English
Map o'r Safle
Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol

Cyflwyniad

Kevin Matherick

Mae Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol yn gymuned fywiog, ddynamig a thra llwyddiannus sydd ar hyn o bryd yn hyfforddi dros 400 o fyfyrwyr i wneud cyfraniad arwyddocaol i fywyd diwylliannol Cymru a’r tu hwnt.

Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod datblygiad diwylliannol dwyieithog yn rhan bwysig iawn o’i chenhadaeth a’i hethos. Mae staff academaidd yn sicrhau bod rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig yn cael eu datblygu fel y gall myfyrwyr sy’n graddio ddeall pwysigrwydd Celfyddydau cymunedol a chyfranogol sy’n dathlu ein diwylliant a’n hunaniaeth arbennig o fewn cyd-destun rhyngwladol.

Mae tair o Ysgolion y Gyfadran sef Ysgol y Celfyddydau Creadigol a Dyniaethau, yr Ysgol Theatr a Pherfformio a’r Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfyngau oll yn ymwneud â meithrin cysylltiadau cydweithredol cryf â sefydliadau allanol o fewn y Celfyddydau i sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn y cyfleoedd gorau i ddatblygu eu potensial. Yn wir mae 98% o raddedigion y Drindod mewn swydd neu’n dilyn cwrs astudio pellach o fewn 6 mis i raddio.

Mae’r Ysgolion wedi datblygu nifer o gyfleoedd ar gyfer astudiaeth ran-amser neu gyda’r nos. Yn benodol, mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol a Dyniaethau’n darparu amrywiaeth o fodylau yn y gymuned ar Lefel 4, mewn Celf ac Ysgrifennu Creadigol, a gynigir mewn amrywiol leoliadau yn yr ardal. Mae’r MA mewn Ysgrifennu Creadigol wedi profi i fod yn rhaglen boblogaidd sy’n denu myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig ynghyd â nifer o fyfyrwyr rhyngwladol – gan ychwanegu dimensiwn rhyngwladol ardderchog i’w gwaith creadigol. Mae’r MBA mewn Rheolaeth y Celfyddydau yn un o’r ychydig raglenni ôl-radd o’i bath ym Mhrydain a adlewyrchir yn y nifer o weithwyr proffesiynol ym myd y Celfyddydau sy’n dod i’r Brifysgol i astudio o gryn bellter. Mae’r Ysgol Theatr a Pherfformio’n cynnig gradd MA Drama Addysgol wedi’i hanelu at athrawon cymwysedig sy’n dymuno diweddaru a chynyddu eu sgiliau. Ceir manylion yn adran Addysg y prosbectws hwn.

Darperir cyfleoedd cynyddol i fyfyrwyr, graddedigion a staff trwy Ganolfan Mentergarwch Diwylliannol a Chreadigol y Brifysgol. Datblygwyd Y Llwyfan ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Sir Gâr a Theatr Genedlaethol Cymru i ddarparu cartref a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer busnesau creadigol a diwylliannol ynghyd a busnesau newydd.

Yn ogystal, mae’r Gyfadran yn gyfrifol am yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored sy’n cynnig MA mewn Addysg Awyr Agored trwy ei Chanolfan Ymchwil Addysg Awyr Agored. Mae’r ganolfan yn cydweithio’n agos â’r Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Addysg Antur Awyr Agored a Dysgu drwy Brofiadau, a’r Sefydliad ar gyfer Addysg Awyr Agored (IOL Wales) i godi proffil addysg awyr agored yng Nghymru. Yn ogystal mae’r Ysgol yn gyfrifol am y Ganolfan Byw’n Iach sy’n cynnig cyngor ac arweiniad ar strategaethau newid bywyd i wella iechyd a lles unigolion ynghyd â phrofion perfformiad dynol i athletwyr a thimau.

Kevin Matherick
Pennaeth Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol