Y maes chwarae
Mae gan y Drindod draddodiad cryf ar y meysydd chwarae gyda Barry John y chwaraewr rygbi byd-enwog (maswr Cymru a’r Llewod) yn gyn-fyfyriwr, a Carwyn James (hyfforddwr tîm y Llewod yn y 70au) yn gyn-ddarlithydd yn y Drindod. Mae’r tîm rygbi cyntaf wedi ennill Tarian Halifax Cymdeithas Chwaraeon Prifysgolion Prydain (BUCS) a Chwpan Cymru, ac mae amryw o fyfyrwyr y Drindod yn cynrychioli timau colegau Cymru trwy gystadlu yng Ngêmau Prifysgolion Prydain (BUGS).
Yn ychwanegol y mae’r Brifysgol yn gweithio gydag Academi Rygbi Scarlets Llanelli er mwyn galluogi’r chwaraewyr i gyfuno rygbi gyda’u hastudiaethau academaidd. Mae’r Ganolfan Chwaraeon ac Ystafelloedd Iechyd yn cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gemau ac i gadw’n heini yn y gampfa.
Cyfleusterau chwaraeon
- Campfa
- Canolfan Chwaraeon
- Cyrtiau tenis
- Maes chwarae pob tywydd
- Meysydd chwarae ar gyfer Rygbi, Pêl-droed, Hoci a Chriced
- Pwll Nofio
- Stiwdio ddawns
- Wal Ddringo
- Ystafelloedd Iechyd
Cymwysterau hyfforddi cyrff proffesiynol sydd ar gael:
- Achub Bywyd
- Criced
- Dyfarnwr Criced
- Cydlynydd
- Chwaraeon Y Ddraig
- Dawns
- Gwobr Athrawon
- Nofio
- Gymnasteg
- Hoci
- Pêl-droed
- Pêl-fasged
- Pêl-rwyd
- Dyfarnwr Pêl-rwyd
- Rygbi
- Sboncen
