English
Map o'r Safle
Ysgol y Celfyddydau Creadigol a Dyniaethau

Cyrsiau

BA Celfyddyd Gain - Arddangosfa

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf yn ei ystyr ehangach. Byddwch yn ymwneud â gwaith ymarferol ym meysydd paentio, gwaith tri-dimensiwn, fideo a chelf digidol. Dros y tair blynedd byddwch yn canolbwyntio ar gynhyrchu ac arddangos eich gwaith eich hunan a bydd hyn yn cael ei danategu gan ddamcaniaethau a hanesion celfyddyd ynghyd â dealltwriaeth eang o bwysigrwydd y diwylliannau gweledol yn y byd modern. Mwy...

MA Ysgrifennu Creadigol

Lluniwyd cwrs MA y Drindod mewn Ysgrifennu Creadigol ar gyfer ysgrifenwyr brwd sy’n dymuno creu darnau sylweddol o waith ac ehangu eu profiad fel ysgrifenwyr. Mwy...

MBA Rheolaeth y Celfyddydau

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes rheolaeth y celfyddydau, MBA Coleg Prifysgol y Drindod yw’r rhaglen ddelfrydol i’ch helpu i wireddu’ch uchelgais. Gellir ei astudio’n rhan-amser neu’n llawn-amser, ac mae’n darparu cyfoeth o gyfleoedd rhwydweithio yn y sector gan gynnwys lleoliadau gwaith. Mwy...