English
Map o'r Safle
Cyrsiau Israddedig

Croeso

Dr Medwin HughesWrth ddewis dilyn cwrs Prifysgol rydych yn gwneud ymrwymiad a buddsoddiad sylweddol yn eich dyfodol.

Rydym ni yng Ngholeg Prifysgol y Drindod yn cymryd eich ymdrechion chi yn hyn o beth o ddifri, ac yn addo dangos yr un ymrwymiad i sicrhau y bydd eich profiad chi fel myfyriwr yma yn eich annog i ddatblygu eich potensial i’r eithaf. Fe gewch, wrth gwrs, wybodaeth academaidd gadarn gennym, ond hefyd, credwn y bydd yr amrywiaeth gyfoethog o brofiadau diwylliannol a chymdeithasol a gewch fel myfyriwr yma yn eich helpu i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.

Mae’r prosbectws yn rhoi manylion bras i chi o’n cyrsiau llawn-amser a rhan-amser. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl o fywyd fel myfyriwr yn y Drindod. Mae’r ystyriaethau hyn yr un mor bwysig â’i gilydd wrth i chi ddewis prifysgol neu goleg.

Mae’r Prosbectws yn cynnwys manylion bras am drefniadau addysg uwch yn y gornel hon o Dde Orllewin Cymru yn y dyfodol.  Mae’r Drindod yn ymateb i agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer trawsnewid darpariaeth addysg drwy gysylltu gyda cholegau addysg bellach ac ysgolion ar draws De Cymru er mwyn creu cyfleoedd cyffrous ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol.

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch am gyrsiau neu ddatblygiadau yn y Drindod, ewch at ein gwefan, dewch i’n Dyddiau Agored neu ymwelwch â stondin y Drindod yn y nifer o ddigwyddiadau gyrfâu yr ydym yn eu mynychu bob blwyddyn.

Carwn nodi hefyd y ffaith bod y Drindod yn ymuno â Phrifysgol Cymru Llambed er mwyn creu Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Bydd y Brifysgol newydd yn croesawu ei myfyrwyr cyntaf yn 2010 i’w champws yn Nghaerfyrddin a Llambed ac eisoes y mae wedi sicrhau buddsoddiad o  £14.3 miliwn o du Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn datblygu cyfleusterau ac adnoddau i fyfyrwyr.  Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni pan fo prifysgolion eraill ar draws y DU yn wynebu toriadau sylweddol a hyd yn oed gau cyrsiau, mae’r buddsoddiad hyn mewn addysg uwch yn ddigyffelyb.

Mae’r rhain yn fentrau pellgyrhaeddol a fydd bob amser yn cadw’r angen i sicrhau’r profiad addysgol gorau i’n myfyrwyr, ar ac oddi ar y campws, yn greiddiol iddynt.

Edrychaf ymlaen at eich croesawu pe byddech yn penderfynu dod yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol y Drindod.

Dr Medwin Hughes DPhil DPS FRSA
Is-Ganghellor