English
Map o'r Safle
Cyrsiau Israddedig

Gwerth ychwanegol

CampwsY mae’r Drindod yn cynnig nifer o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn ehangu’ch profiadau. Mae rhai yn rhan o’r cyrsiau ac eraill yn ychwanegol. Maent i gyd fodd bynnag wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddatblygu mwy o sgiliau proffesiynol a phersonol.

Ymweliadau a gwaith maes

MyfyrwyrCynigir ymweliadau astudio a gwaith maes i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr. Er nad ydynt, yn aml, yn rhan hanfodol o’r cyrsiau, maent yn ymestyn eich profiad o’ch maes arbenigol yn ogystal â’ch cynorthwyo i gymhwyso’ch gwybodaeth i sefyllfa broffesiynol o fewn y maes. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi mwynhau ymweliadau a theithiau i barciau cenedlaethol, amgueddfeydd, orielau a theatrau ym Mhrydain, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau celf Llundain a sioeau yn y West End. Mae rhai myfyrwyr hyd yn oed yn teithio i wledydd fel Botswana, Gwlad Pwˆ yl, Norwy, Seland Newydd, Ffrainc, Yr Eidal, Iwerddon, Sbaen a’r Unol Daleithiau er mwyn astudio a chael gogwydd rhyngwladol ar eu pwnc.

Cynllun lleoliadau

BotswanaMae Coleg Prifysgol y Drindod yn rhan o’r rhaglen GO Wales. Mae Go Wales yn cynnig nifer o wasanaethau sydd wedi’u profi i helpu myfyrwyr, graddedigion a busnesau yng Nghymru yn cynnwys lleoliadau gwaith profiad gwaith, cyllid ar gyfer hyfforddiant a chronfa ddata ar-lein o swyddi yng Nghymru.

gowales

Lleoliadau gwaith - Rhaglen deg wythnos a luniwyd i roi profiad i fyfyrwyr a graddedigion o weithio mewn mentrau bach a chanolig. Mae nifer fawr o’n graddedigion sydd wedi dilyn y cynllun hwn yn cael swydd barhaol.

Blas ar waith - Er mwyn dilyn gyrfa yn eich dewis faes, mae’n bwysig iawn eich bod yn cael profiad o weithio yn y maes hwnnw. Mae profiad gwaith weithiau’n arwain at swydd; a gall fod o gymorth wrth i chi ymgeisio am waith neu le ar gwrs addysg uwch.

Siop swyddi - Gwasanaeth sy’n cael ei redeg ar-lein a thrwy’r Ganolfan Gyrfaoedd yw’r Siop Swyddi, ac mae gennym fanylion am nifer o swyddi rhan-amser/achlysurol yng Nghaerfyrddin ar ein cronfa ddata.

MyfyrwyrMeithrin Mentergarwch

Mae’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu yn gyfrifol am gefnogi datblygiad gwaith y Drindod y tu allan i’w phrif swyddogaeth o ran addysgu a dysgu. Mae hyn yn cynnwys y modd y mae’r Brifysgol yn ymwneud yn allanol â busnesau, sefydliadau yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus, yn ogystal â chydlynu’r gefnogaeth dros weithgareddau megis sicrhau statws Masnach Deg, Gŵyl y Drindod a datblygiad cymunedol.

Mae’r Swyddfa Ymchwil a Datblygiad yn rhoi’r cyfle i chi fod yn rhan o weithgareddau a fydd yn cynyddu’ch cyflogadwyedd,  gan roi’r cyfle i chi archwilio’r posibiliadau o ran gweithio ar eich liwt eich hun /entrepreneuriaeth a datblygu sgiliau i’w defnyddio yn eich bywyd pob dydd.

