Croeso
Croeso i rifyn diweddaraf Cymry Creadigol sy’n rhoi manylion am y digwyddiadau artistig cyffrous ac unigryw fydd myfyrwyr a staff yn ymwneud â hwy.
Mae’r rhaglen hon yn eich gwahodd i rannu gwaith creadigol ein myfyrwyr ac artistiaid gwadd mewn arddangosfeydd celf, cynyrchiadau theatrig, digwyddiadau ysgrifennu creadigol a chyngherddau mewn amryw o fannau ledled Cymru.
Mae Coleg y Drindod yn cydnabod bod datblygiad diwylliannol dwyieithog yn rhan sylweddol iawn o’i genhadaeth a’i ethos cyffredinol. Mae’r Coleg yn sicrhau bod ei raglenni yn cynhyrchu myfyrwyr sy’n deall pwysigrwydd cymuned a’r celfyddydau cyfranogol sy’n dathlu ein hunaniaeth a’n diwylliant nodedig.
Mae uchafbwyntiau’r semestr hwn yn cynnwys cyfres o berfformiadau theatr, digwyddiadau cerddorol, ynghyd â nifer o berfformiadau gan artistiaid gwadd a chwmnïau theatr proffesiynol. Edrychwn ymlaen yn arbennig at Ŵyl y Drindod, a Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows. Mae’r Ŵyl tair wythnos yn argoeli rhoi gwledd o ddigwyddiadau artistig yn cynnwys rhai o berfformwyr mwyaf llwyddiannus y wlad. Rydym hefyd yn falch iawn bod ein myfyrwyr wedi ymgymryd yn frwdfrydig â’r dasg o drefnu digwyddiadau ymylol ac edrychwn ymlaen at eu perfformiadau ac arddangosfeydd unigryw.
Gobeithiwn y gwnewch yr amser i fwynhau rhai o’r digwyddiadau hyn ac edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Kevin Matherick
Pennaeth Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol
Y Drindod yn Ennill yr Eisteddfod Rhyng-golegol
Mae myfyrwyr y Drindod yn dathlu ar ôl ennill yr Eisteddfod Rhyng-golegol dros y penwythnos. Teithiodd ymron i 500 o fyfyrwyr o brifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Bangor, a Chaerdydd i gystadlu yn yr Eisteddfod a gynhelir rhwng prifysgolion yng Nghymru bob blwyddyn. Cafwyd cystadlu brwd mewn cystadlaethau llenyddiaeth, canu, dawnsio, drama a chelf yn ystod dydd Sadwrn, 16 Chwefror o dan arweiniad Anthony Evans o’r rhaglen Stwffio.
Yn ystod y nos yr oedd gig yn Undod, clwb nos Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod, gyda’r bandiau Frizbee, Gola Ola, Vanta, a Eusebio, yn perfformio hyd yr oriau mân.
Rhoddwyd llety i’r myfyrwyr o’r prifysgolion yn y Coleg nos Sadwrn a chafodd pawb, yn ôl y sôn, amser bendigedig.
Dywedodd Gareth Cole, Llywydd Undeb y Myfyrwyr “Roedd yn ddigwyddiad gwych ac yn llwyddiant ysgubol. Fe gawsom ni adborth ffantastig gan y prifysgolion a ddaeth yma - ac mae ennill wedi bod yn goron ar y cwbl. Mae’r Gymdeithas Gymraeg wedi gweithio’n galed iawn i drefnu’r ‘Steddfod ac iddyn nhw mae’r clod - yn enwedig Medyr Llewelyn a Steffan Phillips”.
Cartref i Gwmni Dawns Ieuenctid yn y Drindod
Dros y tair blynedd ar ddeg diwethaf, bu Solveig Frykman-Lloyd yn Swyddog Datblygu Dawns Dyfed yn Sir Gaerfyrddin - cwmni a sefydlwyd yn 1986 gan Margaret Ames gyda’r nod o greu iaith ddawns berthnasol yn deillio o’r gymuned. Mae’n rôl sydd wedi galluogi Solveig i weithio gyda grwpiau gwahanol yn y gymuned, yn ogystal ag ysgolion a cholegau yn cynnwys y Drindod.
