Digwyddiadau’r Gorffennol
08.06.2009 - 19.06.2009 Arddangosfa BA Celfyddyd Gain
STAGE one. LLWYFAN un.
Oriel Lliw, Canolfan y Celfyddydau Pontardawe.
Ebrill 4 –Mai 2, 2009
Mae’r artistiaid Tim Davies ac Iwan Bala yn dewis ac yn curadu ar y cyd arddangosfa gyda myfyrwyr y cwrs BA Celfyddyd Gain, Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin. Mae’r arddangosfa hon mewn dwy ran yn arddangos talent newydd ac yn darparu myfyrwyr â phrofiad uniongyrchol o guradu a llunio arddangosfeydd.
Mae Iwan Bala yn darlithio yng Ngholeg Prifysgol y Drindod, a Tim Davies yn darlithio ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae’r ddau wedi arddangos gyda’i gilydd lawer gwaith, ac nawr maent yn creu cysylltiadau rhwng y ddau sefydliad ac yn datblygu cysylltiadau cryfach gydag Oriel Lliw.
Bydd ymagwedd gyfryngau cymysg y Drindod at greadigrwydd yn amlwg, gan gynnwys cyfryngau digidol, gosodiadau, paentiadau a gwaith tri dimensiwn. I’r rhan fwyaf o fyfyrwyr dyma’r cam cyntaf i arddangos eu gwaith ar lefel broffesiynol, ac mae’r arddangosfa’i hun yn llwyfan lle maent yn cyflwyno’u syniadau i’r byd.
"The Volume of Me" Sarah Lewis. Gosodiad (paent du, sialc) 2008.
Fforwm Creadigol
15/10/08 Ric Bower 11.30am yn DR3
22/10/08 Dr Karen Ingham 11am yn CJ8
12/11/08 Iwan Bala- 11.30am DR3 (Theatr Fach)
'Dychymyg Gwirioneddol' Anerchiad â Darluniau
19/11/08 Eva Bartassek- yn CJ8 11:30am
Mae Eva Bartussek yn ffotograffydd a leolir yn Abertawe.
Trwy themâu ac ymagweddau amrywiol, mae’i gwaith yn archwilio posibiliadau creadigol ffotograffiaeth ddogfen a phortreadau.
Yn ystod ei chyflwyniad bydd yn trafod dulliau o gyfuno hunanfynegiant a dogfennu trwy ffotograffiaeth.
Yn amrywiaeth eang ei gwaith mae’i chryfder. Arddull a llais ffotograffig unigryw Eva sy’n ddolen gyswllt i hyn. Bydd yn arddangos ffotograffau sy’n cwmpasu meysydd megis ffotograffiaeth llwyfan / perfformio, ffotograffiaeth ddogfen, dyddiadurol, cysyniadol, ffasiwn a bywyd llonydd.
26/11/08 Peter Finnemore- yn DR3 11:30am

10/12/08 Yr Athro Beryl Graham- yn CJ4

