English
Map o'r Safle
Cyrsiau Ôl-raddedig

CapelTAR Uwchradd

Addysg Grefyddol

Grantiau Hyfforddi gwerth £10,900 ar gael

Rhannwch eich arbenigedd gyda phobl ifanc trwy ddysgu Addysg Grefyddol!

Cwrs blwyddyn yw hwn ar gyfer graddedigion sydd yn dymuno hyfforddi i ddysgu Addysg Grefyddol/Astudiaethau Crefydd mewn ysgolion Uwchradd.

Bydd hyfforddeion y cwrs wedi graddio mewn Astudiaethau Crefydd, Ddiwinyddiaeth, neu Astudiaethau Beiblaidd, neu yn meddu ar radd Ddyniaethau neu Astudiaethau Cyfun gyda Chrefydd yn brif bwnc, neu wedi astudio elfennau o Grefydd fel rhan sylweddol o'u gradd.

Bydd y cwrs yn

  • rhoi cyfle a phrofiad i chi ddatblygu eich meistrolaeth ar y sgiliau sylfaenol i ddysgu Addysg Grefyddol i ddisgyblion a myfyrwyr o bob gallu rhwng 11 a 18 oed
  • eich galluogi erbyn diwedd y cwrs i ddatblygu'n athro/athrawes Addysg Grefyddol gymwys a hyderus sy'n barod i ddechrau ar ei swydd gyntaf mewn ysgol
  • rhoi dirnadaeth o natur bod yn athro proffesiynol, fydd yn sail i ddatblygiad proffesiynol dilynol a pharhaol
  • eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau a'r ddirnadaeth angenrheidiol er mwyn bod yn athro/athrawes broffesiynol, fyfyriol o ran eich ymwybyddiaeth o ystod llawn o safbwyntiau ar faterion o fewn Addysg Grefyddol ac addysg yn gyffredinol

Strwythur y Cwrs

Mae hyfforddeion y cwrs 36 wythnos yn treulio 24 wythnos mewn ysgolion a 12 wythnos yn y Brifysgol. Byddwch yn cael eich lleoli mewn dwy ysgol wahanol.

Gwaith yn seiliedig yn y Brifysgol

AddysgByddwch yn ymchwilio i agweddau damcaniaethol ac ymarferol dysgu AG mewn ysgolion heddiw. Yn ystod y rhan hwn o'r cwrs byddwch yn cael arweiniad ar strategaethau Cynllunio, Dysgu, Rheoli Dosbarth ac Asesu sy'n angenrheidiol i'ch galluogi i fod yn athrawon AG effeithiol. Bydd y Cwricwlwm Cymreig a Sgiliau Allweddol fel maent yn berthnasol i AG, yn ogystal â datblygu eich sgiliau Technoleg Gwybodaeth, yn elfennau allweddol yn eich hyfforddiant.

Cewch gyfle i fynd ar ymweliadau astudio a defnyddio adnoddau arbenigol. Hyd yma, mae hyfforddeion wedi elwa o fynd ar raglenni astudio i Lundain, Yr Eidal a mannau eraill ddiddorol AG ar draws De Cymru. O ganlyniad maent wedi cael profiad uniongyrchol gwerthfawr o amrywiol gymunedau crefyddol, datblygiadau diwylliannol a chymdeithasol, ac addysg aml-ffydd.

Mae gan y Brifysgol Ganolfan Adnoddau AG gynhwysfawr iawn.

Gwaith yn seiliedig yn yr ysgol

Byddwch yn dechrau gyda thasgau arsylwi strwythuredig mewn ysgolion ac yn raddol yn ymgymryd â chyfrifoldebau dysgu, yn cynnwys gwaith TGAU a Safon A. Byddwch yn cael eich arolygu ac asesu gan uwch fentor a mentor pwnc AG profiadol yn ogystal â thiwtoriaid y Brifysgol. Mae'r bartneriaeth hyfforddiant rhwng y Brifysgol a'r ysgolion yn un safonol a llwyddiannus.