Mae Solveig, a anwyd yn Sweden, yn gyfrannwr rheolaidd i’r cwrs BA Actio, gan addysgu symudiad, dawns gyfoes, theatr gorfforol a dawns gymdeithasol a phoblogaidd. Hi hefyd yw cyfarwyddwr ‘Cwmni Dawns Ieuenctid Sir Gâr’ - cwmni dawns i bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed sy’n seiliedig yn y Coleg.
“Mae’r gwaith hwn yn ddifyr iawn” meddai Solveig. “Mae wedi dod â phobl ifainc o’r gymuned i mewn i’r Coleg a hefyd wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio a pherfformio gydag aelodau ifainc eraill o’r cwmni, gan greu ffrindiau newydd, a dysgu sgiliau newydd. Mae rhai o’r aelodau wedi mynd yn eu blaen i astudio yn y Coleg a rhai o’r myfyrwyr wedi derbyn cyfrifoldebau penodol fel cynorthwywyr neu dechnegwyr gyda’r cwmni ac wedi mynd yn eu blaenau i yrfaoedd proffesiynol yn y meysydd hynny”.
Ymhlith perfformiadau mwyaf diweddar CDISG yn Theatr Halliwell y Coleg mae 'Sdim Ots Ble’ yn seiliedig ar y pethau fyddai pobl ifainc yn eu colli pe bai’n rhaid iddynt symud o Gymru. Fe wnaeth Solveig, sydd wedi teithio’r byd i ddysgu am ddiwylliannau dawns eraill ac i arddangos ei phaentiadau, gyfweld â thua chant o bobl am yr hyn y byddent yn ei golli a hefyd beth fyddai’n dod â nhw adre’n ôl. Casglodd y wybodaeth ac anfon y recordiad gyda seiniau cefndir at ddau gyfansoddwr ym Milan. “Yn gefndir i’r seiniau rhoddon nhw gerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig ac ysgrifennon nhw ddwy gân am eu profiadau pan ymwelon nhw â Sir Gaerfyrddin”meddai Solveig sydd hefyd â gradd mewn Anthropoleg. Roedd yn wych a gwnaeth y bobl fwynhau gweithio gyda nhw’n fawr iawn. Roedd eu hymdrech nhw ar Gerdd Dant yn ddiddorol iawn gyda rhythmau drwm a bas yn gefndir i alaw draddodiadol Gymreig i’r delyn. Yna fe wnes i goreograffu dawns yn cyfuno Dawnsio gwerin a stepiau dawns Hip Hop. Roedd yn llwyddiant ysgubol!” 
Ymhlith y prosiectau diweddar eraill mae ‘Yng Nghrud y Ddaear’ yn seiliedig ar hanes y gweithfeydd plwm yn Rhandirmwyn fel rhan o driawd o weithiau a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yn ‘Dros Ael y Bryn’. Cyfunwyd dawns a hanes a recordiwyd bywydau pobl oedrannus gan arwain at lwyfannu perfformiad yn seiliedig ar y storïau hynny oedd yn cynnwys ffilm fel cefnlen a’r recordiadau fel rhan o’r trac sain. Lluniwyd archif o’r recordiadau a gaiff ei storio yn amgueddfa Caerfyrddin ac mae hawl gan unigolion a chymdeithasau i’w gweld.
Gŵyl y Drindod 2008
Côr Gospel Cymunedol Llundain ac Elin Manahan Thomas yw dau o’r prif enwau fydd yn perfformio yng Ngŵyl y Drindod eleni sydd i’w chynnal rhwng 7 - 28 Mehefin.
Mae’r Ŵyl, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn, wedi datblygu i ddarparu cyfoeth o ddigwyddiadau cerddorol, theatraidd, celfyddydol a llenyddol ar gyfer y cynulleidfaoedd ac mae eleni’n argoeli i fod yn fwy amrywiol byth.
