English
Map o'r Safle
Cyrsiau Israddedig

Undeb y myfyrwyr

Undeb y myfyrwyrMaen nhw’n dweud mai yn y Brifysgol mae pobl yn cwrdd â’u cyfeillion oes, a ble’n well i gwrdd â nhw nag yn un o’r digwyddiadau a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr? Mae’r Undeb yn darparu pob dim fydd ei angen arnoch fel myfyriwr y tu allan i oriau darlithio. Mae gennym gyfleusterau gwych ar y campws lle gallwch ymlacio a mwynhau’ch amser yma. Galwch i mewn i gwrdd â ffrindiau rhwng darlithoedd, i fwynhau byrbryd amser cinio, neu i fwynhau’r nifer o ddigwyddiadau rydym yn eu trefnu i’ch diddanu yn yr hwyr. Gwnawn ein gorau glas i sicrhau y bydd eich amser yn y Drindod yn fythgofiadwy!

Mae Undeb y Myfyrwyr yn sefydliad democrataidd, sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Mae yma dîm o swyddogion etholedig sy’n gweithio gyda’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd i arwain y gweithgareddau a’r gwasanaethau. Mae adeilad yr Undeb wedi’i leoli yng nghanol y campws, ac mae’n cynnig bron popeth sydd ei angen arnoch y tu allan i’ch darlithoedd. Mae’r Undeb yn cael ei redeg fel elusen, sy’n golygu bod unrhyw elw a wnawn yn cael ei fuddsoddi yn yr Undeb i wella’r cyfleusterau a chadw costau’n isel.

Undod

Undeb y myfyrwyrUndod yw clwb nos yr Undeb ac mae hwn yn un o’r canolfannau adloniant gorau yng Ngorllewin Cymru. Y mae’n adnodd sydd wedi’i adeiladu at y pwrpas gyda system sain o’r radd flaenaf, sgriniau mawrion a goleuo deallus. Drwy gydol y flwyddyn mae Undod yn croesawu nosweithiau clwb, cerddoriaeth fyw, comedi a chabaret gan y gorau o berfformwyr lleol a rhyngwladol.

Undeb y myfyrwyrBar Attic

Y Bar Attic yw calon Undeb y Myfyrwyr – man y gallwch ei ystyried yn gartref! Dewch i fwynhau’r awyrgylch hamddenol a chyfeillgar – ddydd a nos. Yn ystod y dydd galwch heibio rhwng darlithiau i fwynhau ein dewis eang o goffi a the i’w yfed yma neu ymaith. Bob nos mae’r Attic yn far bywiog a chroesawgar Undeb y myfyrwyrgydag awyrgylch a chyfleusterau gwych, Sky a Sub TV ar gyfer pob prif ddigwyddiad chwaraeon, fideos cerddoriaeth, Jukebox rhyngrwyd yn cynnwys 2 filiwn o ganeuon, byrddau ar gyfer pwyˆl a gemau tafarn.

Siop

Gerllaw derbynfa’r Undeb mae ein siop gyfleusterau hwylus. Mae’r siop yn darparu dewis eang o eitemau hanfodol am brisiau da. Rydym yn gwerthu brechdanau, siocled, pethau ymolchi, papurau newydd a llawer mwy. Mae gennym hefyd ddewis o ddillad unigryw’r Drindod.

Adloniant

Undeb y myfyrwyrMae’r adloniant a geir yn yr Undeb yn werth yr arian ac o’r safon uchaf. Ceisiwn gynnig rhywbeth ar gyfer pawb gyda chymysgedd o fandiau byw, comedïwyr ac amrywiol ddiddanwyr, disgos a nosweithiau thema. Mae’r hwyl yn yr Undeb yn dechrau yn ystod Pythefnos y Glas - mae pythefnos gyntaf y flwyddyn yn llawn adloniant amrywiol sy’n gyfle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd - ac mae’r hwyl yn para drwy’r flwyddyn. Rydym hefyd yn cynnal amryw o ddawnsfeydd crand trwy’r flwyddyn, gan gynnwys Nos Galan Gaeaf, y Nadolig a Dydd San Ffolant; yn ogystal â’r Ddawns Haf ysblennydd ar ddiwedd y flwyddyn. Y Ddawns Haf yw uchafbwynt y flwyddyn gyda ffair, pabell fawr, bandiau enwog yn ogystal â pherfformiadau unigryw.