Manyleb Rhaglen

Amcanion Addysgol

Mae'r rhaglen astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion yn rhoi cymhwyster cychwynnol i raddedigion sy'n dymuno addysgu ar lefel Ysgol Uwchradd. Fe'i trefnwyd o'r dechrau mewn partneriaeth lawn rhwng Coleg Prifysgol y Drindod ac ysgolion partner o safon.

Nod y rhaglen astudio hon, sy'n Gwrs Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol i Athrawon, yw paratoi hyfforddeion ar gyfer yr her fydd yn eu hwynebu ar ddechrau eu gyrfa a datblygu arfer proffesiynol da. Mae'n rhoi cyfle iddynt ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o theori Addysg Grefyddol ac o'r pwnc yn ymarferol ar lefel sy'n briodol i'r ystod o ddisgyblion a addysgir.

Amcanion cyffredinol y cwrs yw galluogi'r hyfforddeion i:

  • rheoli materion yn ymwneud ag addysgu mewn ysgol uwchradd ac Addysg Grefyddol yn arbennig mewn modd deheuig;
  • cyflwyno'r holl Ofynion Cyffredin;
  • cyrraedd y safon a ddisgwylir gan Athrawon Newydd Gymhwyso fel y'i nodir yng Nghylchlythyr 41/2006 Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y meysydd canlynol:

S1 Gwerthoedd ac arferion proffesiynol.
S2 Gwybodaeth a Dealltwriaeth.
S3 Addysgu.

Amcanion Astudiaethau Coleg-seiliedig:

Cyflwyno hyfforddeion i ystod briodol o ddeunydd pwnc a materion sy'n berthnasol i'r canlynol:

  • cyd-destun cyfreithiol a damcaniaethol Addysg Grefyddol;
  • sut mae Addysg Grefyddol yn cael ei ymarfer mewn ysgolion;
  • y drafodaeth bresennol o fewn addysg yn gyffredinol;
  • y "Safonau ar gyfer Dyfarnu Statws Athro Cymwysedig" (Cylchlythyr 41/2006 Llywodraeth Cynulliad Cymru).

Amcanion Astudiaethau Ysgol-seiliedig:

Cyflwyno hyfforddeion i'r holl safonau perthnasol a nodir yng Nghylchlythyr 41/2006 Llywodraeth Cynulliad Cymru sef:

S1 Gwerthoedd ac arferion proffesiynol.
S2 Gwybodaeth a Dealltwriaeth.
S3 Addysgu.

Amcanion y Rhaglen Astudio/Deilliannau Dysgu

Astudiaethau Coleg-seiliedig:

  • rhoi i hyfforddeion ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r cymalau hynny mewn Deddfau Diwygio Addysg perthnasol sy'n ymwneud ag Addysg Grefyddol yn arbennig ac Addysg yn gyffredinol;
  • galluogi hyfforddeion i fod yn hyderus wrth gynllunio, addysgu ac asesu ystod eang o ddeunydd Addysg Grefyddol ar gyfer disgyblion 11-18 oed;
  • paratoi hyfforddeion i ddelio â gwahanol ddisgwyliadau cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol/proffesiynol yn yr ystafell ddosbarth/ysgol;
  • meithrin ymwybyddiaeth hyfforddeion a'u dealltwriaeth o arddegwyr mewn cyd-destunau sy'n berthnasol i'r sefyllfa addysgu yn y sector uwchradd.

Astudiaethau Ysgol-seiliedig:

  • rhoi darlun realistig i hyfforddeion o natur ac ystod y materion addysgol a'r arfer proffesiynol a geir mewn ysgolion;
  • galluogi hyfforddeion i ennill profiad o safon ynghylch cynllunio, addysgu ac asesu mewn sefyllfaoedd cynyddol gymhleth;
  • sicrhau bod hyfforddeion yn ennill y profiad angenrheidiol er mwyn iddynt gyrraedd y safon ar gyfer Statws Athro Cymwysedig.

