English
Map o'r Safle
Cyrsiau Ôl-raddedig

MBA Rheolaeth Twristiaeth

Cymru Ysgol Cyfrifiaduro, Busnes a Thwristiaeth

Mae MBA Rheolaeth Twristiaeth yn y Drindod yn gwrs ôl-raddedig â ffocws a anelir at weithwyr proffesiynol ym maes twristiaeth. Trwy gyfuniad o fodylau a addysgir, lleoliadau gwaith neu ddysgu yn y gwaith, a thraethawd hir, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau a gwybodaeth y gellir eu defnyddio’n uniongyrchol o fewn y gweithle.

Mae’r cwrs yn cynnwys y modylau canlynol:

  • Cyd-destunau Twristiaeth
  • Marchnata
  • Rheoli Sefydliadau Twristiaeth
  • Rheoli Adnoddau Dynol
  • Rheoli Cleientiaid
  • Rheolaeth Strategol
  • Rheolaeth Ariannol
  • Dulliau Ymchwil
  • Traethawd Hir
Cymru

Mae’r asesu trwy waith cwrs a bydd yn cwmpasu amrywiaeth o fformatau megis traethodau, adroddiadau, tasgau ariannol, lleoliad gwaith, adfyfyrio a chyflwyniadau. Ar sail lawn amser mae’r cwrs yn rhedeg ar un ddiwrnod dwys yr wythnos, felly mae’n addas ar gyfer cael eich rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod - Mae'r tymhorau fel a ganlyn:

Tymor 1 – Hydref i Ragfyr (4 modwl a addysgir)

Tymor 2 – Ionawr i Fawrth (4 modwl a addysgir)

Tymor 3 – Ebrill i Fehefin (dysgu yn y gwaith)

Yn sgil cwblhau’r modylau a addysgir yn llwyddiannus gall myfyrwyr ddechrau ar y traethawd hir, sy’n ddarn o ymchwil annibynnol o 20,000 o eiriau.

Cymru

Ffioedd

Dim ffioedd i’r rheini sy’n gweithio mewn BBaChau yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro ar gyfer blwyddyn academaidd 2007/2008.

Ffioedd – Myfyrwyr o leoedd eraill

Ffioedd – Myfyrwyr Rhyngwladol

Adolygir ffioedd yn flynyddol.

Yr Undeb Ewropeaidd

Sut i wneud cais

Am wybodaeth bellach/pecyn ymgeisio cysylltwch â

Swyddfa’r Gyfadran 01267 676696

Prif Switsfwrdd 01267 676767

Lluniau trwy garedigrwydd Cynghorau Sir Caerfyrddin a Phenfro