Sut i gyrraedd y Drindod
Map
Lleoliad y Coleg (pdf)
Map o'r Campws (pdf)
Cyfarwyddiadau
O’r dwyrain (Caerdydd a’r Cymoedd) A48
Ar gylchfan Pensarn ar ddiwedd yr A48, cymerwch yr 2il allanfa sy’n eich tywys dros bont Lesneven. Pan gyrhaeddwch y cylchfan nesaf cymerwch yr allanfa 1af am yr A40 - San Clêr/Hwlffordd.
Ewch yn eich blaen am 200 medr (heibio i B&Q) ac o dan y drosffordd ac yn syth ar ôl pasio oddi tani cymerwch yr heol i’r chwith am Johnstown a fydd yn eich tywys ymlaen i’r drosffordd. Ar gyffordd y drosffordd trowch i’r chwith. Pan gyrhaeddwch y goleuadau trowch i’r chwith yn syth ar ôl pasio Tafarn Cyfeillion (Friends Arms) am Jobswell Road. Ewch i fyny yr heol yma ac o amgylch y tro ar gopa’r bryn ac yna cymerwch yr 2il droad ar y dde i mewn i’r maes parcio. Croeso i’r Goleg Prifysgol y Drindod...
O’r gogledd-ddwyrain (Caer, Wrecsam, Y Trallwng) A40
Ar gylchfan Abergwili cymerwch yr 2il allanfa am Gaerfyrddin. Pan gyrhaeddwch y cylchfan nesaf cymerwch yr allanfa 1af am Gaerfyrddin. Dilynwch y ffordd ddeuol yma wrth ymyl yr afon Tywi. Wrth y cylchfan nesaf cymerwch yr 2il allanfa am Abertawe (yr M4). Pan gyrhaeddwch y cylchfan nesaf cymerwch y 3ydd allanfa am A40 - San Clêr/Hwllffordd ac ewch dros bont Lesneven sy’n croesi’r afon Tywi. Ar y cylchfan nesaf cymerwch yr allanfa 1af, eto am yr A40- San Clêr/Hwlffordd. Ewch yn eich blaen am 200 medr (heibio i B&Q)… fel uchod. Croeso i’r Goleg Prifysgol y Drindod...
O’r gogledd-orllewin (Sir Fôn, Bangor, Caernarfon) A485
Ar y cylchfan 1af cymerwch yr allanfa 1af am yr A40 - Llandeilo/Abertawe/M4 (ffordd ddeuol). Pan gyrhaeddwch y cylchfan nesaf cymerwch yr 2il allanfa am Gaerfyrddin/ Abertawe M4. Dilynwch y ffordd ddeuol yma wrth ymyl yr afon Tywi. Wrth y cylchfan nesaf cymerwch yr 2il allanfa am Abertawe (yr M4). Ar y cylchfan nesaf cymerwch y 3ydd allanfa am A40 - San Clêr/Hwllffordd ac ewch dros bont Lesneven sy’n croesi’r afon Tywi. Ar y cylchfan nesaf cymerwch yr allanfa 1af, eto am yr A40 - San Clêr/Hwlffordd. Ewch yn eich blaen am 200 medr (heibio i B&Q)… fel uchod. Croeso i’r Goleg Prifysgol y Drindod...
O’r gorllewin (Sir Benfro) A40
Tua 1000 llath ar ôl pasio Maes Sioe y Tair Sir cymerwch yr heol i’ch chwith am Johnstown (diwedd y ffordd ddeuol). Ewch yn eich blaen ar yr heol yma hyd nes y cyrhaeddwch oleuadau wrth ymyl Tafarn Cyfeillion (Friends Arms). Trowch i’r chwith yn syth ar ôl pasio y dafarn am Jobswell Road. Ewch i fyny yr heol yma ac o amgylch y tro ar gopa’r bryn ac yna cymerwch yr 2il droad ar y dde i mewn i’r maes parcio. Croeso i’r Goleg Prifysgol y Drindod...
Traveline Cymru
0871 200 2233
Bysiau
National Express
0870 5808080
www.nationalexpress.com
Rheilffordd
08457 484950
www.nationalrail.co.uk
Fferi
Stena Line UK
www.stenaline.co.ukIrish Ferries
www.irishferries.com
Meysydd Awyr
Caerdydd
01446 711111
www.cwlfly.comBirmingham
0844 576 6000
www.bhx.co.ukBryste
0871 334 4444
www.bristolairport.co.ukHeathrow
0870 000 0123
www.heathrowairport.comManceinion
08712 710722
www.manchesterairport.co.uk

