English
Map o'r Safle
Cyrsiau Ôl-raddedig

Yr MBA cyntaf ym Mhrydain yn benodol ar gyfer sector y Celfyddydau

MBA Rheolaeth y Celfyddydau

Ysgol y Celfyddydau Creadigol a Dyniaethau

Canolfan Mileniwm Cymru

Astudio ar gyfer MBA mewn Rheolaeth y Celfyddydau

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes rheolaeth y celfyddydau, MBA Coleg Prifysgol y Drindod yw’r rhaglen ddelfrydol i’ch helpu i wireddu’ch uchelgais. Gellir ei astudio’n rhan-amser neu’n llawn-amser, ac mae’n darparu cyfoeth o gyfleoedd rhwydweithio yn y sector gan gynnwys lleoliadau gwaith.

Ydw i’n gymwys i ymgeisio?

Violin

Os oes gennych radd gyntaf dda neu gymhwyster cyfwerth, neu’r profiad a’r sgiliau i’ch paratoi ar gyfer astudiaeth ar lefel uwch, yna rydych yn gymwys. Byddai gradd gyntaf ym maes y celfyddydau’n ddymunol ond nid yn hanfodol, ond mae’n rhaid bod gennych ddiddordeb cryf mewn gweithio yn y celfyddydau.

Beth fyddaf i’n ei astudio?

Bydd yr MBA yn edrych yn fanwl ar faterion cyfoes ym maes y celfyddydau a diwylliant, ac yn datblygu’ch sgiliau rheoli i gryfhau eich perfformiad yng nghyd-destun ehangach materion rheoli’r celfyddydau yng Nghymru, y DU a’r tu hwnt.

Rhennir y cwrs yn bedair prif elfen:

  • Modylau ar y Celfyddydau yn edrych ar gyllido’r celfyddydau, rheoli cleientiaid a’r diwydiannau creadigol
  • Modylau Rheoli: cyllid, adnoddau dynol, marchnata a strategaeth, defnyddio astudiaethau achos yn seiliedig ar y celfyddydau.
  • Gwaith ymchwil a phrosiectau yn eich paratoi ar gyfer Traethawd Estynedig neu Brosiect Mawr.
  • Lleoliadau gwaith ar gyfer y myfyrwyr i gyd, yn llawn-amser a rhan-amser, mewn amgylchedd celfyddydol.

Sut a ble byddaf i’n dysgu?

Celf

Byddwch yn mynychu Coleg Prifysgol y Drindod yn wythnosol ar gyfer darlithiau, seminarau a gwaith grwˆp. Gallwch drefnu eich amserlen astudio eich hun, gan gadw mewn cysylltiad â thiwtoriaid a myfyrwyr drwy e-bost. Gellir teilwra’r aseiniadau i’ch cyd-destun personol chi, ond byddant wedi’u cynllunio i ehangu eich profiadau trwy gymhwyso cysyniadau a thechnegau newydd.

Faint o amser astudio fydd ei angen arnaf?

Mae pob modwl 10 credyd yn cyfateb i ryw 100 o oriau astudio, yn cynnwys darlithiau, seminarau, darllen a pharatoi aseiniadau. At ei gilydd, bydd yr MBA llawn yn cymryd rhyw ddwy i dair blynedd o astudio’n rhan-amser, neu hyd at ddwy flynedd academaidd o astudio’n llawn-amser.

Pwy fydd yno i’m cynorthwyo?

Fe gewch chi enw a rhif cyswllt fydd yno ar eich cyfer a byddwch hefyd yn gallu rhwydweithio gyda’ch cyd-fyfyrwyr i drafod materion cyffredin, ac i gefnogi’ch gilydd.

Faint fydd yn ei gostio?

Celf

Gallwch dalu am bob modwl yn ei dro, gan rannu’r gost ariannol dros gyfnod y cwrs cyfan.Trefnwyd pris arbennig ar gyfer ffioedd 2007/08 sef £200 am bob modwl 10 credyd. (£6,000 ar gyfer myfyrwyr ryngwladol).

A fydd y cwrs yn cynnig yr hyblygrwydd sydd ei angen arnaf?