Bydd y rhaglen astudio yn cyflawni'r amcanion hyn trwy'r dulliau canlynol:

  • Sefydlu strwythur rhaglen astudio cydlynol yn cynnwys patrwm o waith ysgol-seiliedig a choleg-seiliedig fydd yn ateb gofynion Cylchlythyr 41/2006.
  • Pennu swyddogaethau a chyfrifoldebau clir i'r mentoriaid ysgol ac i diwtoriaid y coleg er mwyn iddynt fedru gwneud cyfraniadau cydberthnasol ynghyd â chysylltu â'i gilydd yn rheolaidd.
  • Darparu rhaglen astudio Coleg-seiliedig trwy amrywiaeth o ddulliau addysgu sy'n cyflwyno hyfforddeion i'r prif faterion cyfreithiol, damcaniaethol a phedagogaidd yn ymwneud ag addysgu mewn ysgol uwchradd a materion ehangach yn ymwneud ag addysg a'r ysgol gyfan sy'n effeithio ar addysg uwchradd.
  • Darparu profiadau ysgol-seiliedig cydberthnasol sy'n cyflwyno'r hyfforddeion i faterion yn ymwneud â'r ysgol gyfan a materion arbenigol Addysg Grefyddol sy'n adeiladu ar ddulliau blaengar o weithio rhwng y Coleg a'i ysgolion partner.
  • Profiad o addysgu ar draws yr ystod oedran a gallu mewn dwy ysgol uwchradd, am gyfnodau helaeth a di-dor.
  • Y drefn asesu sy'n cofnodi datblygiad safonau yn y meysydd priodol.
  • Gwerthusiad rheolaidd a systematig o'r rhaglen astudio gan yr holl gyfranogwyr fel modd o annog adfyfyrio beirniadol a gwella'r ddarpariaeth o safon a geir mewn HCA.

Deilliannau’r Rhaglen Astudio

Y Safonau ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC)

SAC yw’r cam cyntaf mewn proses barhaus o ddatblygiad proffesiynol a fydd yn parhau trwy’r cyfnod ymsefydlu statudol a thrwy gydol gyrfa’r athro. Mae HCA yn gosod sylfaen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a datblygiad gyrfa. Yn ystod y cyfnod ymsefydlu, gall athrawon sydd newydd gymhwyso adeiladu ar y cryfderau a nodwyd yn eu HCA a gweithio ar y meysydd a nodir ganddynt a chan y rhai sy’n gweithio gyda nhw fel blaenoriaethau ar gyfer datblygiad proffesiynol yn y dyfodol. Dylai hyn eu helpu i chwarae rôl weithgar ar ddechrau eu datblygiad proffesiynol ac yn y broses o reoli eu perfformiad eu hunain, yn ogystal â pherfformiad eu cydweithwyr.

Mae’r Safonau SAC yn ddatganiadau canlyniad sy’n pennu’r hyn fydd yn rhaid i hyfforddeion ei wybod, ei ddeall a gallu ei wneud ar ddiwedd cwrs HCA neu raglen hyfforddi ar sail cyflogaeth i ennill SAC. Mae’r Safonau wedi’u rhannu’n dair rhan sy’n gysylltiedig â’i gilydd sy’n disgrifio’r meini prawf:

S1: Gwerthoedd ac arferion proffesiynol: mae’r Safonau hyn yn amlinellu’r agweddau a’r ymrwyniad a ddisgwylir gan unrhyw un sy’n cymhwyso i fod yn athro, ac maent yn deillio o ‘Ddatganiad o Werthoedd ac Ymarfer Proffesiynol’ Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

S2: Gwybodaeth a dealltwriaeth: mae’r Safonau hyn yn gofyn bod athrawon sydd newydd gymhwyso yn hyderus ac yn awdurdodol yn y pynciau y maent yn eu haddysgu a’u bod yn meddu ar ddealltwriaeth glir o sut y dylai pob disgybl ddatblygu a’r hyn y dylai athrawon ddisgwyl iddynt ei gyflawni.