Côr Gospel Cymunedol Llundain fydd yn agor yr Ŵyl ddydd Sadwrn, 7 Mehefin yn Theatr Halliwell y Coleg. Mae’r côr amryddawn hwn yn adnabyddus am eu dawn canu gospel gyda symudiad a swing, R’n’B, trefniannau traddodiadol a dwys, ynghyd a choreograffiaeth fywiog a champau lleisiol. Maent wedi perfformio ar lwyfannau cyngerdd ledled y byd ac wedi ymddangos ar raglenni teledu megis GMTV, Top Of The Pops, This Morning, Jools Holland, Parkinson, Songs Of Praise, ynghyd â sawl Royal Variety Show. Maent hefyd wedi canu ar drac sain ffilm Walt Disney “The Lion King”, wedi perfformio i Nelson Mandela, ac wedi canu gyda Madonna ar lwyfan yn ystod Live 8. Gallant enwi artistiaid byd-enwog megis George Michael, Madonna, Sting, Luther Vandross, Syr Elton John, P-Diddy, Mariah Carey, Blur, Diana Ross, Sir Paul McCartney, Westlife, a Celine Dion, fel cefnogwyr eu harddull leisiol unigryw gan eu bod wedi ymddangos ar lwyfan neu ar fideo a reco rdiadau stiwdio gyda nhw.
Efallai mai Elin Manahan Thomas yw cyfrinach orau Cymru – tan nawr! Mae’r soprano amryddawn o Abertawe wedi arwyddo cytundeb pum albwm yn ddiweddar gyda Universal Classics and Jazz, gan ryddhau ei halbwm gyntaf ”Eternal Light” fis Mehefin diwethaf. Bydd yn perfformio yn Neuadd Pontyberem ar 22 Mehefin am 7.30pm.
Mae repertoire cyngerdd helaeth Elin yn amrywio o St Matthew Passion gan Bach i Requiem Mozart a darnau cyfoes megis gwaith diweddaraf Syr John Tavener, Shunya. Mae wedi canu dan gyfarwyddyd arweinwyr nodedig yn cynnwys Syr John Eliot Gardiner, Paul McCreesh, ac wedi perfformio mewn lleoliadau mawreddog yn y DU ac UDA. Mae ei rhannau operatig yn cynnwys Pamina yn The Magic Flute, Despina yn Cosi Fan Tutte, Ninetta yn La Finta Semplice, Arminda yn La Finta Giardiniera, The Governess yn The Turn of the Screw a Micaela yn Carmen.
John y Beirniad yn troi am adref
Bydd seren rhyngwladol y theatr gerddorol, John Owen Jones yn dychwelyd i’w wreiddiau i feirniadu un o brif gystadlaethau Gŵyl y Drindod. Bydd John, sy’n dod yn wreiddiol o Borth Tywyn, yn beirniadu’r gystadleuaeth theatr gerddorol a gynhelir ddydd Sadwrn, 14 Mehefin. Bu’r Gystadleuaeth yn ddewis poblogaidd yn ystod gwˆ yl y llynedd pan ddyfarnodd y beirniaid Connie Fisher a Dr Joan Melton y wobr gyntaf i Jeanne de Waal o Solihull, myfyriwr yn yr Institute of Performing Arts yn Lerpwl, yr ail wobr i Matthew Ibbotson o Goleg Cerdd a Drama Cymru a’r drydedd wobr i’r ferch ysgol o Lanelli Victoria Pearce. Noddir y gwobrau eleni o £500, £250 a £100 gan gwmni cynhyrchu teledu Torpedo.
Shakespeare... Al Fresco!
Dewch â’ch cadair eich hun a phicnic i fwynhau cynhyrchiad newydd o gomedi Shakespeare, Much Ado About Nothing. Bydd y Festival Players Theatre Company o Swydd Gaerloyw yn perfformio’r cynhyrchiad awyr agored ar dir y Coleg ddydd Sul 8 Mehefin. Bydd y gatiau’n agor am 4pm, a’r perfformiad am 5pm.
