English
Map o'r Safle
Cyrsiau Ôl-raddedig

Diploma Ôl-radd Cyfnod Sylfaen

Mae’r cwrs yn cynnig cyfle unigryw i’r sawl sydd ‚ diddordeb ym mhrosesau dysgu plant ifainc. Anogir myfyrwyr i edrych yn feirniadol ar ddamcaniaethau a chredoau ynglwn â’r ffordd mae plant yn dysgu ac i ystyried rôl oedolion yn y dysgu. Trwy gydol y cwrs canolbwyntir ar natur ryfeddol y modd mae plant yn dysgu: beth maen nhw’n ei ddysgu, sut maen nhw’n dysgu, pam maen nhw’n dysgu. Bydd yn darparu gorolwg cyffredinol, gydag astudiaeth fanwl o rai agweddau ar y plentyn sy’n dysgu ac yn datblygu, a bydd yn ystyried peth ymchwil mwy diweddar a i ddylanwad ar arfer addysgol.

Manyleb Rhaglen

Prif amcanion addysgol y rhaglen yw galluogi myfyrwyr i gaffael:

  • mewnwelediad cynhwysfawr i ddamcaniaethau am ddysgu gan blant;
  • dealltwriaeth drylwyr o arwyddocâd chwarae yn natblygiad plant ifanc;
  • dealltwriaeth feirniadol o gyd-destunau bywydau plant ifanc sy’n effeithio ar eu lles a’u cyfleoedd mewn bywyd;
  • arbenigedd dadansoddol mewn materion sy’n ymwneud â phlant ifanc, er mwyn cyfoethogi ymchwil, polisi ac arfer;
  • gwerthfawrogiad beirniadol o gymhlethdod y berthynas rhwng y plentyn sy’n tyfu ac yn dysgu, a’i hamgylchedd, ei pherthnasau, ei chyfansoddiad genetig a’i chyd-destun diwylliannol;
  • gwerthfawrogiad beirniadol o bwysigrwydd ymagwedd amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol at ddeall anghenion plant ac at gyflwyno gwasanaethau addysgol plant;
  • dealltwriaeth drylwyr o faterion cymhleth sy’n berthnasol i ansawdd mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar;
  • dealltwriaeth fanwl o natur materion addysgol, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol sy’n effeithio ar ddarpariaeth o ansawdd i blant ifanc;
  • ymagweddau ymarferol a blaengar at gynllunio ar gyfer dysgu ac arsylwi ar ddysgu gan blant, o fewn cyd-destun y saith maes dysgu;
  • meddylfryd chwilfrydig a beirniadol ac ymagwedd gadarnhaol at heriau newid a phwysigrwydd bod yn barod drwy’r amser ac yn ymatebol i’r heriau hynny;
  • hyder cynyddol a gwell yn eu gallu i fod yn feirniadol ac yn adfyfyriol wrth gysylltu damcaniaeth ag arfer cymwys.

Deilliannau’r Rhaglen

Erbyn cwblhau’r rhaglen, byddai disgwyl i’r myfyrwyr dangos y canlynol.

Gwybodaeth Pwnc

Byddai disgwyl i’r myfyrwyr allu:

  • deall egwyddorion cysyniadol sylfaenol Astudiaethau Plentyndod Cynnar (APC) yn feirniadol fel maes pwnc, ei wreiddiau hanesyddol, ei ddatblygiad a'i gyfyngiadau;
  • dangos gwybodaeth fanwl a systematig a dealltwriaeth sy’n gyson feirniadol o blant a phlentyndod, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, o safbwyntiau athronyddol, hanesyddol, seicolegol, cymdeithasegol, diwylliannol, addysgol, byd-eang, iechyd, lles, cyfreithiol, gwleidyddol ac economaidd;
  • dangos gwybodaeth fanwl a systematig a dealltwriaeth sy’n gyson feirniadol o’r meysydd diddordeb sy’n cyfrannu at APC ar draws y meysydd sgiliau pwnc-benodol craidd, a’r modd maent yn cydberthyn;

Mae hyn yn cynnwys:

  • gwybodaeth fanwl a systematig a dealltwriaeth sy’n gyson feirniadol o bob agwedd ar bolisi a darpariaeth sy’n arwyddocaol i blant a theuluoedd;
  • gwybodaeth a dealltwriaeth weithiol a beirniadol o ddulliau pedagogaidd ar gyfer gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd;
  • gwybodaeth ragorol am faterion yn ymwneud â hawliau, amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yng nghyswllt gweithio gyda phlant a theuluoedd;
  • gwybodaeth weithiol ragorol a phenodol o’r dulliau angenrheidiol ar gyfer astudio ac ymchwil systematig yng nghyswllt plant a phlentyndod;
  • gwybodaeth fanwl a systematig o amrediad o batrymau ymchwil, dulliau ymchwil a thechnegau mesur, ac ymwybyddiaeth o’u cyfyngiadau.

