Croeso i'r Adran Gyllid
Nod yr Adran Gyllid yw cefnogi’r Brifysgol o ran cynllunio, rheoli a chynyddu gwerth trwy ddarparu gwasanaeth ariannol cost-effeithiol, effeithlon a phroffesiynol sy’n cynnwys cyngor, cyfarwyddyd, arweiniad a chefnogaeth i bawb sy'n perthyn i'r Brifysgol, a hynny er mwyn iddi gyflawni ei hamcanion mewn modd cynaliadwy, wedi'i reoli a chyfrifol.
Yr Adran Gyllid sy’n gyfrifol am lunio Datganiadau Ariannol y Brifysgol ac am reoleiddio holl incwm a gwariant y Brifysgol, ac am sicrhau bod y systemau ar gyfer cyfrifo a rheolaeth fewnol yn ddigonol a’u bod yn unol â’r rheoliadau a osodwyd.