Gwobr Stuart Burrows yn denu’r cystadleuwyr gorau
Mae’n bleser gan drefnwyr Gŵyl y Drindod gyhoeddi bod Gwobr Ryngwladol Llais Stuart Burrows a’r gwobr o £5,000 wedi denu cystadleuaeth gref o blith rhai o’r unawdwyr ifainc gorau.
Y gystadleuaeth yw prif ddigwyddiad yr Ŵyl ac fe’i sefydlwyd ar gyfer unawdwyr dan 35 oed er clod i’r tenor bydenwog a chyn fyfyriwr yn y Coleg.
Eleni cynhelir y gystadleuaeth dros 26 a 27 Mehefin gyda’r rhagbrofion yn dechrau am 11am, 2pm a 7pm o flaen y beirniaid Y Fonesig Anne Evans a Beatrix Unsworth, gyda Stuart Burrows yn ymuno â nhw ar gyfer y rownd derfynol yn ystod Cyngerdd yr Ŵyl yng Nghapel Coleg y Drindod, Caerfyrddin ddydd Sadwrn, 28 Mehefin am 7.30pm.
Encore!
Am y tro cyntaf eleni, gwahoddir y sawl sydd â diddordeb mewn mynychu digwyddiadau Gŵyl y Drindod i ymuno ag Encore - clwb ar gyfer cyfeillion a chefnogwyr. Dywed y Cyfarwyddwr Artistig Eilir Owen Griffiths “Bydd aelodau Encore yn sicrhau fod gennym y gefnogaeth ariannol i barhau i gynnal Gwyliau o safon uchel, gan ddenu artistiaid enwog a digwyddiadau o bob cwr o’r wlad i Gaerfyrddin a'r cyffiniau. Yn ystod y ddwy Ŵyl ddiwethaf gwelsom fod nifer o bobl wedi mynychu mwy nag un digwyddiad - a daeth rhai pobl iddyn nhw i gyd! Bydd y pecyn o fanteision yr ydym yn eu cynnig trwy Encore yn eu galluogi nhw i ddangos eu cefnogaeth i’r Ŵyl ond bydd hefyd yn ein galluogi ni i roi rhywbeth yn ôl iddynt hwy drwy nifer o gynigion arbennig y byddwn yn eu darparu”.
Mae tair lefel aelodaeth yn amrywio o £15 yn unig i £100. Mae’r breintiau’n cynnwys gostyngiadau a chyfle cynnar i brynu tocynnau ar gyfer pob digwyddiad ynghyd â gwahoddiadau i bartïon a digwyddiadau ar gyfer aelodau Encore yn unig. Eleni y digwyddiad i Encore fydd Noson yng nghwmni Karl Jenkins ar 11 Mehefin a fydd yn gyfuniad o sgwrs gyda chyfansoddwr cyfoes enwocaf Cymru a pherfformiadau o enghreifftiau o’i waith gan Gerddorfa Siambr Cymru.
Bydd y rhaglen lawn ar gael yn fuan!
FfRiNj
Myfyrwyr yn paratoi ar gyfer Gŵyl ymylol
Yn dilyn llwyddiant ysgubol yr Ŵyl ymylol, Ffrinj, y llynedd mae tîm o fyfyrwyr yn prysur drefnu cymysgedd amrywiol o ddigwyddiadau fydd yn cyd-redeg â Gŵyl y Drindod eleni.
Mae tîm Ffrinj, sydd wedi cael ei sefydlu yn Fenter Colegol, yn cael profiad go iawn o drefnu digwyddiadau celfyddydol drwy ddelio gydag artistiaid, neilltuo lleoliadau, marchnata a sicrhau bod y cyllid a’r trefniadau logistaidd yn eu lle.
Eisoes maent wedi trefnu cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ddydd Sul 8 Mehefin yng nghlwb nos Undeb y Myfyrwyr - Undod. Drwy gydol wythnos gyntaf yr Ŵyl bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau llenyddol, dawns a chân, a ffilm yn y Coleg ac yng nghartref Dylan Thomas yn Nalacharn. Bydd y rhaglen gyflawn allan yn fuan!

