English
Map o'r Safle
Cefnogaeth Defnyddwyr a Systemau Rhwydwaith TG
Myfyrwyr - TG

Y Ganolfan TG

Mae’r tîm Gwasanaethau Rhwydwaith yn gyfrifol am reoli amrywiaeth o adnoddau cyfrifiadur sydd ar gael i’ch cynorthwyo gyda’ch astudiaethau. Byddwch yn derbyn cyfrif mewngofnodi i’r rhwydwaith eich hunan er mwyn defnyddio amgylchedd eddysgu’r Brifysgol, y We Fydeang ac e-bost, ynghyd â chymwysiadau prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data a chyflwyniadau. Ceir cyfleusterau TG mewn amryw fannau ar draws y campws ac mae ystafelloedd arbennig gyda systemau arbenigol ar gyfer myfyrwyr addysg gynradd ac astudiaethau’r cyfryngau. Mae gan y Brifysgol rwydwaith diwifr mewn neuaddau preswyl a rhai mannau eraill ar y campws. Mae hyn yn rhoi mynediad i chi i nifer o wasanaethau’r We.

Pan fo angen penodol o fewn y cwricwlwm gellir darparu cymwysiadau ychwanegol. Mae cyfleusterau Post Electronig ar gael i’r holl fyfyrwyr cofrestredig.

Gallwch gysylltu â’r Ganolfan TG trwy e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad canlynol:

canolfanTG@drindod.ac.uk

Neu gallwch ffonio 01267 676757

Staff

(01267-67) 6853

(01267-67) 6760

(01267-67) 6762