Gwybodaeth academaidd
Rhaglenni gradd israddedig
Mae holl raglenni gradd israddedig y Drindod yn rhai modwlar. Uned astudio yw modwl gyda lefel arbennig (4, 5 neu 6 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol), statws credyd (10 neu 20 pwynt), maes llafur, deilliannau dysgu pendant a gofynion asesu penodol.Yn ôl rheoliadau Prifysgol Cymru, mae’n rhaid cael 360 credyd er mwyn derbyn Gradd Anrhydedd, 240 credyd ar gyfer Diploma mewn Addysg Uwch, a 120 credyd ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg Uwch. Yn achos myfyrwyr llawn-amser, mae Lefelau 4, 5 a 6 fel arfer yn cyfateb i Flynyddoedd 1, 2 a 3.
Gall myfyrwyr rhan-amser astudio hyd at 80 credyd mewn un flwyddyn academaidd, a gan amlaf bydd gradd anrhydedd yn cymryd o leiaf 6 blynedd i’w chwblhau. Ambell waith gall profiad perthnasol a dysgu blaenorol ganiatáu i chi gael eich esgusodi o rai modylau.
Rhaglenni gradd sylfaen
Mae’r Brifysgol yn cynnig graddau sylfaen mewn:
- Astudiaethau Cynhwysol ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu
- Datblygiad Cymunedol
- Gwaith Aml-Asiantaethol
- Gweinyddu Dwyieithog
- Rheolaeth
- Rheolaeth Twristiaeth
- Technoleg Gwybodaeth Busnes
Lluniwyd y graddau sylfaen hyn i ddiwallu anghenion y gweithlu yn y rhan hon o Gymru ac i alluogi’r unigolyn i ddatblygu yn ei yrfa drwy ennill y sgiliau angenrheidiol.
Dysgu drwy'r gweithle
Mae’r Drindod yn datblygu fframwaith cwricwlaidd a fydd yn diwallu anghenion cyflogwyr a’r cyflogedig ar gyfer dysgu yn y gweithle mewn modd hyblyg ac ymatebol. Bydd hyn yn cynnwys cynnig cyfle i ddysgwyr ennill cymwysterau ar lefel addysg uwch gan ddefnyddio eu gwaith fel prif adnodd ar gyfer y dysgu, ynghyd â chyfleoedd i astudio ystod o bynciau rheolaeth ar-lein drwy Dysgu drwy’r Gweithle, sef set o adnoddau gwe arloesol. Bydd y pynciau a gynigir yn cynnwys Arolygu yn y Gweithle, Rheoli Prosiect, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Mentora a Rheoli Newid a gall unigolion a grwpiau ddefnyddio’r cynnwys yn y gweithle gyda chymorth tiwtorial fel y bo’n briodol.
Tystysgrif addysg uwch
Mae’r Dystysgrif Addysg Uwch yn gwrs hyblyg sydd wedi’i achredu. Bydd yn eich galluogi i ddewis modylau o grwpiau eang o bynciau er mwyn adeiladu rhaglen bersonol fydd yn bodloni’ch diddordebau a’ch gobeithion gyrfaol. Mae pob modwl yn gyfwerth â 10 credyd, oni nodir yn wahanol, ac mae’n rhaid ennill 120 o gredydau ar gyfer y Dystysgrif. Mae’r cymhwyster hwn yn boblogaidd iawn gan ein dysgwyr rhan-amser sydd naill ai’n astudio cwrs yn y Drindod neu mewn nifer o ganolfannau ar draws gorllewin Cymru.
Mae’r rhaglenni’n cynnwys:
- Tyst AU Astudiaethau Gwaith-seiliedig Proffesiynol
- Tyst AU Yn Cyfnod Sylfaen
- Tyst AU Rheolaeth Meithrinfeydd
- Tyst AU Ymarfer Cymraeg a Dwyieithrwydd yn y Blynyddoedd Cynnar
- Tyst AU Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Dychwelyd i addysg
Mae’r Drindod yn cynnig cyfle i astudio un modwl ar y tro. Mae pob modwl gwerth nifer penodol o gredydau ac felly gallwch ddechrau casglu credyd tuag at gymhwyster prifysgol ar gyflymder a fydd yn ateb eich anghenion chi a’ch ffordd o fyw. Mae’n ffordd dda o ailgydio mewn addysg ac yn arbennig o boblogaidd ymysg ein myfyrwyr hyˆ n, sydd efallai yn ei chael hi’n anodd ymrwymo i raglen lawn-amser. Mae’n ffordd hwylus hefyd i rai sydd heb astudio ers cryn amser i ailafael yn y grefft o ddysgu.
Calendr Academaidd
Mae’r flwyddyn academaidd wedi’i rhannu’n ddau semester o 15 wythnos yr un, gan gynnwys cyfnodau astudio ac asesu. Mae’r semester cyntaf yn dechrau ym mis Medi a’r ail tua diwedd mis Ionawr.
Dulliau o astudio
Mae’r rhan fwyaf o raglenni israddedig y Drindod ar gael i’w hastudio’n llawn-amser neu’n rhan-amser. Cynigir rhai modylau i fyfyrwyr rhan-amser yn yr hwyr, naill ai yn y Coleg neu mewn canolfannau yn y gymuned yng ngorllewin Cymru. Mae rhai rhaglenni yn cynnig dulliau astudio hyblyg sy’n cynnwys astudiaeth yn yr hwyr ac ar rai penwythnosau er mwyn galluogi’r sawl sydd mewn gwaith i astudio ar gyfer cymhwyster addysg uwch.
