Y Brifysgol
Coleg Prifysgol y Drindod... cymuned fywiog sy’n darparu cyrsiau gradd o safon uchel mewn amgylchedd cefnogol
Y ffactor ychwanegol i fyfyrwyr yw’r cyfle i ddatblygu sgiliau a fydd yn eich helpu yn eich gyrfa ac yn eich helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau niferus, yn y Brifysgol ac yn y gymuned. Gyda’i gilydd mae’r ffactorau hyn yn darparu profiad o addysg uwch sy’n gyfoethog ac amrywiol i fyfyrwyr.
Mae’r Drindod yn cynnig rhychwant o raddau a ddilysir gan Brifysgol Cymru. Sefydlwyd yn 1848 fel Coleg Eglwysig ac y mae wedi datblygu enw rhagorol ym meysydd addysg a’r dyniaethau, y celfyddydau creadigol, diwylliannol a pherfformio, yn ogystal â chynhwysiant cymdeithasol, busnes, TG a chyrsiau’n ymwneud ag iechyd a lles. Ar ddiwedd 2008 cymeradwyodd y Cyfrin Gyngor gais y Drindod am bwerau dyfarnu graddau a addysgir ac yn Chwefror cadarnhawyd y gallai’r Coleg newid ei enw i Goleg Prifysgol y Drindod. Y mae hyn yn ddatblygiad sylweddol yn hanes hir y Coleg ac fe’i dyfarnwyd ar sail ystod eang o ffactorau yn cynnwys safonau academaidd a rheolaeth ansawdd academaidd.
Mae’r Drindod yn Brifysgol un campws. Golyga hyn fod y cyfleusterau addysgu, y llyfrgell a’r gwasanaethau gwybodaeth, y neuaddau preswyl, gwasanaethau myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr i gyd ar un safle, sy’n ei wneud yn lle diogel a chroesawgar i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.
Ceir lawntiau eang a thirlun hardd yn gefndir gwych i’r adeiladau Fictoraidd a chyfoes. Bydd datblygiadau yn y dyfodol yn cynnwys Canolfan ar gyfer Byw’n Gynhwysol a Chanolfan ar gyfer Addysg Blynyddoedd Cynnar, mewn cydweithrediad â Mudiad Ysgolion Meithrin a fydd yn cael eu hadeiladu drws nesaf at Y Llwyfan, Canolfan Fentergarwch Ddiwylliannol y Coleg sydd wedi ei lleoli ar dir gyferbyn y campws.