Hogi Sgiliau ym maes Cyflogadwyedd/ Mentergarwch

Diben The Edge Enterprise yw cefnogi entrepreneuriaeth myfyrwyr/graddedigion a datblygiad sgiliau personol. Gall y myfyrwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau a drefnir trwy glwb mentergarwch a hefyd trwy gydweithredu â sefydliadau eraill. Mae The Edge Enterprise yn cefnogi gweithgareddau i israddedigion a graddedigion lle gallant archwilio’r posibiliadau ar gyfer gweithio ar eu liwt eu hunain, gan gynnwys cymorth ariannol ar gyfer cychwyn egin fusnesau sydd â’r gallu i dyfu’n fawr. Mae modd i fyfyrwyr a staff elwa’n uniongyrchol ar y gweithgareddau hyn trwy sicrhau cefnogaeth ar gyfer datblygu prosiectau, cychwyn syniadau busnes, neu droi syniad yn fusnes go iawn. Yn ogystal, trefnir sesiynau ar bob math o bethau megis ymddangosiad personol a chyfraith cwmnïau.

MyfyrwyrAr y Celfyddydau Creadigol a Diwylliannol mae pwyslais iCreu.  Mae’n cynnig hyfforddiant, cyfleoedd rhwydweithio a datblygu i fyfyrwyr a busnesau yn y maes Creadigol, er enghraifft gweithdai ar hunan gymhelliant, marchnata, TG a hyfforddiant o ran meddalwedd greadigol. Yn ogystal ag annog entrepreneuriaeth yn y sector artistig mae hyfforddiant a digwyddiadau iCreu yn galluogi artistiaid ac entrepreneuriaid creadigol i archwilio’u potensial creadigol, er mwyn meithrin sgiliau cyffredinol a fydd yn hybu mynegiant a chreadigrwydd artistig. Os ydych yn unigolyn creadigol sy’n chwilio am gefnogaeth neu ddatblygiad proffesiynol a hyfforddiant o ran sgiliau, gallwn fod o gymorth i chi yn iCreu.

Partneriaethau addysgol

Cyfarwyddwr Rygbi y Scarlets, Phil Davies a’r Prifathro Dr Medwin Hughes gyda myfyrwyr y Drindod/Academi y ScarletsMae gan y Drindod fwy o brofiad o ddarparu cyrsiau hyfforddi athrawon nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, ac mae gennym draddodiad cadarn ym maes addysg. Mae’r ddarpariaeth wedi ehangu bellach i gynnwys graddau sy’n gysylltiedig ag addysg, cynhwysiant cymdeithasol a gwaith ieuenctid a chymuned. Mae ein myfyrwyr yn elwa o’n profiad a’n cysylltiadau eang gyda rhychwant o sefydliadau.

Llun: Cyfarwyddwr Rygbi y Scarlets, Phil Davies a’r Prifathro Dr Medwin Hughes gyda myfyrwyr y Drindod/Academi y Scarlets

Mae gennym bartneriaethau gyda dros 250 o ysgolion cynradd a 30 ysgol uwchradd. Rydym yn cydweithio’n agos gyda nifer o sefydliadau sy’n ymwneud ag addysg a datblygiad yr unigolyn, gan gynnwys canolfannau teuluol a chymdeithasol, meithrinfeydd, mudiadau chwaraeon, carchardai a nifer o sefydliadau tramor. Yn ddiweddar arwyddwyd cytundeb gydag Academi Rygbi Scarlets Llanelli.

Canolfan Addysg Athrawon De Orllewin Cymru

Fel rhan o ddatblygiadau cenedlaethol ym maes hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon, mae Coleg Prifysgol y Drindod a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe wedi sefydlu Canolfan Addysg Athrawon De Orllewin Cymru. Mae’r ganolfan hon yn cydweithio’n agos ag ystod o ysgolion partner ar hyd gorllewin a de Cymru i ddarparu amrywiaeth o raglenni wedi eu hachredu ar gyfer darpar athrawon ac athrawon profiadol fel ei gilydd. Coleg Prifysgol y Drindod sy’n gyfrifol am y radd BA Addysg Gynradd a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe am y rhaglen TAR Cynradd.