Mosgito
Mae dau o gyn fyfyrwyr yr Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau wedi cael swyddi yn cyflwyno rhaglen newydd i bobl ifainc ar S4C. Mae Ifan Jones Evans a Trystan Ellis Morris yn darlledu’r rhaglen Mosgito gyda’u cyd gyflwynydd Erin Richard bob Nos Fawrth a Nos Iau ar y sianel.
Meddai Ifan “Mae Mosgito wedi roi cyfle arbennig i fi wneud gwaith teledu byw, ac mae lot o hwyl i’w gael yn gweithio ar raglen i bobl ifainc”.
Ac am ei brofiadau yn y Drindod? Meddai Ifan, “Joies i’r dair blynedd yn y Drindod. Mae’n goleg bach ac mae pawb yn ffrindiau. Ro’n ni fel un teulu mawr. Yn bendant n’ath y cwrs helpu fi i fod yn gyflwynydd o ran y sgiliau actio a pherfformio ddysgais i”.
Darlithwyr gwadd yn ysbrydoli myfyrwyr
Mae myfyrwyr Ysgol y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau yn mwynhau ystod eang o brofiadau addysgol fel rhan o’u rhaglenni gradd. Nodwedd boblogaidd o’u hastudiaethau sy’n ysgogi’r meddwl yw’r darlithwyr gwadd sy’n cwrdd â’r myfyrwyr i drafod eu gwaith a’u syniadau creadigol. Y semestr hwn ymwelodd yr arlunydd Bedwyr Williams â myfyrwyr y BA Celfyddyd Gain i drafod ei waith.
Mae Bedwyr yn gwneud ac yn defnyddio fideos, ffotograffiaeth, perfformiad, dyluniad, testun ac ambell gomedi ‘stand up’ a charioci yn ei waith ac mae wedi creu nifer o ddigwyddiadau sydd yn amgylcheddau cyfan. Dyfarnwyd iddo wobr fawreddog Paul Hamlyn am Gelf Weledol ac mae wedi cael sylw mewn erthygl yn y Guardian gan Adrian Searle a enwodd Bedwyr yn un o saith arlunydd yn y DU fydd yn datblygu proffil rhyngwladol. Mae ei brosiectau a’i arddangosfeydd diweddar yn cynnwys Operation Ferrule, Ffotogallery, Caerdydd; Romantic Detachment, Grizedale Arts/PS1 Efrog Newydd a Tyranny of the Meek, Canolfan Celfyddydau’r Chapter, Caerdydd.
Graddedigion yn feistri ar ysgrifennu creadigol
Mae graddedigion cwrs MA Ysgrifennu Creadigol y Drindod wedi profi llwyddiant sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn fwyaf diweddar mae’r nofelydd Anwen Francis wedi cyhoeddi cyfrol arall yn ei chyfres boblogaidd i blant, Shani’r Shetland gyda Gwasg Gomer. Teithiodd rhaglen ddogfen fentrus Justin Golding, God’s Forgotten House, o amgylch lleoliadau yng Nghymru, gan gynnwys Tŷ Ffilm y Drindod. Yn gyn actor sydd wedi ymddangos mewn sioeau megis Eastenders ac In Sickness and in Health, mae Justin bellach yn byw yn yr UD ac wedi dechrau saethu ei ffilm nesaf, STEAM, yn Hollywood. Enillodd Bethany Pope, myfyrwraig raddedig ryngwladol o’r UD, wobr Bonomi am ei hysgrifennu, gan sicrhau asiant iddi a chynnig i gyhoeddi gwaith yn y dyfodol. Bydd drama Jacqui Burns yn ymddangos yn ‘Play Offs’ Abertawe i’w cynnal yng nghanolfan Dylan Thomas.
