English
Map o'r Safle
Ysgol y Celfyddydau Creadigol a Dyniaethau

Mae’r Labordy Cyfryngau’n cynnwys dwy ystafell aerdymherus sy’n gartref i rwydwaith Apple Mac a rhai o’r i-Mac's craidd dwbl a’r cyfrifiaduron tŵr pedwar ac wyth craidd diweddaraf. Mae meddalwedd o safon diwydiant wedi’i osod ar bob peiriant a gallant recordio ar CD-R's and DVD-R's.

Ceir ystod eang o gyfleusterau ar gyfer creu ffilmiau yn cynnwys:

  • Camerâu fideo Sony a Panasonic - SD a HD
  • Meicroffonau i’w defnyddio yn y stiwdio ac ar leoliadau
  • Traciau trol
  • ‘Fig Rigs’
  • Camera sefydlog
  • Braich camera
  • Goleuadau
  • Sgriniau gwyrdd yn y stiwdio a rhai cludadwy
  • Recordwyr sain Solid State
  • Recordwyr DVD

Gellir golygu ffilmiau gan ddefnyddio i-Movie HD, rhaglen ar lefel sylfaenol, neu gan ddefnyddio Final Express HD a Final Cut Studio. Mae Final Cut yn cael ei ddefnyddio’n helaeth yn y diwydiant ffilm a theledu gan gwmnïau megis 20th Century Fox a’r BBC.

Os hoffech wybod mwy am y system olygu Final Cut a ddefnyddir gennym ni, defnyddiwch y cyswllt isod i glywed am brofiadau’r Brodyr Cohen, 20th Century Fox a’r BBC.

http://www.apple.com/finalcutstudio/

Mae’r stiwdio recordio a golygu a adnewyddwyd yn ddiweddar yn defnyddio desg gymysgu aml-drac digidol, allweddell ddigidol 88 allwedd effaith morthwyl, a meicroffonau o safon diwydiant i ddarparu profiad realistig

Mae’r cyfleusterau ar gyfer cyfryngau newydd yn cynnwys:

  • Flash
  • Dreamweaver

Mathau eraill o feddalwedd a addysgir yw:

  • Photoshop
  • Illustrator
  • Pro-Tools

Hefyd mae Microsoft Office wedi’i osod ar y Mac’s er mwyn cydweddu â gwaith ysgrifenedig y myfyrwyr a gwblheir ar PC's eraill. Mae’r holl gyfrifiaduron yn y labordy cyfryngau ar rwydwaith a hefyd darperir mynediad diwifr ar gyfer defnyddwyr gliniaduron.

I gynorthwyo’r darlithwyr mae taflunydd a sgrin fawr i arddangos y feddalwedd a’r damcaniaethau ymarferol.

Diweddarir yr holl offer yn aml er mwyn darparu’r profiad mwyaf cynhwysfawr posibl ar gyfer y myfyrwyr. Mae’r arddangosydd cyfryngau ar gael i gynorthwyo â phrosiectau ac i roi cyngor ar sail ei brofiadau.

Mae’r graddau mewn Hysbysebu a Chelfyddyd Gain yn gwneud defnydd o gamerâu digidol SLR a chamerâu pont lled-awtomatig i greu delweddau.

Ceir cyfleusterau sganio ac argraffu yn yr ystafelloedd yn cynnwys argraffwyr lliw A3 ac A1.

Mae sawl gofod stiwdio ar gyfer myfyrwyr celf gain ynghyd ag odyn a chyfleusterau castio a stiwdio cerameg gyda’r holl gyfarpar. Yn ogystal mae ardal gweithio pren gydag ystod eang o offer. Caiff y myfyrwyr ddefnyddio deunyddiau o ansawdd broffesiynol, a manteisio hefyd ar arbenigedd staff profiadol all roi cyngor ar greu ac arddangos gwaith.

Mae gan yr ysgol ystod eang o gyfleusterau ar gyfer gweld cynnwys digidol, yn eu plith sgrin LCD diffiniad uchel (HD) gyda chwaraewr Blu-Ray a pheiriant gwylio cyfryngau HD diwifr Apple TV.

Mae’r addysgu’n digwydd mewn amryw fannau yn cynnwys sawl gofod stiwdio, theatrau darlithio ac ystafelloedd seminar. Ceir ymweliadau cyson ag orielau celf, gwyliau a digwyddiadau celfyddydol. Mae’r ysgol yn elwa o’i berthynas agos â Parthian Books, cwmni cyhoeddi sy’n cyhoeddi’r gyfres Library of Wales ac sydd wedi’i leoli ar y campws. (www.parthianbooks.co.uk)

Yn cynorthwyo staff academaidd profiadol yr Ysgol mae amryw siaradwyr gwadd o fri sydd yn ymweld yn rheolaidd.

 

© 2008 Coleg Prifysgol y Drindod / Ysgol y Celfyddydau Creadigol a Dyniaethau.