Tystysgrif / Diploma Graddedig mewn Datblygiad Proffesiynol
Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon
Er 1848 mae Coleg Prifysgol y Drindod wedi darparu hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghaerfyrddin, ac yn ogystal ag ehangu’i ddarpariaeth o ran cyrsiau addysg uwch, mae hyfforddi athrawon yn allweddol bwysig o hyd. Mae nifer o athrawon a gafodd eu hyfforddi yn y Drindod yn dychwelyd yma i ddilyn llwybr “Dysgu Gydol Oes” – mae’r adran sy’n dilyn yn amlinellu rhai o’r modylau sydd ar gael i’w hastudio gan ymarferwyr sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u harbenigedd.
Mae’r Dystysgrif Raddedig yn ategu’r MA Addysg a bydd cysylltiadau cynyddol rhwng meysydd astudio’r ddau gwrs hwn yn y dyfodol. Mae’n bosibl hefyd y bydd y ddarpariaeth isod yn newid yn hwyr yn 2009.
Ar “Lefel 6” y cyflwynir ac yr asesir y Dystysgrif / Diploma Graddedig, tra bod y cwrs Meistr yn cael ei gyflwyno a’i hasesu ar “Lefel 7”.
Pwy fydd yn darparu’r cwrs?
Yn ogystal â thiwtoriaid mewnol profiadol, y graddiwyd eu darpariaeth gan Estyn yn 2008 fel y ddarpariaeth orau yng Nghymru, y mae nifer o ddarparwyr allanol, ac arbenigedd ganddynt oll yn y meysydd a astudir; maent yn cynnwys darparwyr cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant rheolaeth ysgol ac eraill.
Beth fyddaf i’n ei astudio?
Yn debyg i’r cwrs Meistr byddwn yn darparu amrywiaeth o fodylau i archwilio materion addysgol ymarferol. Mae’r rhain yn gallu newid.
Modylau Arweinwyr Canolog
Mae’r modylau hyn yn rhan o raglen a drefnwyd mewn partneriaeth ag Awdurdodau Addysg Lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Cyflwynir y modylau gan yr AALlau ac maent yn ymwneud â materion arweinyddiaeth ganol mewn ysgolion Cynradd ac Uwchradd. Coleg Prifysgol y Drindod sy’n achredu’r modylau. Mae tri modwl ar gael i’r rheini sy’n gobeithio bod yn arweinwyr cynradd a thri i’r rheini sy’n gobeithio bod yn arweinwyr mewn ysgol uwchradd. Yn y lle cyntaf dylid gwneud cais trwy adran Gwella Ysgolion yr Awdurdod Lleol perthnasol.
Manteisio i’r eithaf ar TGCh yn y Cyfnod Sylfaen
O fewn addysg yng Nghymru heddiw mae pethau’n newid yn gynt nag erioed; yn enwedig o ran y modd mae TGCh yn newid arferion. Bydd y modwl hwn yn galluogi ymarferwyr i gymryd cam yn ôl i ystyried eu harferion ac i ddadansoddi’n feirniadol yr amrywiol opsiynau caledwedd a’r pecynnau meddalwedd sydd ar gael i gefnogi’r Cyfnod Sylfaen. Fel rhan o’r cwrs hwn bydd yn ofynnol i athrawon lunio gweithgareddau ysgogol i blant gyda ffocws ar eu defnyddio yn y dosbarth.
Bydd y cwrs yn edrych ar ddatblygiad creadigol a gefnogir gan y defnydd o TGCh gyda phecynnau meddalwedd megis lluniadu a pheintio yn ogystal â phrosesu geiriau, a chael gafael ar wybodaeth gan ddefnyddio'r Rhyngrwyd.
Trafodir materion cymdeithasol, moesegol a moesol yn ymwneud â defnyddio TGCh a’r Rhyngrwyd a bydd gofyn i bob myfyriwr lunio portffolio cynhwysfawr sy’n tystio i ddealltwriaeth o’r defnydd o TGCh yn y Cyfnod Sylfaen.
Bydd yr asesiad ar gyfer y modwl hwn ar ffurf portffolio cynhwysfawr gyda sylwadau adfyfyriol ar weithgareddau’r cwrs.
Manteisio i’r eithaf ar TGCh yn CA2
Mae TGCh yn cael ei ymgorffori ar draws y cwricwlwm cyfan yng Nghymru ym mhob Cyfnod Allweddol, a bydd ymarferwyr heddiw’n ymwybodol iawn o’r angen iddynt ddilyn y datblygiadau diweddaraf yn y maes hwn. Bydd y modwl hwn – sy’n canolbwyntio ar y dysgu a wneir gan blant yng Nghyfnod Allweddol 2 a sut y gellid defnyddio TGCh i gefnogi addysgu a dysgu – yn galluogi athrawon i ddadansoddi’n feirniadol y dewisiadau o ran y caledwedd a’r meddalwedd sydd ar gael ar y farchnad heddiw. Bydd y ffocws ar eu defnyddio yn y dosbarth.
