.

Dyma rai gweithgareddau dysgu yn y gwaith nodweddiadol a all godi yn y gweithle:

  • prosiectau datblygu cyfundrefnol
  • datblygu cynnyrch, prosesau neu dechnegau newydd
  • gwella cynnyrch a gweithdrefnau cyfredol
  • dysgu swyddogaethau, sgiliau a chymwyseddau newydd
  • cyflwyno newid o fewn y sefydliad
  • cynnal ymchwil i ddatrys problemau busnes
  • ymgymryd â meincnodi personol neu sefydliadol, megis Safonau Galwedigaethol
    Cenedlaethol, Buddsoddwyr mewn Pobl, sgiliau allweddol
  • gwerthuso a datblygu arferion cyfredol.
Dysgu Yn Y Gweithle

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y gweithle yn derbyn hyfforddiant ac yn ehangu eu sgiliau, ond gan nad yw’r hyfforddiant wedi ei achredu nid yw’n cyfrif tuag at gymhwyster lefel uwch. Rhaid cydnabod y dysgu hwn rhywsut a rhoi cyfle i’r bobl hyn ennill cymwysterau gradd.”
John Mumford
Cyn Is-lywydd BP

Am fwy o fanylion cysylltwch â

Dr Liz Wilson
Ffôn: 01267 676859
E-bost: e.wilson@drindod.ac.uk