English
Map o'r Safle
Cyrsiau Ôl-raddedig

MA Hanes Lleol

De-orllewin Cymru ers 1800

Oes gennych chi ddiddordeb yn hanes eich ardal?
Os felly, pam na drowch eich diddordeb yn gymhwyster?

  • Sut ydyn ni'n diffinio 'hanes lleol'?
  • Sut mae hanes lleol yn dwyn perthynas â chyd-destunau Cymreig a Phrydeinig ehangach?
  • Pa ffactorau luniodd fywydau gwerin De-orllewin Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif?
  • Pa ffynonellau sydd ar gael ar gyfer ymchwilio hanes lleol mewn dyfnder?
  • Pa sgiliau sy'n cael eu meithrin gan MA Hanes Lleol?

Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau

Hanes

Dyma rai o'r cwestiynau y bydd myfyrwyr ar y cwrs MA Hanes Lleol yng Ngholeg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin yn mynd i'r afael â nhw. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae grwpiau hanes llafar wedi ffynnu yn ein cymunedau. Mae'r cwrs hwn yn cynnig arweiniad a chefnogaeth haneswyr proffesiynol i ddiddordebau o'r fath. Er ei fod yn ffocysu yn benodol ar hanes lleol De-orllewin Cymru, bro gydlynol, sef siroedd hanesyddol Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion a chanddi dreftadaeth hanesyddol gyffredin, bydd hefyd yn tynnu ar ddirnadaeth gyffredinol o dueddiadau hanesyddol ac ar wybodaeth ymarferol fanwl o hanes Cymru.

Tra bo'r cwrs yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau a thechnegau perthnasol i astudio hanes lleol, ac ar ddefnyddio'r sgiliau hynny trwy wneud astudiaethau penodol yn seiliedig ar Ddeorllewin Cymru, gellir cymhwyso'r fethodoleg i astudio ardaloedd a rhanbarthau eraill. Bydd yr elfen o ymchwil ymarferol yn cyfarwyddo myfyrwyr â strategaethau ymchwil ac adnoddau a bydd yn hybu myfyrwyr i ymgymryd â'u hymchwil gwreiddiol unigol yn seiliedig ar eu diddordebau personol. Gellir ystyried cyflwyniadau llwyddiannus ar gyfer eu cyhoeddi mewn cylchgronau hanes lleol perthnasol neu fel monograffau.

Mae'r cwrs MA Hanes Lleol yn ddeniadol i haneswyr academaidd, sy'n dymuno ffocysu ar ryw agwedd arbennig o'r cwrs, ac i rai sy'n ceisio hyfforddiant galwedigaethol pellach mewn gyrfa ym meysydd addysg, llyfrgellyddiaeth, cyhoeddi, twristiaeth neu'r cyfryngau. Byddai'n apelio yn ogystal at y sawl sydd â diddordeb arbennig yn eu bro yn Ne-orllewin Cymru.

Cynnwys y Cwrs

Cewch gyfle i ddarganfod mwy am yr amrywiaeth gyfoethog o nodweddion diwylliannol, crefyddol, diwydiannol, cymdeithasol, addysgol, ieithyddol ac economaidd a luniodd y gymdeithas yn Ne-Orllewin Cymru er 1800.Y modylau yw:

  • Diwylliant Poblogaidd 1860 - 1960
  • Profiadau Addysgol
  • Profiadau Amaethyddol
  • Profiadau Crefyddol
  • Profiadau Cymdeithasol
  • Profiadau Diwydiannol

Bydd y cwrs yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol mewn sgiliau a thechnegau ymchwil ymarferol a dadansoddiad manwl o ffynonellau gwreiddiol, llawer ohonynt heb eu cyffwrdd o’r blaen, yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd myfyrwyr yn gallu gwneud defnydd o’r cyfleusterau rhagorol sydd ar gael mewn llyfrgelloedd ac archifdai sir lleol.

Asesu

Caiff y cwrs ei asesu trwy gyfrwng:

  • Aseiniadau gwaith cwrs
  • Traethawd hir o 20,000 o eiriau ar bwnc perthnasol

Gellir ennill Diploma Ôl-radd mewn Hanes Lleol o gwblhau’r elfennau a addysgir o’r cwrs gradd.

