Arlwyaeth
Mae Gwasanaethau Campws y Drindod yn darparu pedwar lle i brynu bwyd ar y campws sef tyˆ bwyta a siop goffi yng Nghanolfan Halliwell, bar byrbryd yn yr Hen Goleg, a bar bwyd cyflym yn Undeb y Myfyrwyr. Mae’r prisiau’n gystadleuol iawn a cheir dewis o fwyd gyda rhywbeth at ddant y mwyafrif o bobl. Mae dewis da o fwyd ar gael drwy’r dydd, yn amrywio o brydau poeth i fyrbrydau a salad. Yn achos y myfyrwyr yn y neuaddau hynny sy’n cynnig arlwyaeth, mae cynllun bwyd ar gael sydd wedi ei gynnwys yn y tâl llety. Mae’r cynlluniau hyn yn sicrhau eich bod yn gallu cael o leiaf dau bryd sylweddol a maethlon bob dydd.
