MA Twristiaeth Treftadaeth
Yn mynd â chi yn eich blaen...
Ysgol Cyfrifiaduro, Busnes a Thwristiaeth
llawn amser / rhan amser
- Cwrs unigryw yn canolbwyntio ar ddiwydiant twristiaeth treftadaeth.
- Lleoliad gwaith chwe wythnos mewn sefydliad perthnasol gan ddarparu profiad gwaith a chyfleoedd rhyngweithio rhagorol sy’n gallu gwella cyflogadwyedd.
- Rhaglen o waith maes lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n darparu cydbwysedd ardderchog o ran damcaniaeth ac ymarfer.
- Rhaglen gynhwysfawr o siaradwyr gwadd.
Nod rhaglen MA Twristiaeth Treftadaeth yng Ngholeg Prifysgol Y Drindod yw creu myfyrwyr gwybodus a medrus sy’n gallu trosglwyddo sgiliau ar lefel uchel i ddiwydiant twristiaeth. Mae’r rhaglen yn cyflwyno golwg gynhwysfawr a chyffrous ar y diwydiant twristiaeth treftadaeth o bersbectifau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yn defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau addysgol i gyfoethogi’r profiad dysgu.
Mae amserlen gwaith maes helaeth yn rhan annatod o raglen MA Twristiaeth Treftadaeth. Mae cysylltiad agos rhwng y lleoliadau gwaith maes a modylau perthnasol ac maent yn darparu enghreifftiau diriaethol i ategu’r gwaith damcaniaethol. Mae ystod amrywiol o sefydliadau wedi croesawu ymweliadau’n ddiweddar, sefydliadau megis Gerddi Aberglasne, Bae Caerdydd, Castell Carreg Cennen, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Amgueddfa Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Hefyd wrth astudio ar gyfer MA Twristiaeth Treftadaeth gall cyfle godi i gymryd rhan mewn ymweliadau astudio preswyl tramor.
Mae detholiad amrywiol o siaradwyr gwadd yn cyfrannu at y rhaglen gan gynnwys academyddion a chynrychiolwyr o sefydliadau megis Bwrdd Croeso Cymru, CADW, Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
I lawer o fyfyrwyr, y lleoliad gwaith chwe wythnos sy’n profi i fod yn rhan fwyaf gwerthfawr y cwrs, lleoliad gwaith o fewn sefydliad twristiaeth treftadaeth perthnasol. Mae’r lleoliad yn darparu profiad gwerthfawr yn y diwydiant sy’n cyfoethogi unrhyw CV ac mae’n rhoi cyfle rhagorol i sefydlu cysylltiadau yn y diwydiant ac i gynyddu cyflogadwyedd. Yn ddiweddar mae detholiad o sefydliadau preifat, cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol wedi croesawu myfyrwyr ar leoliad, ac mae cysylltiadau o’r fath yn helpu hybu’r berthynas rhwng y rhaglen MA Twristiaeth Treftadaeth a’r diwydiant twristiaeth lleol.
Mae’r MA Twristiaeth Treftadaeth yn gyfle gwych ar gyfer astudio ôl-raddedig i’r rheini sydd â diddordeb cryf mewn Twristiaeth Treftadaeth. Bydd ein tîm cyfeillgar a chymwysedig, ac addysgu mewn grwpiau bach yn sicrhau eich bod yn teimlo’n rhan o fywyd y Brifysgol, a bydd y cysylltiadau ardderchog a grëwyd gyda’r diwydiant twristiaeth yn darparu cydbwysedd priodol o ddamcaniaeth ac ymarfer.Modylau
- Cyd-destunau Twristiaeth
- Twristiaeth yn yr Amgylchedd Hanesyddol
- Marchnata ar gyfer Twristiaeth Treftadaeth
- Rheoli Sefydliadau Twristiaeth Treftadaeth
- Dehongli
- Dulliau Ymchwil
- Traethawd Hir
Sut i wneud cais
Dr Louise Emanuel
Ysgol Cyfrifiaduro, Busnes a Thwristiaeth
01267 676752
l.emanuel@drindod.ac.uk
Swyddfa’r Gyfadran 01267 676696
Prif Switsfwrdd 01267 676767