S3: Addysgu: mae’r Safonau hyn yn ymwneud â sgiliau cynllunio, monitro ac asesu, ac addysgu a rheoli dosbarth. Maent yn seiliedig ar y gwerthoedd a’r wybodaeth yn y ddwy adran gyntaf.

S1: Gwerthoedd ac arferion proffesiynol

I ennill SAC, bydd yn rhaid i hyfforddeion ddangos eu bod yn deall ac yn cadw at egwyddorion ‘Datganiad o Werthoedd ac Ymarfer Proffesiynol’ Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru drwy arddangos yr holl rinweddau canlynol:

S1.1 Maent yn deall yr anghenion dysgu amrywiol sydd gan ddisgyblion ac yn ceisio rhoi’r addysg orau bosibl iddynt er mwyn manteisio i’r eithaf ar eu potensial, waeth beth yw eu  huchelgeisiau unigol, eu hamgylchiadau personol neu eu cefndiroedd diwylliannol,  ieithyddol, crefyddol ac ethnig.

S1.2 Maent yn ymddwyn yn broffesiynol ac yn ysgogi ac yn ysbrydoli disgyblion, gan  sicrhau eu bod yn datblygu’n ddeallusol ac yn bersonol. Maent yn sicrhau bod eu perthynas  a’r disgyblion yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd.

S1.3 Mae ganddynt amryw rinweddau proffesiynol, sy’n ysgogi ac ysbrydoli disgyblion ac  yn sicrhau eu bod yn datblygu’n ddeallus ac yn bersonol.

S1.4 Maent yn cydnabod pa mor bwysig yw mynegi gwybodaeth a disgwyliadau yn glir ac  yn sensitif i rieni a gofalwyr, yn ogystal â meithrin perthynas gadarnhaol rhwng y cartref a’r  ysgol.

S1.5 Maent yn ceisio hybu’r ysgol fel rhan o’r gymuned ehangach.

S1.6 Maent yn cydnabod ac yn deall y cyfraniad sydd ei angen, ac a wneir, gan y staff  cymorth a phobl broffesiynol eraill i’r broses ddysgu.

S1.7 Gallant gyfrannu at ddatblygiad ehangach yr ysgol a’r proffesiwn, ac maent yn ymwybodol o bwysigrwydd cynnal gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau proffesiynol cyfredol. Gallant werthuso eu harferion a chydnabod eu hanghenion eu hunain, gan gymryd cyfrifoldeb dros eu datblygiad proffesiynol parhaus.

S1.8 Maent yn gweithio o fewn y fframweithiau statudol ar gyfer cyfrifoldebau athrawon ac  yn gyfarwydd â hwy.

S2: Gwybodaeth a dealltwriaeth

Er mwyn ennill SAC, mae’n rhaid i’r hyfforddeion arddangos yr holl rinweddau canlynol:

S2.1 Mae ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth gadarn am y pwnc /pynciau y maent wedi’u  hyfforddi ar eu cyfer. Ar gyfer y rhai sy’n cymhwyso i addysgu disgyblion uwchradd dylai’r  wybodaeth a’r ddealltwriaeth hon fod at safon sy’n cyfateb i lefel gradd. Mewn perthynas â  chyfnodau penodol, mae hyn yn cynnwys:

(c) Ar gyfer cyfnod Allweddol 3

  • Maent yn ymwybodol o Raglenni Astudio perthnasol y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn eu deall.
  • Os ydynt yn cymhwyso i addysgu o leiaf un pwnc craidd, maent yn gyfarwydd ag egwyddorion Anelu at Ragoriaeth yng Nghyfnod Allweddol 3 a’r canllawiau diweddarach Codi Safonau Llythrennedd a Rhifedd a Codi Safonau mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Maent yn ymwybodol o ofynion cyffredin y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn eu deall, ac yn gyfarwydd â’r canllawiau Anelu at Ragoriaeth yng Nghyfnod Allweddol 3.