Mae hyblygrwydd yn rhan annatod o’r cwrs i’ch helpu i gyrraedd eich nod gan gyflawni eich ymrwymiadau gwaith a bywyd ar yr un pryd. Hefyd gallwch ddewis rhoi’r gorau i’r cwrs ar un o dri phwynt gadael, gan ennill cymhwyster am yr astudiaeth yr ydych wedi’i chwblhau:

Tystysgrif Ôl-raddedig (6 modwl, 60 credyd)
Diploma Ôl-raddedig (12 modwl, 120 credyd)
Yn ychwanegol, drwy gwblhau’r Traethawd Estynedig 60 credyd fe gewch radd MBA llawn, cyfanswm o 180 credyd.

Pam y Drindod?

  • Mae ein staff wedi ymrwymo i bartneriaeth effeithiol ym myd y Celfyddydau ac mae ganddynt brofiad eang o addysgu ac ymchwilio
  • Yr MBA Rheolaeth y Celfyddydau yw’r unig un o’i bath ym Mhrydain
  • Rydym yn cyflwyno’r cwrs yn ddwyieithog pan fo modd
  • Cefnogir yr MBA gan sefydliadau o fyd y Celfyddydau a phobl broffesiynol o bob maes
  • Mae MBA yn cynyddu ystod y dewisiadau gyrfaol sydd ar gael i bobl broffesiynol ym myd y Celfyddydau
  • Bellach, mae llawer o sefydliadau rhyngwladol yn ystyried MBA yn gymhwyster sylfaenol i reolwyr
  • Mae galw cynyddol am raddau MBA mewn sefydliadau sector cyhoeddus yn dilyn pwysau gan y llywodraeth am well perfformiad â llai o gostau
  • Mae graddau MBA yn cyfrannu at lwyddiant pob busnes, yn enwedig os yw’n ymgiprys am farchnadoedd arbenigol pan fo globaleiddio ar gynnydd
  • Mae MBA yn gwneud y rheolwr yn fwy hyderus ac effeithiol

theatrecolourfulManyleb Rhaglen

Amcanion y Rhaglen

  • darparu myfyrwyr â dealltwriaeth integredig ac ymwybyddiaeth feirniadol o Reolaeth y Celfyddydau, a’u helpu wrth ddod yn Rheolwyr effeithiol ar y Celfyddydau;
  • darparu sylfaen academaidd cadarn i fyfyrwyr yn Rheolaeth y Celfyddydau a sut mae wedi datblygu yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig;
  • galluogi myfyrwyr i wneud astudiaeth uwch o sefydliadau’r celfyddydau, y rheolaeth ohonynt a’r cyd-destun allanol newidiol maent yn gweithredu ynddo;
  • datblygu gallu myfyrwyr i gymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o fusnes a rheolaeth yn y celfyddydau at faterion cymhleth, yn systematig ac yn greadigol, ac i wella ymarfer busnes a rheolaeth;
  • ymgyfarwyddo myfyrwyr â’r prif destunau sy’n ffurfio sylfaen llawer o ddamcaniaeth ac ymarfer Rheolaeth y Celfyddydau;
  • gwella sgiliau trosglwyddadwy myfyrwyr mewn ymchwil, dehongli a gwerthuso’n feirniadol;
  • datblygu sgiliau deallusol myfyrwyr, gan gynnwys rhesymu beirniadol, dadansoddi, creadigrwydd ac adfyfyrio.

Deilliannau Dysgu

Gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau perthnasol

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bwriedir y bydd myfyrwyr wedi datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau canlynol i’r lefel AU briodol:

  • arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth berthnasol o sefydliadau’r celfyddydau, y cyd-destun allanol maent yn gweithredu ynddo a sut maent yn cael eu rheoli;
  • dangos ymwybyddiaeth feirniadol o themâu, dadleuon, a dulliau allweddol sy’n berthnasol i’r ddisgyblaeth a, lle bo’n briodol, i ddisgyblaethau cysylltiedig;
  • arddangos gwybodaeth briodol am Reolaeth y Celfyddydau a’i mynegiannau cymdeithasol a diwylliannol;
  • arddangos dealltwriaeth feirniadol o faterion traws-ddisgyblaethol sy’n berthnasol i Reolaeth y Celfyddydau;
  • crynhoi, cyflwyno a dehongli ystod o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd, gan gynnwys deunyddiau o ddisgyblaethau gwahanol;
  • arddangos ystod briodol o sgiliau gwybyddol, beirniadol a deallusol, sgiliau ymchwil a sgiliau personol a rhyngbersonol perthnasol.

