Yr ardal
Mae’r Brifysgol wedi’i lleoli ar gyrion tref Caerfyrddin, sydd yn ganolfan fasnachol i ardal fawr a ffyniannus. Mae’n dref farchnad brysur gyda chymysgedd o siopau traddodiadol a modern, cyfleusterau hamdden ardderchog a bywyd nos byrlymog. Bydd cynlluniau i ddatblygu’r dref a’r ardal yn denu mwy o siopau mawrion a chyfleusterau hamdden.
Mae tref Caerfyrddin yn hawdd ei chyrraedd gan fod priffyrdd yn arwain at y dref o bob cyfeiriad. Y mae’r ffordd ddeuol yn dod bob cam o ddiwedd yr M4 ym Mhont Abraham i mewn i’r dref, sy’n gwneud teithio i ddinasoedd megis Abertawe a Chaerdydd yn hwylus iawn. Mae gwasanaethau trên a bws yn mynd a dod yn rheolaidd ac mae’r dref wedi’i lleoli ar y briffordd ar gyfer y gwasanaethau fferi i Iwerddon.
Mae’r dref yn ganolog i un o gyrchfannau twristaidd mwyaf poblogaidd Cymru ac yn ardal gyfoethog ei hanes a’i hetifeddiaeth, gyda’r dewin Myrddin, yn ôl y sôn, wedi’i eni yma. O fwrlwm bywyd y dref i dawelwch cefn gwlad a harddwch y traethau euraidd, mae De Orllewin Cymru yn cynnig cyfle i fyw bywyd amrywiol a diddorol.
Gyda pharciau cenedlaethol a gwledig, ardaloedd o harddwch naturiol, afonydd glân a thraethau godidog, does dim rhyfedd bod yr ardal yn un boblogaidd gydag ymwelwyr.
Mae’r atyniadau lleol i dwristiaid yn cynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Gerddi Aberglasne, nifer o lefydd o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llwybr Arfordirol y Mileniwm, Llwybr Arfordirol Genedlaethol Sir Benfro ac Ymddiriedolaeth Adar y Gwlypdir, ynghyd â nifer o barciau adloniant gan gynnwys Oakwood.