Staffio

Mae tiwtoriaid y cwrs yn arbenigwyr cydnabyddedig ar agweddau amrywiol Hanes Lleol ac maent wedi cyhoeddi erthyglau a llyfrau ar themâu yn ymwneud â’r cwrs. Maent wedi bod ynghlwm â’r cwrs ers ei gychwyn yn 1995.Y prif diwtoriaid yw:

Mr Conway Davies, sy’n ymchwilio i agweddau ar ddarpariaeth Deddf y Tlawd a hanes iechyd yn yr ardal, fydd yn dysgu’r modylau ar brofiadau amaethyddol, crefyddol, diwydiannol, cymdeithasol a diwylliant poblogaidd.

Dr Russell Grigg, awdur toreithiog ar agweddau ar hanes cymdeithasol ac addysgol, fydd yn dysgu’r modylau ar brofiadau addysgol, crefyddol, diwydiannol a diwylliant poblogaidd.

Strategaethau Dysgu

Addysgir y cwrs MA trwy gyfrwng grwpiau seminar bychain a sesiynau tiwtorial personol yn ôl y galw.

Pam y Drindod?

  • Sefydlwyd ym 1995 – mae’r cwrs hwn yn unigryw yng Nghymru
  • Staff profiadol ac ymroddedig
  • Cyfle i fynd ar drywydd prosiect ymchwil gwreiddiol, personol ac unigol mewn hanes leol
  • Yn ddeniadol i bawb sydd â diddordeb yn hanes De-orllewin Cymru, ym methodoleg ymchwil hanesyddol ymarferol ac wrth gwrs mewn dadl a thrafodaeth hanesyddol
  • Adnoddau llyfrgellyddol ac archifyddol da yn y fro
  • Cyfle i gyflwyno gwaith yn y Gymraeg ac, os bydd gofyn digonol, i wneud modylau penodedig trwy gyfrwng y Gymraeg

Dull o Astudio

Gradd rhan amser sydd â strwythur hyblyg iddi.

Manyleb Rhaglen

Amcanion Addysgol

Bydd y rhaglen yn gwella ymwybyddiaeth myfyrwyr o dechnegau hanesyddol a dulliau Hanesyddiaethol o astudio Hanes yn gyffredinol, yn ogystal â Hanes Lleol De-orllewin Cymru yn benodol. Mae’r dulliau ymchwil hanesyddol yn gymwys i bob maes astudio, gan amrywio o’r byd-eang i’r lleol. Er y bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar leoliad penodol, fe anogir myfyrwyr i ddatblygu fframwaith hanesyddol sy’n trosgynnu diddordebau plwyfol. Bydd myfyrwyr yn datblygu’r awch allweddol sy’n gwahaniaethu’r dull ôl-raddedig trwyadl rhag astudiaethau israddedig. Fe gyflawnir hyn drwy:

  • hybu dealltwriaeth o werth cynhenid Hanes Lleol fel maes astudio academaidd;
  • gwerthfawrogi’r defnydd o hanes lleol er mwyn mynegi tueddiadau a materion hanesyddol ehangach;
  • ymchwilio a gwerthuso’r amrediad o ffynonellau gwreiddiol sy’n berthnasol i’r astudiaethau;
  • y gallu i ddarllen a defnyddio testunau a deunyddiau ffynhonnell eraill, yn feirniadol ac yn bwysleisiol, wrth wynebu cwestiynau ynglŷn â genre, cynnwys, safbwynt a diben;
  • trafod ac asesu’n feirniadol y gwahanol ddulliau Hanesyddiaethol o agweddau ar hanes;
  • datblygu annibyniaeth ddeallusol drwy fedrau llyfryddiaethol; y gallu i gasglu, rhidyllu, dethol, trefnu a chyfosod meintiau mawr o dystiolaeth; y gallu i lunio cwestiynau priodol a chynnig atebion iddynt gan ddefnyddio tystiolaeth a dadleuon dilys a pherthnasol;
  • gwerthfawrogi cymhlethdodau a sefyllfaoedd amrywiol, digwyddiadau a meddylfryd y gorffennol;
  • gwella’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n perthyn i ymchwil, dehongli a gwerthuso’n feirniadol.