(ch) Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 ac ôl – 16

  • Os yw eu cyrsiau’n ymwneud a Chyfnod Allweddol 4, mae’n rhaid iddynt fod yn ymwybodol o Raglen(ni) Astudio perthnasol y Cwricwlwm Cenedlaethol a’u deall.
  • Maent yn ymwybodol o’r Llwybrau Dysgu ar gyfer datblygu drwy’r cyfnod 14-19 mewn ysgolion, colegau a lleoliadau seiliedig ar waith.
  • Maent yn ymwybodol bod Llwybrau Dysgu’n cynnwys rhaglenni o amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys gofynion statudol y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 4, y Craidd Dysgu a phrofiadau ehangach.
  • Maent yn gyfarwydd â’r Sgiliau Allweddol a bennwyd gan ACCAC cyn 1 Ebrill 2006, neu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a’r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol
  • Maent yn gyfarwydd â’r broses o ddatblygu o fewn eu pwnc eu hunain a datblygu ohono a’r amrywiaeth o gymwysterau y mae’n cyfrannu atynt
  • Maent yn deall sut y caiff cyrsiau eu cyfuno yng nghwricwla’r myfyrwyr.

S2.2 Maent yn ymwybodol o nodau a chanllawiau’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn eu
deall; yn benodol:-

  • Maent yn ymwybodol o’r gwerthoedd, y nodau a’r dibenion a’r gofynion addysgu cyffredinol sydd yn y Ragarweiniad i’r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru, ac yn eu deall
  • Maent yn deall y dylai disgyblion yng Nghymru gael cyfleoedd, le bo’n briodol, i ddatblygu a chymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol a ieithyddol Cymru (Y Cwricwlwm Cymreig)
  • Fel y bo’n berthnasol i’r ystod oedran y maent wedi’u hyfforddi ar ei gyfer, maent yn gyfarwydd â’r Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCH), ar Fframwaith Addysg Gysylltiedig â Gwaith ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed yng Nghymru
  • Maent yn gyfarwydd â’r canllawiau cenedlaethol diweddaraf ar hyrwyddo Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.

S2.3 Maent yn ymwybodol o’r disgwyliadau, y cwricwla nodweddiadol a’r trefniadau addysgu yn y Cyfnodau Allweddol neu’r cyfnodau cyn ac ar ôl y cyfodau y maent wedi’u hyfforddi ar eu cyfer.

S2.4 Maent yn deall sut y gall datblygiad corfforol, deallusol, ieithyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac emosiynol y disgyblion effeithio ar eu proses ddysgu

S2.5 Maent yn gwybod sut i ddefnyddio TGCH yn effeithiol, er mwyn addysgu eu pwnc a’u helpu yn eu rôl broffesiynol ehangach.

S2.6 Maent yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan God Ymarfer AAA Cymru, ac yn gwybod sut i gael cyngor arbenigwyr ar fathau llai cyffredin o anghenion addysgol arbennig.

S2.7 Maent yn gyfarwydd ag ystod o strategaethau i hybu ymddygiad da a chreu amgylchedd dysgu pwrpasol.

S3: Addysgu

S3.1 Cynllunio, disgwyliadau a thargedau

Er mwyn ennill SAC, mae’n rhaid i’r hyfforddeion arddangos yr holl rinweddau canlynol:

S3.1.1 Maent yn gosod amcanion addysgu a dysgu llawn her sy’n berthnasol i’r holl
ddisgyblion yn eu dosbarthiadau. Maent yn seilio’r rhain ar eu gwybodaeth am:

(a) y disgyblion;

(b) tystiolaeth am eu cyflawniad yn awr ac yn y gorffennol;

(c) y safonau disgwyliedig ar gyfer disgyblion yn y grŵp oedran perthnasol; ac

(ch) ystod a chynnwys y gwaith sy’n berthnasol i ddisgyblion yn yr ystod oedran hwnnw.

S3.1.2 Maent yn defnyddio’r amcanion addysgu a dysgu hyn i gynllunio gwersi, a chyfresi o wersi, gan ddangos sut y byddant yn asesu proses ddysgu’r disgyblion. Maent yn ystyried anghenion amrywiol y disgyblion ac yn eu cefnogi fel bod merched a bechgyn, o bob grŵp ethnig, yn datblygu’n dda.

