MA Astudiaethau Dwyieithrwydd
Oddi ar sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, rhoddwyd ffocws newydd i’r ymdrechion i ddiogelu ac adfer y Gymraeg, ac ystyrir creu Cymru ddwyieithog yn nod cenedlaethol cyraeddadwy.
Rhoi’r datblygiadau cyffrous hyn yn eu cyd–destun hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol yw nod y radd MA Astudiaethau Dwyieithrwydd.
Y radd hon yw’r un gyntaf o’i bath yn Ewrop ac mae’n rhan o genhadaeth y Brifysgol i gyfrannu at y bwrlwm cyffrous o weithgareddau ym maes cynllunio ieithyddol a datblygu dwyieithrwydd yng Nghymru.
At bwy yr anelir y radd
Nod y radd yw arfogi myfyrwyr â’r wybodaeth gefndirol a’r sgiliau angenrheidiol i fedru gweithio’n hyderus ym maes dwyieithrwydd a chynllunio iaith. Mae’r cwrs yn cynnig ystod eang o brofiadau ac, felly, bydd yn apelio at unrhywun sydd yn gysylltiedig â datblygu defnydd o’r iaith Gymraeg, gan gynnwys:
- Athrawon a Hyfforddwyr
- Cyfieithwyr
- Gweithwyr Ieuenctid / Cymunedol
- Swyddogion Iaith
- Swyddogion y Llywodraeth / Llunwyr Polisi
Y mae ffocws y radd yn eang ac, felly, y mae’n addas ar gyfer ystod o feysydd
proffesiynol.
Cynnwys y Cwrs
Gall y radd gynnig llwybrau gwahanol sydd yn ateb gofynion galwedigaethol amrywiol. Cynhwysa chwe modwl a thraethawd tua 20,000 o eiriau. Gellir dewis amrywiaeth o fodylau yn ôl anghenion personol gan gynnwys y canlynol, er enghraifft:-
- Cyflwyniad i Ddwyieithrwydd (diffiniadau a gwahaniaethau)
- Dwyieithrwydd Cymdeithasol (agweddau gwleidyddol ar fywiogrwydd iaith)
- Agweddau Deallusol a Gwybyddol ar Ddwyieithrwydd
- Modelau ar gyfer Addysgu Dwyieithog
- Datblygiad Addysg Ddwyieithog yng Nghymru
- Natur Ymchwil
- Astudiaeth Annibynnol
Testun o ddewis y myfyriwr / fyfyrwraig ei hun fydd y traethawd a fydd yn seiliedig ar agweddau a astudiwyd yn y modylau, ond a gymeradwyir gan y Brifysgol ymlaen llaw. Disgwylir y rhydd hynny gyfle i fyfyrwyr ddewis testun a fydd yn berthnasol i’w galwedigaeth.
Drwy gwblhau tri modwl yn llwyddiannus gall myfyrwyr fod yn gymwys ar gyfer Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Dwyieithog, a thrwy gwblhau chwe modwl, Ddiploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Dwyieithog. Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau’r traethawd hir ychwanegol ar gyfer y radd MA Astudiaethau Dwyieithog.
Dull Astudio
Gellir astudio yn rhan-amser dros gyfnod o bedair blynedd.
Pam astudio’r radd hon yn y Drindod?