Roedd gan staff academaidd y Drindod gryn dipyn i’w ddathlu hefyd. Yn ddiweddar cyhoeddodd Robert Nisbet ei ganfed stori. Bydd llais a gwaith Menna Elfyn yn ymddangos mewn llyfr a DVD yn dwyn y teitl In Person gan Bloodaxe Press sydd yn cynnwys 30 o’u beirdd mwyaf cynhyrchiol a ddarllenir gan lawer ledled y byd. Mae Menna hefyd wedi ymweld â’r Wcráin a bydd yn ymweld â Valencia a Madrid i gyflwyno ysgrifennu creadigol i fyfyrwyr prifysgolion ar ran y Cyngor Prydeinig.
From Morn’ ’til Midnight
Ar gyfer eu cynhyrchiad cyntaf yn yr ail semestr, gweithiodd myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf o’r Ysgol Theatr a Pherfformio gyda’r cyfarwyddwr Stephen Fisher ar From Morn ‘til Midnight gan Georg Kaiser.
Cafodd cynulleifaoedd wledd weledol o’r hen glasur sy’n darlunio cyfres o ddigwyddiadau ym mywyd clerk mewn banc, dros gyfnod diwrnod sy’n dechrau gyda lladrad.
Ar daith yn yr UDA...
Mae myfyrwyr yr Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau wedi mynd i’r Unol Daleithiau ar gyfer profiad bythgofiadwy. Maent yn astudio yn Ohio fel rhan o raglen gyfnewid addysgol rhwng Prifysgol Rio Grande a’r Coleg.

Tra yno, byddant yn llwyfannu New Worlds, sef drama ddyfais sydd wedi’i seilio ar hanesion dau deulu o Gilcennin, Gorllewin Cymru rhwng 1818 a 1861. Bu’r Cyfarwyddwr a’r Dramodydd adnabyddus Ian Rowlands yn gweithio gyda’r myfyrwyr ar y cynhyrchiad a bydd yn ymuno â nhw yn yr UD. Gan ddisgrifio’r cyd-destun hanesyddol, meddai Ian “Tra gwnaeth un teulu eu cartref yn y Byd Newydd dros yr Iwerydd, symudodd y llall i Fyd Newydd diwydiannol De Ddwyrain Cymru. Mae’r ddrama’n canolbwyntio ar stori dau gariad sy’n cael eu rhannu gan gefnfor ond sy’n parhau yn ffyddlon i’w gilydd. Bydd y sioe gyflym, gorfforol hon yn ddisgrifiad teimladwy o ddau gariad a fydd yn cael ei pherfformio yn erbyn trac sain sy’n gymysgedd o emynau Cymraeg a cherddoriaeth gwerin Americanaidd”.
Bydd New Worlds yn cael ei berfformio gyntaf yn y Producers’ Club II yn Efrog Newydd yn ystod dathliadau Cymru yn Efrog Newydd ddiwedd mis Chwefror. Bydd y cynhyrchiad yn dychwelyd i Ohio er mwyn teithio i gymunedau lleol, lle mae nifer o ddisgynyddion Cymreig yn byw o hyd.
Tra yn Efrog Newydd bydd criw o’u cyd-fyfyrwyr yn y Drindod yn ymuno â’r actorion er mwyn ffurfio Côr Siambr y Drindod a fydd yn perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau a drefnir fel rhan o ddathliadau Llywodraeth y Cynulliad yn y ddinas. Bydd y côr, a arweinir gan Eilir Owen Griffiths, yn perfformio yng Nghapel St Paul, Eglwys y Drindod, Wall Street.
Taith myfyrwyr yn boblogaidd gydag Ysgolion
Yn dilyn llwyddiant eu taith o A Rotten Little Story gan Dr Jim McCarthy o’r Drindod, bydd myfyrwyr yr Ysgol Theatr a Pherfformio yn mynd â chynhyrchiad o Be My Baby ar daith o dan gyfarwyddyd Karl Hibbert.