Bydd yn ofynnol i athrawon lunio portffolio cynhwysfawr yn seiliedig ar weithgareddau’r cwrs. Byddant yn treulio amser yn creu ac yn addasu eu hadnoddau addysgu rhyngweithiol eu hunain ac yn ystyried yn feirniadol y rhai sydd ar gael “ar y silffoedd”.
Rhoddir ystyriaeth i faterion cymdeithasol, moesegol a moesol yn ymwneud â’r defnydd o TGCh ac, yn enwedig, dechnolegau newydd megis y Rhyngrwyd, a gofynnir i’r athrawon ystyried gwedd gadarnhaol y technolegau hyn a sut y gellir eu cymhwyso a’u defnyddio fel adnodd dysgu effeithiol.
Yn ystod y cwrs bydd ymarferwyr yn datblygu gweithgaredd addysgu a dysgu ar gyfer grŵp oedran penodol yn CA2 ac yn mynd ati i werthuso ei effeithiolrwydd o fewn eu dosbarth.
Bydd yr asesiad ar gyfer y modwl hwn ar ffurf portffolio cynhwysfawr gyda sylwadau adfyfyriol ar weithgareddau’r cwrs.
Datblygu Sgiliau Meddwl gyda Dysgwyr
Dyma faes sydd o ddiddordeb cynyddol yn sgil y symud tuag at gwricwlwm yn seiliedig ar sgiliau. Nod y modwl yw dadansoddi’r ffyrdd mae plant a phobl ifainc yn meddwl ac yn dysgu, ac i fynd i’r afael â ffyrdd gwahanol o ddatblygu sgiliau meddwl a dysgu.
Erbyn diwedd y modwl dylech allu syntheseiddio’r camau o fewn damcaniaeth datblygiad gwybyddol, gan archwilio’n feirniadol ffyrdd o ysgogi a datblygu sgiliau meddwl. Ystyrir dadansoddiad beirniadol o dechnegau dysgu’n seiliedig ar broblemau a’r hyn y gall ymagwedd o’r fath ei gynnig i blant.
Ystyrir amrywiaeth o safbwyntiau beirniadol ar ddatblygiad gwybyddol, ynghyd â damcaniaethau priodoli a sut y gallai’r rhain ddylanwadu ar gyrhaeddiad, gan gadw mewn cof wahaniaethau unigol o ran dysgu. Treulir amser yn ystyried “methiannau meddwl”, rhagfarnau, ffyrdd byr a cham-dybiau.
Ceir adfyfyrio beirniadol ar faterion megis “dysgu ar y cyd”, “dysgu cydweithredol” a “dysgu gweithredol”.
Bydd asesiad y modwl hwn ar ffurf prosiect yn seiliedig ar fater yn ymwneud ag arfer yn y dosbarth neu fater tebyg.
Mentora Athrawon dan Hyfforddiant
Mae gan Goleg Prifysgol y Drindod hanes hir o gydweithio’n agos mewn partneriaeth ag ysgolion lleol i ddatblygu athrawon ysbrydoledig ar gyfer y dyfodol. Derbyniodd y bartneriaeth hon gydnabyddiaeth gan ESTYN yn ddiweddar fod nodweddion “rhagorol” yn perthyn iddi.
Bydd y cwrs hwn yn adeiladu ar hyn a bydd yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n mynychu hyfforddiant i fentoriaid gan y Brifysgol i dderbyn cydnabyddiaeth am ansawdd y gefnogaeth maent yn ei rhoi i’r rhai sy’n awyddus i ymuno â’r proffesiwn.
Ar ôl mynychu gweithdy undydd a chyflawni rhywfaint o “ddysgu yn y gwaith” dylai athrawon allu arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o nodweddion ymarferwyr adfyfyriol a byddant yn gallu cymhwyso hyn i’r hyfforddeion yn eu gofal. Dylai hyn gael ei ategu gan ddealltwriaeth o faterion bugeiliol, “asesu ar gyfer dysgu” i athrawon dan hyfforddiant a dealltwriaeth o’r angen am asesiad ffurfiannol a chrynodol.
Rhoddir ystyriaeth i bwysigrwydd rôl gwnsela wrth ddarparu adborth ar asesiad ynghyd â phwysigrwydd cyfranogiad yr hyfforddeion yn yr adborth hwn a sicrhau eu bod yn deall sut y gallant gamu ymlaen yn gadarnhaol. Cysylltir hyn â’r syniadau cyfredol am asesu hyfforddeion.