- Mae gan y Drindod arbenigedd ym maes cynllunio ieithyddol a dwyieithrwydd
- Mae’r Brifysgol yn rhan o rwydwaith o sefydliadau ar draws Ewrop sy’n ymwneud â dwyieithrwydd
- Mae gan y Brifysgol adnoddau arbennig yn y maes hwn ac ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
- Mae’r cwrs yn rhan o Gynllun Meistr Modwlar y Drindod sy’n golygu bod dewis eang o fodylau ar gael er mwyn sicrhau bod y radd yn cwrdd ag anghenion proffesiynol a diddordebau personol myfyrwyr
Manyleb Rhaglen
Amcanion y Rhaglen
Mae’r rhaglen yn anelu at:
- ddarparu ystod o agweddau ar faes dwyieithrwydd yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr gan gyfeirio yn ogystal at gyd-destunau rhyngwladol perthnasol;
- ddatblygu gallu myfyrwyr i ddadansoddi’n feirniadol y ffactorau amrywiol sydd ymhlŷg ag astudio dwyieithrwydd ac i berthnasu’r ffactorau hynny ar lefel ryngwladol â sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru;
- ddarparu myfyrwyr ar gyfer galwedigaethau amrywiol sy’n ymwneud â dwyieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig, at eu hanghenion galwedigaethol beunyddiol;
- gyflwyno i fyfyrwyr y syniadaeth a’r ymchwil mwyaf perthnasol yn y maes sydd yn sail i’r damcaniaethau a’r doethineb diweddaraf;
- ddatblygu medrau trosglwyddadwy myfyrwyr a’u gallu i ymchwilio, dehongli a gwerthuso’n feirniadol;
- ddatblygu medrau gwybyddol myfyrwyr gan gynnwys eu gallu i resymu, dadansoddi’n feirniadol, yn ogystal â meddwl yn greadigol gan arfarnu unrhyw bolisïau presennol ym maes dwyieithrwydd a chynnig gwelliannau.
Deilliannau Dysgu
Gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau perthnasol
Ar ôl gorffen y radd MA Astudiaethau Dwyieithrwydd, disgwylir y bydd myfyrwyr wedi datblygu’r wybodaeth, y deall a’r medrau canlynol ar y lefel Addysg Uwch briodol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol am gyd-destunau ieithyddol a diwylliannol eraill ar lefel ryngwladol mewn cymunedau a chymdeithasau lle mae dwyieithrwydd yn bodoli ac a fydd yn galluogi myfyrwyr i’w cymharu a’u cyferbynnu â’u cyd-destunau ieithyddol eu hunain gan ddatblygu sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth o’r tebygrwydd neu’r anhebygrwydd ieithyddol sydd rhyngddynt.
- Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth rhyngddiwylliannol. Drwy ddatblygu’r gallu i ddadansoddi’n feirniadol y ffactorau amrywiol sy’n rhan annatod o fywiogrwydd ieithoedd lleiafrifol megis y Gymraeg, disgwylir y bydd myfyrwyr â pharch at sefyllfaoedd cyffelyb ar lefel ryngwladol.
- Dealltwriaeth feirniadol o’r polisïau a ymarferir mewn cyd-destunau ieithyddol gwledydd amrywiol.
- Y gallu i werthuso’n feirniadol y ffactorau a allai ddylanwadu’n gadarnhaol neu’n negyddol yn y dyfodol ar fywiogrwydd eu mamiaith a’u diwylliant eu hunain, gan gynnwys, er enghraifft, bolisïau awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus mewn perthynas ag economeg a thai.
- Gwybodaeth am ystod o derminoleg arbenigol sydd yn ymwneud â gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd gan gynnwys agweddau megis sosio-ieithyddiaeth, seico-ieithyddiaeth, cynllunio ieithyddol, caffaeliad iaith a’u rôl mewn perthynas â chyfundrefnau addysgol.
- Gwybodaeth drylwyr am y prif fframweithiau cysyniadol a’r ymchwil diweddaraf sydd yn bodoli ym maes dwyieithrwydd, ynghyd â’r gallu i bwyso a mesur rhagoriaethau a gwendidau syniadau, esboniadau a thystiolaethau gwrthgyferbyniol.
- Dealltwriaeth o ddadansoddiadau amgen o ddata a’r gallu i wneud gwerthusiad gwybodus o’r rheiny.
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth o’r berthynas rhwng y ffactorau amrywiol a all ddylanwadu ar fywiogrwydd iaith gan gynnwys ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol.
- Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith mewn perthynas â meithrin, cynnal a datblygu hunaniaeth genedlaethol.
- Medrau technolegol a fo’n addas i’r ddisgybliaeth, megis llunio llyfryddiaethau a chyfeirio at ffynonellau mewn modd safonol a chyson.