S3.1.3 Maent yn dewis ac yn paratoi adnoddau, ac yn cynllunio i’w trefnu’n ddiogel ac yn effeithiol, gan ystyried diddordebau’r disgyblion a’u cefndiroedd ieithyddol a diwylliannol, gyda help staff cymorth le bo’n briodol.

S3.1.4 Maent yn cymryd rhan mewn timau addysgu, ac yn cyfrannu atynt, fel y bo’n briodol i’r ysgol. Lle bo’n berthnasol, maent yn paratoi ar gyfer cael rhagor o oedolion i helpu i addysgu’r disgyblion.

S3.1.5 Fel y bo’n berthnasol i’r ystod oedran y maent wedi’u hyfforddi ar ei gyfer, gallant drefnu cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu mewn cyd-destunau y tu all i’r ysgol, fel ymweliadau, amgueddfeydd, theatrau, gwaith maes a lleoliadau ar sail cyflogaeth, gyda help aelodau eraillo staff le bo’n briodol.

S3.2 Monitro ac asesu

Er mwyn ennill SAC, mae’n rhaid i’r hyfforddeion arddangos yr holl rinweddau canlynol:

S3.2.1 Maent yn defnyddio ystod o strategaethau monitro ac asesu i werthuso a yw’r disgyblion yn cyflawni eu hamcanion dysgu, ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella eu gwaith cynllunio ac addysgu eu hunain.

S3.2.2 Maent yn monitro ac yn asesu wrth addysgu, gan roi adborth adeiladol a phrydlon i helpu’r disgyblion wrth iddynt ddysgu. Maent yn annog disgyblion i gyfrannu at ystyried, gwerthuso a gwella eu perfformiad eu hunain.

S3.2.3 Gallant asesu cynnydd y disgyblion yn fanwl gan ddefnyddio’r amcanion dysgu cynnar, disgrifiadau o lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol., meini prawf sy’n deillio o gymwysterau cenedlaethol, gofynion y Cyrff Dyfarnu, fframweithiau asesu’r Cwricwlwm Cenedlaethol neu amcanion o’r canllawiau perthnasol, fel y bo’n berthnasol. Gallant ofyn am arweiniad athro profiadol lle bo’n briodol.

S3.2.4 Maent yn nodi ac yn cefnogi’r disgyblion mwyaf galluog a dawnus, y rheini sy’n gweithio islaw’r disgwyliadau ar gyfer eu hystod oedran, y rheini sy’n methu a gwireddu eu potensial wrth ddysgu, a’r rheini sy’n cael problemau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol. Gallant ofyn am arweiniad gan athro profiadol lle bo’n briodol.

S3.2.5 Gyda help athro profiadol, gallent nodi lefelau cyrhaeddiad disgyblion sy’n dysgu Saesneg neu Gymraeg, os ydynt yn cael eu dysgu yn yr iaith hon a’i bod yn wahanol i’r iaith neu’r math o iaith a ddefnyddir yn y cartref. Maent yn dechrau dehongli’r gofynion o ran iaith a’r gweithgareddau dysgu er mwyn rhoi her wybyddol yn ogystal â chymorth ieithyddol.

S3.2.6 Maent yn mynd ati’n systematig i gofnodi cynnydd a chyflawniadau’r disgyblion er mwyn cael tystiolaeth am ystod eu gwaith, eu cynnydd a’u cyrhaeddiad dros y blynyddoedd.Maent yn defnyddio hon i helpu disgyblion i adolygu eu cynnydd eu hunain ac i fod yn sail ar gyfer y broses gynllunio.

S3.2.7 Gallant ddefnyddio cofnodion fel sail i adrodd ar gyrhaeddiad a datblygiad y disgyblion ar lafar ac yn ysgrifenedig i rieni, gofalwyr, pobl broffesiynol eraill a disgyblion, a hynny’n gryno, yn llawn gwybodaeth ac yn gywir.