Deilliannau Dysgu

Erbyn cwblhau’r modwl hwn dylai myfyrwyr allu:

  • dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o’r prif rymoedd (gwleidyddol, economaidd a diwylliannol) sydd wedi llunio hanes de-orllewin Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif;
  • dangos gwerthfawrogiad o natur cymhleth tystiolaeth hanesyddol, drwy weithio’n agos â deunyddiau o ffynonellau gwreiddiol; gan gynnwys dogfennau, tystiolaeth weledol, ffilm, llenyddiaeth a hanes llafar, a’r gallu i adnabod, gwerthuso a chyferbynnu gwybodaeth a chysyniadau o ystod o ffynonellau cyfoes;
  • ystyried y dadleuon a’r cwestiynau Hanesyddiaethol sydd wedi tanategu rhesymwaith, damcaniaethau a dehongliadau’r rhaglen astudio benodol;
  • cynnal ymchwil annibynnol ar dopig a ddewisir; cymhwyso’r dulliau ymchwil priodol; edrych ar y dystiolaeth a gesglir, gwerthuso ei dibynadwyedd, ei dilysrwydd, ei pherthnasedd a’i harwyddocâd; cynllunio a rheoli’r casgliadau a’u cyflwyno mewn dull manwl, cydlynol ac ysgolheigaidd;
  • cymathu gwybodaeth a dehongliadau a gyflwynir ar ffurf darlithoedd, a dethol a chrynhoi nodiadau yn ôl y galw;
  • gweithio’n annibynnol, rheoli amser yn effeithiol a bod yn hunan-ddisgybledig; gan sicrhau y paratoir gwaith yn drylwyr ac y cyflwynir gwaith i’w asesu yn brydlon;
  • cyfathrebu gwybodaeth a dealltwriaeth o dopigau hanesyddol mewn amrywiaeth o ddulliau ysgrifenedig, gan gynnwys y traethawd hir, yr aseiniadau a’r papurau seminar, mewn modd eglur, cywir a chydlynol;
  • cyfathrebu gwybodaeth a dealltwriaeth o dopigau hanesyddol ar lafar mewn modd effeithiol a hyderus drwy gyflwyniadau seminar unigol, viva voce, a thrafodaethau grŵp;
  • dangos gallu gyda TGCh gan gynnwys y defnydd o wefannau a ffynonellau electronig eraill;
  • gwerthfawrogi gwerth hunanasesu; ymateb yn feirniadol i adborth ar ôl asesiad a gweithredu ar y cymorth a roddir a’r awgrymiadau a wneir.

Sgiliau Allweddol

Y sgiliau generig a enillir drwy astudio Hanes Lleol: De-Orllewin Cymru yw:

  • hunan-ddisgyblaeth;
  • hunan-gyfarwyddyd;
  • meddwl annibynnol, a menter;
  • y gallu i weithio gydag eraill, a pharchu safbwyntiau rhesymedig pobl eraill;
  • y gallu i gasglu, trefnu a defnyddio tystiolaeth, data a gwybodaeth; a bod yn gyfarwydd â dulliau priodol o adnabod, darganfod, adalw, didoli a chyfnewid gwybodaeth; gallu dadansoddol, a’r medr i ystyried a datrys problemau, gan gynnwys problemau cymhleth;
  • mynegiant llafar strwythuredig, cydlynol, eglur a rhugl;
  • gonestrwydd ac aeddfedrwydd deallusol;
  • empathi a mewnwelediad dychmygus.

Ffïoedd

Adolygir y ffioedd yn flynyddol - cysylltwch â ni am wybodaeth.

Cysylltwch â

Conway Davies
01267 676616 / 676685
c.r.davies@drindod.ac.uk

Canllaw yw'r wybodaeth hon. Cysylltwch â ni i drafod y cwrs.