- Y gallu i gymhwyso fframweithiau cysyniadol a dadansoddol cydnabyddiedig at ddata newydd.
- Y gallu i ddehongli data a dadansoddiadau meintiol ac ansoddol a gyflwynir drwy gyfrwng graffau, tablau ac ati, ac i gyflwyno data tebyg eu hunain yn yr un modd.
Medrau Gwybyddol
Caniatâ’r medrau gwybyddol a gysylltir â’r rhaglen hon fyfyrwyr i:
- fyfyrio’n feirniadol yng ngoleuni tystiolaeth a safbwyntiau amrywiol;
- gasglu, crynhoi, cyfosod a chymathu gwybodaeth o wahanol ffynonellau ysgrifenedig, llafar ac electronig, eu gwerthuso’n feirniadol a chreu crynodeb cydlynol;
- drefnu a chyflwyno syniadau o fewn fframwaith safbwynt strwythuredig a rhesymegol;
- feddwl yn ddadansoddol ac yn werthusol;
- arnodi, disgrifio a dadansoddi problemau ac i ddyfeisio strategaethau addas ar gyfer eu datrys;
- ddangos dealltwriaeth o faterion allweddol a phroblemau ac i benderfynu pa fath o ddata i gasglu er mwyn eu datrys;
- gyflwyno/ddatgan tystiolaeth berthnasol ac i ddefnyddio’r data priodol sydd eisoes ar gael er mwyn datrys problemau.
Medrau Proffesiynol/Galwedigaethol
Galluoga’r medrau proffesiynol/galwedigaethol a gysylltir â’r rhaglen hon fyfyrwyr i:
- gwrdd â’r her sy’n wynebu unigolion ym maes dwyieithrwydd a chynllunio iaith;
- ymgymryd â phrosiectau sy’n ymwneud ag amryw agweddau yn y maes;
- gynnal ymchwil unigol ac, fel rhan o dîm, i hyrwyddo cynlluniau a strategaethau ieithyddol;
- ddadansoddi a dehongli data sy’n ymwneud ag amryw ddatblygiadau;
- ddangos hyfedredd wrth ddefnyddio TGCh mewn cyflwyniadau ac wrth gyfathrebu.
Medrau Allweddol Trosglwyddadwy
Galluoga’r medrau allweddol a gysylltir â’r rhaglen hon fyfyrwyr i:
- ddefnyddio TGCh yn effeithiol fel modd i gyfathrebu, fel cyfrwng dysgu ac ymchwilio, ac i greu dogfennaeth drefnus a safonol;
- drosglwyddo gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn argyhoeddedig a rhesymegol ar lafar ac yn ysgrifenedig;
- feithrin ymhellach eu sgiliau dadansoddi a datrys problemau;
- fabwysiadu methodolegau amrywiol a phwrpasol ar gyfer cynnal ymchwil gan asesu eu heffeithiolrwydd a’u manteision ac anfanteision ymarferol a thechnolegol unigol;
- ysgrifennu traethodau gan ddefnyddio ieithwedd bwrpasol a chyfeiriadaeth gywir;
- reoli eu haddysg mewn modd hunan-feirniadol, i feddwl ac i weithio’n annibynnol gan wneud defnydd effeithiol ac effeithlon o’u hamser;
- gynllunio a chynnal archwiliad neu ddarn o ymchwil gyda’r lleiafswm o gymorth neu yn gwbl annibynnol;
- gymryd rhan mewn trafodaethau ysgolheigaidd ac i gyflwyno syniadaeth naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig mewn dogfennaeth a ddengys sgiliau uwch mewn llythrennedd.
Ffïoedd
Adolygir y ffïoedd yn flynyddol – cysylltwch â ni am wybodaeth.
Gall fod grantiau ar gael drwy Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
Sut mae gwneud cais
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cysylltwch â:
Dr Hywel Glyn Lewis
01267 676680
h.lewis@drindod.ac.uk
Canllaw yw'r wybodaeth hon. Cysylltwch â ni i drafod y cwrs.