S3.3 Addysgu a rheoli dosbarth

Er mwyn ennill SAC, mae’n rhaid i’r hyfforddeion arddangos yr holl rinweddau canlynol:

S3.3.1 Maent yn disgwyl llawer gan y disgyblion ac yn meithrin perthynas dda â hwy, sy’n canolbwyntio ar addysgu a dysgu. Maent yn sefydlu amgylchedd pwrpasol i ddysgu lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a lle mae’r disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn hyderus.

S3.3.2 Gallant addysgu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau gofynnol neu ddisgwyliedig sy’n berthnasol i’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion yn yr ystod oedran y maent wedi cael eu hyfforddi ar ei gyfer, a defnyddio’r Cwricwlwm Cymreig yn briodol. Mewn perthynas â chyfnodau penodol:

(c) Gall y rheini sy’n cymhwyso i addysgu disgyblion Cyfnod Allweddol 3 fynd ati’n alluog ac yn annibynnol i addysgu eu pwnc/pynciau arbenigol gan ddefnyddio Rhaglenni Astudio’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 a’r canllawiau perthnasol. Mae’r rhai sy’n cymhwyso i addysgu’r pynciau craidd neu TGCH yng Nghyfnod Allweddol 3 yn defnyddio’r fframweithiau, y dulliau a’r disgwyliadau perthnasol a bennir yn y canllawiau Anelu at Ragoriaeth yng Nghyfnod Allweddol 3. Mae’n rhaid i bob un sy’n cymhwyso i addysgu pwnc yng Nghyfnod Allweddol 3 allu defnyddio’r gofynion cyffredin, fel llythrennedd a rhifedd, wrth addysgu, fel y bo’n briodol i’w pwnc arbenigol;

(ch) Gall y rheini sy’n cymhwyso i addysgu Cyfnod Allweddol 4 a disgyblion ôl-16 fynd ati’n alluog ac yn annibynnol i addysgu eu pwnc/pynciau arbenigol gan ddefnyddio Rhaglenni Astudio’r Cwricwlwm Cenedlaethol a chynlluniau gwaith cysylltiedig, neu raglenni a nodwyd ar gyfer cymwysterau cenedlaethol, fel y bo’n berthnasol i’r pwnc a’r ystod oedran. Maent hefyd yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu’r Sgiliau Allweddol a nodwyd gan ACCAC, cyn ei ddiddymu ar 1 Ebrill 2006, neu gan y Cynulliad Cenedlaethol.

S3.3.3 Maent yn addysgu gwersi sydd â strwythur eglur neu gyfresi o waith sy’n ennyn diddordeb ac yn annog y disgyblion ac sy’n:

  • pennu amcanion dysgu clir i’r disgyblion
  • defnyddio dulliau addysgu rhyngweithiol a gwaith grŵp ar y cyd
  • hyrwyddo dysgu gweithredol ac annibynnol sy’n galluogi disgyblion i feddwl drostyn eu hunain, a chynllunio a rheoli eu dysgu eu hunain.

S3.3.4 Maent yn gwahaniaethu eu haddysgu i fodloni anghenion y disgyblion, gan gynnwys yrhai mwyaf galluog a dawnus, a’r rhai ag anghenion addysgol arbennig. Gallant ofyn am arweiniad athro profiadol lle bo’n briodol.

S3.3.5 Gallant gefnogi’r disgyblion hynny sy’n dysgu Saesneg neu Gymraeg os ydynt yn caeleu dysgu yn yr iaith honno a’i bod yn wahanol i’r iaith neu’r math o iaith a ddefnyddir yn y cartref, gyda chymorth athro profiadol lle bo’n briodol.

S3.3.6 Maent yn ystyried amrywiol ddiddordebau, profiadau a chyflawniadau bechgyn a merched, a disgyblion o wahanol grwpiau diwylliannol ac ethnig, er mwyn helpu’r disgyblion i ddatblygu.

