Caplaniaeth Coleg Prifysgol y Drindod
Croeso!
Mae’r Gaplaniaeth yn ceisio bod yn arwydd o gariad Duw a ddatguddir yn Iesu Grist ar gyfer pob un. Mae’n hyrwyddo a datblygu bywyd ysbrydol y Brifysgol, gan gefnogi’r rhai hynny o gredoau eraill a’r rhai heb ffydd. Offrymir addoliad Cristnogol yn y Capel yn ystod y tymor (manylion isod), gan roi amser gwerthfawr i gael adfywiad a ysbrydoliaeth. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno! Mae hefyd digon o gyfle i helpu i arwain addoliad – cysylltwch â’r Caplan os oes diddordeb gyda chi (manylion isod).
Enw’r Caplan ydy Ainsley Griffiths ac mae ef yn offeiriad (gweinidog ordeiniedig) yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae ef ar gael ar gyfer holl aelodau’r Brifysgol, beth bynnag yw eu cefndir crefyddol, gan gynnig gweinidogaeth gyfrinachol, ddwyieithog, heb farnu. Fe’i welwch ef yn yr Halliwell neu’r Undeb yn ystod yr awr ginio, neu â’i wynt yn ei ddwrn yn y gampfa! Mae ei swyddfa (ystafell CJ007) yn ar lawr gwaelod adeilad Carwyn James, gyferbyn â siop y brifysgol. Gallwch hefyd gysylltu ag Ainsley ar 01267 676607 / 07946 036936 neu ar e-bost: ainsley.griffiths@drindod.ac.uk.
Ffôn: 01267 676607
Symudol: 07946 036936
E-bost: ainsley.griffiths@drindod.ac.uk
Mae’r Capel yng nghanol y campws gyda mynediad naill ai drwy’r drws yng nghefn y Capel gyferbyn ag Archesgob Childs neu o brif goridor yr Hen Goleg – os bydd y gwaith adeiladu presennol yn caniatáu! Dyma le tawel a hardd i weddïo, myfyrio neu i fod yn llonydd yng nghanol prysurdeb bywyd myfyrwyr. Gallwch oleuo cannwyll fel arwydd o’ch cariad a gofal dros eraill neu adael gweddi ysgrifenedig ar y bwrdd gweddi yn y rhag-gapel, gan wybod y bydd eraill yn cofio amdanoch yn eu gweddïau nhw yn hwyrach. Mae gyda ni hefyd Ystafell Weddi (gyda chyfleusterau ymolchi) ar lawr cyntaf yr Hen Goleg (ystafell HG119) ac mae hon ar gael i’w defnyddio gan bawb fel y bo angen.
Beth sydd ymlaen?
Addoliad yn y Capel: patrwm arferol yn ystod y tymor (o 28 Medi)
| Sul | 9.00pm | S9: maeth ar gyfer wythnos newydd |
|---|---|---|
| Llun | 8.55am | Boreol Weddi |
| Mawrth | 8.30am | Cymun Bendigaid (a elwir hefyd yr Offeren) |
| Mercher | 8.55am | Boreol Weddi |
| Iau | 12.15pm | Cymun Bendigaid (a elwir hefyd yr Offeren) |
| Gwener | 8.55am | Boreol Weddi |
Y Ffynnon
Dyma gyfle i gyfarfod i drafod ffydd. Fe’i cynhelir bod dydd Mawrth o 12.15 tan 1.15pm yn y rhag-gapel, gan ddechrau ar 6 Hydref. Bydd y darllen ‘Simply Christian’ gan Tom Wright y tymor hwn - llyfr gwych, ysbrydoledig!
Nosweithiau Ffilm
Mae’r rhain yn digwydd yn y rhag-gapel am 6.00pm nos Iau olaf y mis. Gwyliwn ffilm ddiddorol ddiweddar (gyda ‘popcorn’ am ddim!) a’i thrafod wedyn...
24 Medi |
Everything is spiritual Taith hynod boblogaidd un dyn o gwmpas clybiau nos UDA |
|---|---|
| 29 Hydref | Confessions of a shopaholic Therapi siopa i’r eithaf! |
| 26 Tachwedd | How to Lose Friends and Alienate People Hunangofiant beiddgar am fywyd ar gylchgrawn Efrog Newydd |
Fforwm y Gaplaniaeth
Mae hwn yn grŵp newydd a drefnir i gynllunio gweithgareddau’r gaplaniaeth. Bydd y cyfarfodydd ar 8 Hydref a 26 Tachwedd am 4.15pm. Croeso i bawb.
Gwasanaethau Arbennig
| 15 Hydref | 12.15pm | Diolchgarwch am y Cynhaeaf. Pregethwraig: Y Barchedig Beti-Wyn James |
|---|---|---|
| 15 Rhagfyr | 5.15pm | Gwasanaeth Naw Llith a Charol, |