Undeb y myfyrwyr

Ond, mae mwy i Undeb y Myfyrwyr nag adloniant, barrau a siopau. Rydym yn cynrychioli barn y myfyrwyr o fewn y Coleg a’r gymuned ehangach. Mae’r Undeb yn aelod o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Nod ein gwasanaethau a’n cyfleusterau ychwanegol yw eich cefnogi chi yn ystod eich cyfnod yma er mwyn i chi ddatblygu’ch potensial i’r eithaf.

Cyngor a Chefnogaeth

Mae mynd i goleg yn gallu bod yn gyfnod emosiynol i lawer o fyfyrwyr, oherwydd yn aml iawn dyma yw eu profiad cyntaf o fyw oddi cartref ac mae’n debygol y bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn wynebu sialens o ryw fath neu’i gilydd yn ystod eu cwrs. Mae Gwasanaeth Lles yr Undeb yn addo eich helpu i ddatrys y materion hyn drwy gynnig gwasanaeth cyfrinachol ac annibynnol am ddim i gynorthwyo a hybu’ch lles chi. Mae’r Gwasanaeth Lles yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar bob math o faterion pwysig megis iechyd, llety ac arian.

Gwirfoddoli

Mae’r Brifysgol yn neilltuo prynhawniau Mercher ar gyfer gweithgareddau myfyrwyr, ac felly nid oes raid i neb golli allan ar gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon neu waith gwirfoddol oherwydd pwysau darlithoedd. Mae digonedd o weithgareddau a chwaraeon ar gael i’ch galluogi i fyw bywyd llawn a phrysur y tu allan i’ch gwaith academaidd. Trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath byddwch yn datblygu eich sgiliau personol a’ch rhestr o gyflawniadau - a fydd yn sicr yn hwb i’ch CV. Mae cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol yn ffordd ddelfrydol o ddatblygu sgiliau a phrofiad fydd yn werthfawr i gyflogwyr. Mae gwirfoddoli’n rhan annatod a phwysig o’r Undeb a heb y cymorth hwnnw ni fyddem yn gallu darparu’r ystod o weithgareddau a gwasanaethau sydd gennym.

Clybiau a chymdeithasau

Mae digonedd o gyfleoedd i chi gymryd rhan yn y Clybiau Chwaraeon a’r Cymdeithasau. Rydym yn aelodau o Undeb Athletwyr Prifysgol Cymru a BUCS ac felly’n gallu darparu rhaglen lawn o gêmau i’n timau. Byddwch yn sicr o gwrdd â phobl newydd a chael hwyl. Mae’r Brifysgol hefyd yn Ganolfan Wobrwyo ar gyfer Gwobr Dug Caeredin sy’n rhoi cyfle i chi ennill rhagor o sgiliau cydnabyddedig. Mae’r Undeb yn ariannu ac yn cefnogi amrywiaeth o Gymdeithasau sy’n datblygu diddordebau a sgiliau’r myfyrwyr. Mae Cymdeithas Gymraeg fywiog yn trefnu nifer o ddigwyddiadau a nosweithiau adloniant i’w haelodau ac mae’r criw yn cystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol. Peidiwch â chael eich cyfyngu gan y Cymdeithasau sydd gennym ar hyn o bryd - rydym yn croesawu syniadau newydd bob amser. Mae’r Undeb yn annog myfyrwyr i ddangos diddordeb a chymryd rhan yn ei holl weithgareddau. Mae pawb o fewn yr Undeb wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi a’ch datblygiad yn ystod eich cyfnod yma yng Ngholeg Prifysgol y Drindod.

Y maes chwarae

Victoria Rose Aggus“Mae byw yn y Drindod yn brofiad gwych. Rwyf wedi cwrdd â nifer o ffrindiau ac rwy’n mwynhau fy hun yn fawr. Mae’r campws, myfyrwyr a’r staff yn gyfeillgar iawn ac mae’r awyrgylch yn creu cymuned glos. Mae’r cwrs yn agor nifer o ddrysau ar gyfer fy nyfodol. Mae’r staff yn gyfeillgar iawn ac yn gynorthwyol bob amser.

Mae’r pwll nofio ac adnoddau’r ystafell ffitrwydd yn ein hannog i gadw’n brysur. Rwyf wedi cwrdd â nifer o bobl trwy fyw ar y campws ac rwy’n mwynhau’r profiad. Mae’r campws mewn ardal gyfleus a phrydferth. Mae’r mwyafrif o bethau o fewn pellter cerdded gan roi digon o gyfleoedd ar ac oddi ar y campws.”

Victoria Rose Aggus
BA Addysg Blynyddoedd Cynnar