Sgiliau Pwnc

Byddai disgwyl i’r myfyrwyr:

  • feddu ar allu lefel uchel i resymu’n eglur, deall rôl tystiolaeth a dod i farn feirniadol ynglŷn â dadleuon sy’n ymwneud â maes pwnc APC;
  • meddu ar allu lefel uchel i fabwysiadu sawl safbwynt yng nghyswllt plentyndod cynnar ac i ddadansoddi’n systematig y perthnasau rhyngddynt;
  • meddu ar allu lefel uchel i adfyfyrio ar ystod o safbwyntiau athronyddol, hanesyddol, seicolegol, cymdeithasegol, diwylliannol, iechyd, lles, cyfreithiol, gwleidyddol ac economaidd ac i ystyried sut mae’r rhain yn sail i ddealltwriaethau gwahanol am blant a phlentyndod;
  • meddu ar allu lefel uchel i ddadansoddi a gwerthuso safbwyntiau cystadleuol ynglŷn â’r modd mae plant a phlentyndod yn cael eu ffurfio gan wahanol ddisgyblaethau pwnc a chyfryngau cymdeithasol, ac amser, lle a diwylliant;
  • meddu ar allu lefel uchel i ddadansoddi a phwyso a mesur yn adeiladol ddamcaniaethau ac ymchwil ym maes datblygiad plant;
  • meddu ar allu lefel uchel i gynllunio ar gyfer cwricwlwm cyfleoedd dysgu creadigol a’i asesu, ei werthuso a’i wella, gan ystyried iechyd a lles emosiynol plant ifanc;
  • meddu ar allu lefel uchel i gynllunio ar gyfer cyflawni a hyrwyddo iechyd, lles ac anghenion diogelwch plant, a’r amodau sy'n eu galluogi i ffynnu;
  • meddu ar allu lefel uchel i archwilio’n feirniadol y cysylltiadau rhwng moeseg, gwleidyddiaeth, diwylliant ac ideoleg ym mywydau plant;
  • meddu ar allu lefel uchel i ofyn, gweithredoli a phwyso a mesur cwestiynau ymchwil, ac i ddangos cymhwysedd mewn sgiliau ymchwil yng nghyswllt plentyndod cynnar trwy weithgareddau ymarferol a damcaniaethol;
  • meddu ar sgiliau arsylwi a dadansoddi lefel uchel yng nghyswllt agweddau ar fywydau plant;
  • meddu ar allu lefel uchel i adfyfyrio ar foeseg astudio plant a’u teuluoedd;
  • bod yn ymwybodol o gymhlethdod egwyddorion a materion moesegol a dangos a defnyddio hyn yng nghyswllt astudiaeth bersonol, yn benodol ynghylch y project ymchwil;
  • meddu ar allu lefel uchel i adnabod a herio anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac i groesawu cwricwlwm gwrth-ragfarn.

Sgiliau Generig 

Byddai disgwyl i’r myfyrwyr allu:

  • cyfathrebu syniadau a chanfyddiadau ymchwil, yn effeithiol yn eglur ac yn rhugl, drwy ddulliau ysgrifenedig, llafar a gweledol;
  • cyflwyno ystod eang o safbwyntiau damcaniaethol a chynnig barn wybodus a threiddgar;
  • dehongli a defnyddio data ar ffurf rifyddol a ffurfiau eraill, yn eglur, yn feirniadol ac yn ddiogel;
  • cyflwyno gwybodaeth i eraill mewn amrywiaeth o ffurfiau priodol a blaengar;
  • gwrando’n ofalus ar eraill ac adfyfyrio’n feirniadol ac yn dreiddgar ar eu sgiliau a’u barn eu hunain ac eraill;
  • defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth yn feirniadol ac yn dreiddgar;
  • defnyddio’r sgiliau cyfathrebu soffistigedig sy’n angenrheidiol i siarad, dadlau, trafod, perswadio a herio syniadau pobl eraill yn effeithiol;
  • bod yn sensitif iawn i ffactorau cyd-destunol a rhyngbersonol mewn grwpiau a thimau ac ymateb iddynt yn briodol ac yn feddylgar;
  • meddu ar gryn fewnwelediad beirniadol a hyder wrth arwain a chydweithio ag eraill.

Ffïoedd a bwrsariaeth

Adolygir y ffïoedd yn flynyddol – Cyllid Myfyrwyr.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â chydlynydd y rhaglen:

Swyddfa’r Gyfadran: 01267 676686

Canllaw yw'r wybodaeth hon. Cysylltwch â ni i drafod y cwrs.