Sgiliau (meddwl) deallusol

Bydd y sgiliau deallusol penodol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen hon yn gadael i fyfyrwyr:

  • ymateb i ddadleuon, cysyniadau a pharadeimau, a’u gwerthuso’n feirniadol o ran tystiolaeth academaidd;
  • ddatblygu’r gallu i gyfosod gwybodaeth, ac i ddehongli testunau a’u dadansoddi’n feirniadol, o amrywiaeth o ffynonellau;
  • ddatblygu’r gallu i ddadansoddi’r dadleuon y damcaniaethau a’r cysyniadau y cyfarfyddir â hwy ar y cwrs yn feirniadol ac i’w cwestiynu;
  • greu a datblygu syniadau ymchwil a fydd yn cyfrannu at gorff y wybodaeth ar Reolaeth y Celfyddydau;
  • gyfarwyddo a rheoli’u dysgu a’u datblygiad proffesiynol parhaus eu hun;
  • ddangos ymwybyddiaeth feirniadol am eu hymatebion eu hun i Reolaeth y Celfyddydau a bod yn barod i ymaddasu i egwyddorion a dealltwriaethau newydd.

Sgiliau Galwedigaethol/Proffesiynol

Bydd y sgiliau galwedigaethol/proffesiynol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen hon yn gadael i fyfyrwyr:

  • gyflawni’r heriau sy’n wynebau rheolwyr y celfyddydau cyfoes;
  • gymryd rhan weithredol mewn trafodaethau a phrojectau sy’n berthnasol i’r proffesiwn;
  • ddangos y gallu i adennill, didoli a dewis gwybodaeth o ystod o ffynonellau;
  • ddadansoddi a dehongli data gwreiddiol ac eilaidd;
  • ddangos cymhwysedd wrth ddefnyddio TGCh yn effeithiol mewn cyflwyniadau a chyfathrebu;
  • gynllunio ac ymgymryd â phrojectau ymchwil graddfa fach.

Sgiliau Allweddol/Cyffredin

Bydd y sgiliau allweddol/cyffredin penodol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen hon yn gadael i fyfyrwyr:

  • gyfathrebu gwybodaeth, syniadau, dadleuon, egwyddorion a damcaniaethau drwy ddulliau amrywiol: er enghraifft, traethodau a drefnir ac a gyflwynir yn glir;
  • gyfathrebu gwybodaeth, syniadau, egwyddorion a damcaniaethau drwy ddulliau llafar a gweledol addas;
  • adnabod, casglu a thrafod data a deunyddiau o ffynonellau gwreiddiol, naill ai drwy astudiaethau testunol neu waith maes;
  • reoli amser, gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethu;
  • roi sylw i, ac adfyfyrio ar syniadau a dadleuon pobl eraill;
  • gydweithio fel aelod o dîm neu grŵp;
  • ymgymryd ag astudiaeth annibynnol (gan gynnwys rheoli amser) ac ystyried eich cryfderau a'ch gwendidau fel dysgwr;
  • ddefnyddio adnoddau'r llyfrgell er mwyn canfod deunyddiau ffynhonnell, llunio llyfryddiaethau, goleuo ymchwil a gwella cyflwyniadau;
  • ddefnyddio sgiliau TG a chyfrifiadurol er mwyn casglu data, adnabod deunyddiau ffynhonnell a chefnogi cyflwyniadau ymchwil.

Sut mae cael rhagor o wybodaeth?

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â Swyddog Gweinyddol yr MBA

01267 676863 neu 676767
mbaenquiries@trinity-cm.ac.uk

Ysgol y Celfyddydau Creadigol a Dyniaethau,
Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin
SA31 3EP,

Lluniau gan: Canolfan Mileniwm Cymru, Andrew Jeffery; Tate Modern, Tate Photography