Lleolir drama Amanda Whittington yn 1964 ac fe’i perfformir gyda cherddoriaeth fyw y ddegawd bop fythgofiadwy honno. Mae Be My Baby yn edrych mewn ffordd deimladwy a difyr ar fywydau criw o ferched sy’n cael eu hanfon i gartref ‘Mam a Baban’ am eu bod yn feichiog ac yn ddibriod. Wrth i label cywilydd cymdeithas bwyso arnynt, mae’r merched yn sylweddoli y bydd yn rhaid iddynt gael eu babanod wedi eu mabwysiadu.
Bydd y cynhyrchiad yn teithio i Theatr Ieuenctid Merlin, Theatr Ieuenctid Gwaun, Canolfan Gymunedol Wdig, Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys, Y Ganolfan Ddrama, Llandrindod, Theatr Ieuenctid y Torch, Ysgol Gyfun Llanhari, Ysgol Gyfun Pantycelyn, Ysgol Gyfun Penfro, Ysgol Gyfun Greenhill, Theatr Ieuenctid Class Act a bydd perfformiad hefyd yn y Coleg.
Lansio Cystadleuaeth Ffilm Fer
Roedd yn bleser gan Tŷ Ffilm, clwb ffilmiau annibynnol y Drindod, groesawu Rhodri ap Dyfrig i gyflwyno amrywiaeth o ffilmiau byr. Mae Rhodri’n fwyaf adnabyddus efallai am Pictwrs, cyfres o ddigwyddiadau yn arddangos ffilmiau byr a gynhyrchwyd gan wneuthurwyr ffilmiau yng Nghymru a’r tu hwnt. Fe hefyd yw un o sylfaenwyr Sesh.tv - sef gwefan fideo gymdeithasol yn y Gymraeg a lansiwyd yn ddiweddar.
Bydd Rhodri ymhlith y beirniaid ar gyfer Cystadleuaeth Ffilm Fer Tŷ Ffilm sydd yn agored i bawb dros 16 oed. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw dydd Gwener 16 Mai a chaiff y ffilmiau buddugol eu sgrinio mewn seremoni wobrwyo yn Theatr Y Stiwdio yn y Drindod ddydd Mawrth 17 Mehefin fel rhan o Ŵyl y Drindod.
Myfyrwyr yn cael profiad o ddigwyddiadau byw
Ymwelodd myfyrwyr yr Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau â set rhaglen wleidyddol S4C Pawb a’i Farn gan gwrdd â’r staff a’r cyflwynydd Dewi Llwyd. Yn ogystal cymeron nhw ran yn narllediad byw y rhaglen o Gaerfyrddin. Yn ystod yr wythnos fe fu BBC Radio Cymru yn yr ysgol yn cynnig gweithdy sgiliau technegol, cynhyrchu a chyflwyno yng nghwmni Maggie Dodd, a Glyn Wise o Big Brother. Darlledwyd deunydd o'r gweithdy ar wasanaeth C2 Radio Cymru.
Cymrawd Madog yn ymweld â’r Coleg
Roedd y Coleg yn falch o gael croesawu Benji Davies o Brifysgol Rio-Grande, Ohio fel darlithydd gwadd yn yr adran Celfyddyd Gain. Bob blwyddyn, mae Rio Grande yn dyfarnu Cymrodoriaeth ar gyfer Astudiaethau Cymreig drwy ei Ganolfan Madog. Fel Cymrawd Madog 2008 treuliodd Benji ran o’i amser yn tynnu lluniau o wahanol fannau yng Ngorllewin Cymru er mwyn eu cynnwys mewn gwaith celf o argraffiadau traddodiadol yn adlewyrchu ei brofiadau yng Nghymru.
Mae’r adran Celfyddyd Gain wedi datblygu cysylltiadau cryf gydag Ohio yn dilyn ymweliad y darlithydd Bryan Thomas â’r Brifysgol yn 2004 i draethu darlithiau gyda’r darlithydd Kevin Lyles. Ers ei ymweliad mae Kevin Lyles wedi ymweld â’r Drindod fel rhan o’r cynllun cyfnewid staff sy’n bodoli rhwng y ddau sefydliad.
Llun: Michelle Harris a Benji Davies gyda Nikki Warlow a Josh Roberts yn y cefndir.


