Ffliw Moch: Cyfarwyddyd a Chyngor i Fyfyrwyr a Staff
Symptomau ffliw moch:
Mae symptomau ffliw moch yn debyg i symptomau ffliw arferol ac yn gallu cynnwys:
- Twymyn
- Peswch
- Dolur gwddf
- Pen tost
- Blinder
- Oerfel
- Colli archwaeth
- Cyhyrau poenus
Lawrlwythwch y daflen ffeithiau ‘Cyngor am beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod ffliw moch arnoch chi' yma: Taflen Ffeithiau (pdf)
Os byddwch chi’n datblygu symptomau tebyg i ffliw:
- Peidiwch â dod i’r Brifysgol, arhoswch gartref gan osgoi cysylltiad â phobl eraill
- Galwch eich Meddyg Teulu neu gofynnwch am gyngor gan Galw Iechyd Cymru (NHS Direct) ar 0845 4647
- Peidiwch â mynd i feddygfa’ch Meddyg Teulu oni bai bod Galw Iechyd Cymru (0845 4647) neu’r Llinell Wybodaeth Ffliw Moch (0800 1 513 513) yn dweud wrthych chi am wneud hynny
- Dylech alw eich Meddyg Teulu ar unwaith os ydych yn dioddef o afiechyd arall difrifol, os ydych chi’n feichiog, os oes gennych blentyn sâl sy’n llai na blwydd oed, os yw eich cyflwr yn gwaethygu’n sydyn ac yn ddifrifol neu os yw eich cyflwr yn parhau i waethygu ar ôl saith niwrnod (neu bum niwrnod yn achos plentyn)
- Dylai myfyrwyr gysylltu â’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr ar 01267 676677, neu drwy e-bost at d.rogers@drindod.ac.uk Cynghorir myfyrwyr hefyd i gysylltu â’u tiwtor personol neu’u Pennaeth Ysgol. Mae’n bosibl hefyd y bydd myfyrwyr yn dymuno cysylltu ag Undeb y Myfyrwyr ar 01267 237794, neu drwy e-bost at supresident@drindod.ac.uk
- Cysylltwch â ffrind ffliw os oes angen help arnoch i gael meddyginiaethau neu gyflenwadau. Cynllun Ffrindiau Ffliw (pdf)
- Dylai staff gysylltu â’u rheolwr llinell a'r adran Adnoddau Dynol ar 01267 676725 , neu drwy e-bost at personnel@drindod.ac.uk
Sylwer
- Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n byw mewn neuadd breswyl ac rydych chi’n datblygu symptomau tebyg i’r ffliw, gofynnir i chi aros yn eich ystafell ar eich pen eich hun a ffonio eich Meddyg Teulu neu gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647. Dylech gysylltu â’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr ar 01267 676677, neu drwy e-bost at d.rogers@drindod.ac.uk. Cysylltwch hefyd â’ch warden neuadd os gwelwch yn dda
- Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n byw oddi ar y campws, gofynnir i chi aros yn eich ystafell ar eich pen eich hun a ffonio eich Meddyg Teulu neu gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647. Dylech gysylltu hefyd â’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr ar 01267 676677, neu drwy e-bost at d.rogers@drindod.ac.uk
- Os oes angen cyngor neu wybodaeth arnoch ynglŷn â ffrindiau ffliw, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 01267 676830 neu Undeb y Myfyrwyr ar 01267 237794
Dyma’r manylion cysylltu ar gyfer Meddygon Teulu yng Nghaerfyrddin:
Meddygfa San Pedr: 01267 236241
Meddygfa Furnace House: 01267 236616
Meddygfa Lôn Morfa: 01267 234774
Gellir cael y wybodaeth ddiweddaraf am ffliw moch o nifer o ffynonellau:
http://www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk
http://www.nhs.uk/AlertsEmergencies/Pages/Pandemicflualert.aspx
Mae Llinell Wybodaeth Ffliw Moch ar gael ar 0800 1 513 513
Gwyliwch yr ymgyrch hysbysebu ar y teledu: Ei ddal, ei daflu, ei ddifa yma
Yn ogystal mae gan Galw Iechyd Cymru restr o Gwestiynau ac Atebion am Ffliw Moch sy’n cynnig rhagor o gyngor
Os ydych chi’n bwriadu teithio dramor, darllenwch gyngor teithio’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar http://www.fco.gov.uk/travel neu ffoniwch 0845 850 2829 am y wybodaeth ddiweddaraf
