English
Map o'r Safle
Cyrsiau Ôl-raddedig

Deall dysgu plant - hyrwyddo dysgu plant

MA Addysg Blynyddoedd Cynnar

Blynyddoedd Cynnar

o'r fesen derwen a dyf...

Ysgol Addysg Blynyddoedd Cynnar

Os ’da chi’n gweithio gyda phlant ifainc, rhaid bod o gwmpas eich pethe!

Mae ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o ddysgu plant, yn ei holl gymhlethdod cyfoethog, yn cael ei herio’n gyson. Mae goblygiadau tystiolaeth ymchwil o feysydd megis niwrowyddoniaeth yn gryn her i’r lleygwr. Mae’r camau mawr yma yn llywio ac yn dylanwadu ar bolisi cyhoeddus - ac yng Nghymru ryn ni ar y blaen gyda datblygiadau newydd cyffrous megis Y Cyfnod Sylfaen 3 - 7 oed.

Beth fyddwch yn astudio...?

Mae’r MA Addysg Blynyddoedd Cynnar (ABC) wedi ei chynllunio ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n raddedigion ac sydd am ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau i lefel uwch. Bydd y rhaglen yn cymryd gorolwg beirniadol a dadansoddol o ddysgu cynnar plant a bydd yn gosod y dysgu hwn yng nghyd-destun dysgu cymdeithasol a dylanwadau cymdeithasegol. Caiff pob un o raglenni Ysgol ABC eu gwreiddio yng ngwerthoedd cadarn rheiny sy’n sail i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a phwysigrwydd chwarae yn dysgu’r plentyn ifanc.

Rhan 1: byddwch yn dilyn modiwlau wedi eu dysgu:

Ymchwil gyda phlant ac er mwyn plant

  • Y plentyn sy’n dysgu: dysgu o enedigaeth i 7 oed
  • Lles a dysgu yn y blynyddoedd cynnar
  • Yr oedolyn heriol: rôl oedolion mewn dysgu cynnar gan blant

ac yna dewis o fodiwlau, er enghraifft:

  • Dull Reggio: heriau a chyfleoedd
  • Dathlu Amrywiaeth: ymwybyddiaeth amlddiwylliannol yn y blynyddoedd cynnar
  • Dysgu yn yr awyr agored
  • Astudiaeth hunan gyfeiriol   
  • Hyrwyddo dwyieithrwydd yn y blynyddoedd cynnar

Wedi cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus, byddwch yn symud i Ran 2 sef y modiwl ymchwil. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil ar faes o ddiddordeb i chi ac o dan arweiniad arolygydd, yn cyflwyno traethawd ymchwil 20000 o eiriau ar gyfer ennill yr MA Addysg Blynyddoedd Cynnar.

Mae graddedigion yr MA ABC wedi mynd ymlaen yn eu gyrfaoedd fel athrawon ymgynghorol Cyfnod Sylfaen, penaethiaid cynradd, uwch reolaeth ASGC, rheolaeth canolfannau integredig, darlithio mewn Colegau Addysg Bellach, mae dwy ar staff Ysgol ABC y Drindod! Ond, efallai bod gennych chi ddiddordeb mewn astudio’r maes yma er mwyn dyfnhau eich gwybodaeth a dim er mwyn hyrwyddo gyrfa.

Dull astudio

Caiff y cwrs ei gynnig rhan amser dros 4 blynedd gyda phosibilrwydd o beth dysgu o bell.

Manyleb Rhaglen

Prif amcanion addysgol y rhaglen yw galluogi myfyrwyr i gaffael:

  • mewnwelediad cynhwysfawr i ddamcaniaethau am ddysgu gan blant;
  • dealltwriaeth drylwyr o arwyddocâd chwarae yn natblygiad plant ifanc;
  • dealltwriaeth feirniadol o gyd-destunau bywydau plant ifanc sy’n effeithio ar eu lles a’u cyfleoedd mewn bywyd;
  • arbenigedd dadansoddol mewn materion sy’n ymwneud â phlant ifanc, er mwyn cyfoethogi ymchwil, polisi ac arfer;
  • gwerthfawrogiad beirniadol o gymhlethdod y berthynas rhwng y plentyn sy’n tyfu ac yn dysgu, a’i hamgylchedd, ei pherthnasau, ei chyfansoddiad genetig a’i chyd-destun diwylliannol;
  • gwerthfawrogiad beirniadol o bwysigrwydd ymagwedd amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol at ddeall anghenion plant ac at gyflwyno gwasanaethau addysgol plant;
  • dealltwriaeth drylwyr o faterion cymhleth sy’n berthnasol i ansawdd mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar;
  • dealltwriaeth fanwl o natur materion addysgol, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol sy’n effeithio ar ddarpariaeth o ansawdd i blant ifanc;
  • ymagweddau ymarferol a blaengar at gynllunio ar gyfer dysgu ac arsylwi ar ddysgu gan blant, o fewn cyd-destun y saith maes dysgu;
  • meddylfryd chwilfrydig a beirniadol ac ymagwedd gadarnhaol at heriau newid a phwysigrwydd bod yn barod drwy’r amser ac yn ymatebol i’r heriau hynny;
  • hyder cynyddol a gwell yn eu gallu i fod yn feirniadol ac yn adfyfyriol wrth gysylltu damcaniaeth ag arfer cymwys.

Deilliannau’r Rhaglen

Erbyn cwblhau’r rhaglen, byddai disgwyl i’r myfyrwyr dangos y canlynol.

Gwybodaeth Pwnc

Byddai disgwyl i’r myfyrwyr allu:

  • deall egwyddorion cysyniadol sylfaenol Astudiaethau Plentyndod Cynnar (APC) yn feirniadol fel maes pwnc, ei wreiddiau hanesyddol, ei ddatblygiad a'i gyfyngiadau;
  • dangos gwybodaeth fanwl a systematig a dealltwriaeth sy’n gyson feirniadol o blant a phlentyndod, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, o safbwyntiau athronyddol, hanesyddol, seicolegol, cymdeithasegol, diwylliannol, addysgol, byd-eang, iechyd, lles, cyfreithiol, gwleidyddol ac economaidd;
  • dangos gwybodaeth fanwl a systematig a dealltwriaeth sy’n gyson feirniadol o’r meysydd diddordeb sy’n cyfrannu at APC ar draws y meysydd sgiliau pwnc-benodol craidd, a’r modd maent yn cydberthyn;

Mae hyn yn cynnwys:

  • gwybodaeth fanwl a systematig a dealltwriaeth sy’n gyson feirniadol o bob agwedd ar bolisi a darpariaeth sy’n arwyddocaol i blant a theuluoedd;
  • gwybodaeth a dealltwriaeth weithiol a beirniadol o ddulliau pedagogaidd ar gyfer gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd;
  • gwybodaeth ragorol am faterion yn ymwneud â hawliau, amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yng nghyswllt gweithio gyda phlant a theuluoedd;
  • gwybodaeth weithiol ragorol a phenodol o’r dulliau angenrheidiol ar gyfer astudio ac ymchwil systematig yng nghyswllt plant a phlentyndod;
  • gwybodaeth fanwl a systematig o amrediad o batrymau ymchwil, dulliau ymchwil a thechnegau mesur, ac ymwybyddiaeth o’u cyfyngiadau.

Sgiliau Pwnc

Byddai disgwyl i’r myfyrwyr:

  • feddu ar allu lefel uchel i resymu’n eglur, deall rôl tystiolaeth a dod i farn feirniadol ynglŷn â dadleuon sy’n ymwneud â maes pwnc APC;
  • meddu ar allu lefel uchel i fabwysiadu sawl safbwynt yng nghyswllt plentyndod cynnar ac i ddadansoddi’n systematig y perthnasau rhyngddynt;
  • meddu ar allu lefel uchel i adfyfyrio ar ystod o safbwyntiau athronyddol, hanesyddol, seicolegol, cymdeithasegol, diwylliannol, iechyd, lles, cyfreithiol, gwleidyddol ac economaidd ac i ystyried sut mae’r rhain yn sail i ddealltwriaethau gwahanol am blant a phlentyndod;
  • meddu ar allu lefel uchel i ddadansoddi a gwerthuso safbwyntiau cystadleuol ynglŷn â’r modd mae plant a phlentyndod yn cael eu ffurfio gan wahanol ddisgyblaethau pwnc a chyfryngau cymdeithasol, ac amser, lle a diwylliant;
  • meddu ar allu lefel uchel i ddadansoddi a phwyso a mesur yn adeiladol ddamcaniaethau ac ymchwil ym maes datblygiad plant;
  • meddu ar allu lefel uchel i gynllunio ar gyfer cwricwlwm cyfleoedd dysgu creadigol a’i asesu, ei werthuso a’i wella, gan ystyried iechyd a lles emosiynol plant ifanc;
  • meddu ar allu lefel uchel i gynllunio ar gyfer cyflawni a hyrwyddo iechyd, lles ac anghenion diogelwch plant, a’r amodau sy'n eu galluogi i ffynnu;
  • meddu ar allu lefel uchel i archwilio’n feirniadol y cysylltiadau rhwng moeseg, gwleidyddiaeth, diwylliant ac ideoleg ym mywydau plant;
  • meddu ar allu lefel uchel i ofyn, gweithredoli a phwyso a mesur cwestiynau ymchwil, ac i ddangos cymhwysedd mewn sgiliau ymchwil yng nghyswllt plentyndod cynnar trwy weithgareddau ymarferol a damcaniaethol;
  • meddu ar sgiliau arsylwi a dadansoddi lefel uchel yng nghyswllt agweddau ar fywydau plant;
  • meddu ar allu lefel uchel i adfyfyrio ar foeseg astudio plant a’u teuluoedd;
  • bod yn ymwybodol o gymhlethdod egwyddorion a materion moesegol a dangos a defnyddio hyn yng nghyswllt astudiaeth bersonol, yn benodol ynghylch y project ymchwil;
  • meddu ar allu lefel uchel i adnabod a herio anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac i groesawu cwricwlwm gwrth-ragfarn.

Sgiliau Generig 

Byddai disgwyl i’r myfyrwyr allu:

  • cyfathrebu syniadau a chanfyddiadau ymchwil, yn effeithiol yn eglur ac yn rhugl, drwy ddulliau ysgrifenedig, llafar a gweledol;
  • cyflwyno ystod eang o safbwyntiau damcaniaethol a chynnig barn wybodus a threiddgar;
  • dehongli a defnyddio data ar ffurf rifyddol a ffurfiau eraill, yn eglur, yn feirniadol ac yn ddiogel;
  • cyflwyno gwybodaeth i eraill mewn amrywiaeth o ffurfiau priodol a blaengar;
  • gwrando’n ofalus ar eraill ac adfyfyrio’n feirniadol ac yn dreiddgar ar eu sgiliau a’u barn eu hunain ac eraill;
  • defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth yn feirniadol ac yn dreiddgar;
  • defnyddio’r sgiliau cyfathrebu soffistigedig sy’n angenrheidiol i siarad, dadlau, trafod, perswadio a herio syniadau pobl eraill yn effeithiol;
  • bod yn sensitif iawn i ffactorau cyd-destunol a rhyngbersonol mewn grwpiau a thimau ac ymateb iddynt yn briodol ac yn feddylgar;
  • meddu ar gryn fewnwelediad beirniadol a hyder wrth arwain a chydweithio ag eraill.

Ffïoedd a bwrsariaeth

Adolygir y ffïoedd yn flynyddol – cysylltwch â ni am fanylion.

Mae rhai bwrsariaethau Prifysgol ar gael i fyfyrwyr sydd â phroffiliau penodol. Bydd athrawon yn gymwys i geisio am fwrsariaethau Cyngor Cyffredinol Addysgu Cymru (GTCW).

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â chydlynydd y rhaglen:

Swyddfa’r Gyfadran: 01267 676686

Canllaw yw'r wybodaeth hon. Cysylltwch â ni i drafod y cwrs.