S3.3.7 Maent yn trefnu ac yn rheoli amser addysgu a dysgu yn effeithiol.

S3.3.8 Maent yn trefnu ac yn rheoli cofnod addysgu corfforol, offer, deunyddiau, testunau ac adnoddau eraill yn effeithiol ac yn ddiogel, gyda help staff cymorth lle bo’n briodol.

S3.3.9 Maent yn disgwyl llawer o ran ymddygiad y disgyblion ac yn sefydlu fframwaith pendant ar gyfer disgyblaeth yn yr ystafell ddosbarth i ragweld a rheoli ymddygiad y disgyblion yn adeiladol, a hybu hunain reolaeth ac annibyniaeth.

S3.3.10 Maent yn defnyddio TGCH yn effeithiol wrth addysgu.

S3.3.11 Gallant fod yn gyfrifol am addysgu dosbarth neu ddosbarthiadau dros gyfnod hir a sylweddol. Gallant addysgu ar draws yr ystod oedran a gallu y maent wedi’i hyfforddi ar ei gyfer.

S3.3.12 Gallant ddarparu gwaith cartref a gwaith y tu allan i’r dosbarth sy’n ategu ac yn ymestyn gwaith a wnaed yn y dosbarth ac yn annog disgyblion i ddysgu’n annibynnol

S3.3.13 Maent yn gweithio ar y cyd ag athrawon arbenigol a chydweithwyr eraill, a chyda help athro profiadol lle bo’n briodol, yn rheoli gwaith y cynorthwywyr addysgu neu oedolion eraill i wella gallu’r disgyblion i ddysgu.

S3.3.14 Maent yn ymwybodol o faterion cynhwysiant cymdeithasol a chyfle cyfartal ac yn ymateb yn effeithiol wrth iddynt godi yn yr ystafell ddosbarth, gan herio ystrydebau a mynd i’r afael a bwlio neu aflonyddu, a dilyn polisïau a gweithdrefnau perthnasol.

S3.3.15 Maen yn achub ar gyfleoedd priodol i addysgu a hybu addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, ym mhob agwedd ar eu haddysgu.

Myfyrwyr

Pam y Drindod?

  • Lleoliadau mewn ysgolion ar draws De Cymru
  • Adroddiad canmoliaethus iawn yn dilyn Arolwg
  • Canolfan Adnoddau AG ardderchog
  • Staff profiadol iawn yn yr ysgolion a'r Brifysgol
  • Teithiau Astudio AG i Lundain a mannau eraill yn Ne Cymru
  • Llwyddiant ysgubol hyfforddeion o ran cael swydd

Sut i wneud Cais

Mae ffurflenni cais ar gael oddi wrth y Graduate Teacher Training Registry GTTR, on 01242 223707 http://www.gttr.ac.uk

Manylion pellach:
Vaughan Salisbury (Cyfarwyddwr Cwrs TAR Uwchradd)
TAR - Addysg Grefyddol (Uwchradd)
01267 676650
v.salisbury@drindod.ac.uk

neu Swyddfa'r Gyfadran 01267 676686
Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant

01267 676767 www.trinity-cm.ac.uk

  • Grantiau Ariannu o £10,900 ar gael
    Yn ogystal caiff eich Ffioedd Dysgu eu talu yn uniongyrchol i'r Brifysgol
  • Adroddiad canmoliaethus iawn yn dilyn Arolwg
  • Staff profiadol iawn yn yr ysgolion a'r Brifysgol
  • Lleoliadau mewn ysgolion ar draws De Cymru
  • Canolfan Adnoddau AG ardderchog
  • Prifysgol sy'n hen law ar gynnig hyfforddiant arbenigol mewn Addysg Grefyddol
  • Cyfle i fynd ar deithiau astudiaeth ee, i fannau ddiddorol AG ar draws De Cymru, Llundain a Rhufain

"Cefais fentoriaid ardderchog ar gyfer ymarfer dysgu a rhoddodd arweiniad, cefnogaeth ac adborth defnyddiol iawn"

barn hyfforddai