Sut mae gwneud cais
Gwneud cais ar-lein ar http://www.ucas.com
Côd UCAS Coleg Prifysgol y Drindod TCC T80
Mae pob cais i astudio ar gyfer cwrs addysg uwch llawn-amser yn y Drindod yn cael ei wneud drwy UCAS gan ddefnyddio Ymgeisio neu Apply – system ymgeisio ar-lein sydd ar gael ar www.ucas.com. Y ffi gwneud cais am y gwasanaeth hwn yw £19 sterling am fwy nag un dewis, neu £9 sterling am ddewis unigol. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae rhai gwahaniaethau bach yn y ffordd y bydd UCAS yn derbyn eich cais.
UCAS Uned Gwasanaethau Cwsmer: 0871 468 0468
Myfyrwyr mewn ysgol neu goleg a gofrestrir gydag UCAS
Mae holl ysgolion a cholegau’r DU (a nifer fechan o sefydliadau tramor) wedi eu cofrestru gydag UCAS er mwyn rheoli ceisiadau eu myfyrwyr. Bydd rhaid i chi gael ‘cyfrinair’ oddi wrth eich tiwtor neu’ch ymgynghorydd gyrfaoedd, y bydd ei angen arnoch wrth gofrestru gydag UCAS. Mae hwn yn cydnabod y sefydliad y byddwch yn gwneud cais ohono ac mae’n gadael i’ch canolwr atodi’ch tystlythyr. Byddwch yn talu am eich cais naill ai drwy gerdyn credyd neu gerdyn debyd ar-lein, neu drwy dalu’ch ysgol neu ganolfan gofrestredig arall a fydd wedyn yn talu UCAS.
Ymgeiswyr annibynnol yn y DU
Mae ymgeiswyr eraill o’r DU nad ydynt mewn ysgol neu goleg yn gwneud cais ar-lein yn annibynnol ac maent yn gyfrifol am dalu’r ffi gywir i wneud cais, am dderbyn ac atodi’r tystlythyr academaidd, ac am gyflwyno’r cais wedi’i gwblhau ar-lein i UCAS. Dylai’ch canolwr eich adnabod yn ddigon da i ysgrifennu amdanoch a’ch addasrwydd ar gyfer addysg uwch. Ni fydd UCAS yn derbyn tystlythyrau gan eich teulu, perthnasau eraill neu ffrindiau. Bydd rhaid i chi wneud eich taliad ar-lein gan ddefnyddio cerdyn credyd neu gerdyn debyd. Nid oes rhaid i’r cerdyn fod yn eich enw chi, ond bydd angen caniatâd deiliad y cerdyn arnoch.
Yn achos pob ymgeisydd, mae cyfarwyddiadau llawn ar http://www.ucas.com i’w gwneud hi mor hawdd ag sy’n bosib i chi lenwi’ch cais ar-lein, yn ogystal â thestun help lle bynnag y bo’n addas. Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch ag Uned Gwasanaethau Cwsmer UCAS ar 0871 468 0468, ar agor Llun - Gwener, 08:30-18:00.
Myfyrwyr israddedig rhan-amser
Cysylltwch â’r Brifysgol gan nodi pa gwrs rhan-amser y mae gennych ddiddordeb ynddo. Fe wnewch dderbyn pecyn ymgeisio gyda manylion llawn y broses o wneud cais.
Coleg Prifysgol y Drindod
Caerfyrddin
SA31 3EP
01267 676767
cofrestrfa@drindod.ac.uk