Asesir y modwl hwn naill ai trwy astudiaeth fanwl o fater yn ymwneud â mentora neu bortffolio o dystiolaeth am gyfres o dasgau yn seiliedig ar waith y mentor gyda hyfforddeion.
Modylau Addysg Gorfforol
Mae gan Goleg Prifysgol y Drindod hanes hir hefyd ym meysydd chwaraeon ac addysg gorfforol ac mae’r staff yma yn chwarae rhan allweddol mewn sefydliadau cenedlaethol yn y meysydd hyn. Mae’n briodol felly bod y Rhaglen Dystysgrif Raddedig yn cynnwys modylau yn gysylltiedig ag arfer mewn Addysg Gorfforol. Caiff y modylau hyn eu diweddaru’n rheolaidd, ond adeg mynd i’r wasg roedd y modylau canlynol ar gael:
Arfer Da mewn Addysg Gorfforol
Prif nod y modwl hwn yw atgyfnerthu agweddau ar arfer da mewn perthynas â datblygiad y plentyn cyflawn. Mae’n symud o werthusiad beirniadol o’r cwricwlwm i synthesis o wybodaeth o ystod eang o ffynonellau i ddod ag ymarferwyr i fan lle gallant fynegi athroniaeth bersonol ar werth Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol. Mae’r cwrs yn symud ymlaen i ystyried agweddau ar gynllunio ar gyfer addysgu a dysgu effeithiol.
Bydd asesiad y modwl hwn ar ffurf portffolio o waith yn cynnwys, er enghraifft, ddadansoddiad beirniadol o adnodd sydd wedi’i gyhoeddi.
Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol Cynhwysol
Mae cynnwys disgyblion ag anghenion amrywiol yn faes pwysig mewn addysg gynradd – ac yn enwedig felly wrth addysgu Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol. Bydd y modwl hwn yn galluogi athrawon i gymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o strategaethau ar gyfer cynhwysiant. Bydd yn cynorthwyo athrawon i ffurfio strategaethau cynhwysol ac i gyflwyno eu canfyddiadau mewn ffordd hyderus a beirniadol. Bydd yn cynnwys adnabod plant ag ystod o anghenion dysgu a’r ffactorau sy’n effeithio ar eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
Bydd yr asesiad, er enghraifft, yn cynnwys dadansoddi tasgau, portffolio a lledaenu arfer da i gydweithwyr.
Ansawdd a Safonau mewn Addysg Gorfforol
Mae “Asesu ar gyfer Dysgu” yn un o’r prif gysyniadau mae athrawon yn eu trafod ar draws pob maes y cwricwlwm. Rhan o gynnwys y modwl hwn fydd swyddogaeth ddiagnostig asesu ac ymyriadau priodol gan athrawon i wella ansawdd ymateb disgyblion. Mae’r modwl yn canolbwyntio ar sicrhau bod y cyfranogwyr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu a dysgu Addysg Gorfforol trwy faterion yn ymwneud â monitro ac asesu cyrhaeddiad disgyblion. Bydd yn cynnwys y cyfranogwyr mewn dadansoddiad o egwyddorion sylfaenol asesu, cofnodi ac adrodd.
Bydd asesiad y modwl hwn er enghraifft ar ffurf portffolio - yn cynnwys gwerthusiadau beirniadol o episodau addysgu a dysgu a dadansoddiad o dasgau.
Modylau eraill sy’n berthnasol i’r ystafell ddosbarth:
Datblygu Pwnc (neu Faes Dysgu)
Modwl “generig” yw hwn y gellir ei addasu i’r “Meysydd Dysgu” gwahanol a gwmpesir naill ai o fewn y Cyfnod Sylfaen neu Gyfnod Allweddol 2 yng Nghymru. Nodau’r modwl yw gwella gwybodaeth o’r pwnc er mwyn datblygu ymagwedd adfyfyriol a beirniadol at ddysgu personol yr ymarferydd o fewn y lleoliad neu’r dosbarth.
O fewn y modwl rhoddir sylw i bethau megis ymchwil a thystiolaeth arolygon ynghyd â’r ffyrdd y gellir datblygu sgiliau allweddol o fewn y maes dysgu penodol. Anogir ymarferwyr i adfyfyrio’n feirniadol ar bolisïau ac arferion, ystyried a gwerthuso’n feirniadol ddeunyddiau ac adnoddau pwnc a llunio a chyfiawnhau cynllun gweithredu o ganlyniad i hyn.
Bydd yr asesiad trwy waith cwrs gan gynnwys gwerthusiad beirniadol o adnoddau a/neu arfer personol.
Arwain Pwnc (neu Faes Dysgu)
Yn y modwl hwn anogir ymarferwyr i ddatblygu sgiliau arwain effeithiol o fewn eu dewis faes trwy ymagwedd feirniadol at arfer proffesiynol personol.
Mae deilliannau’r modwl yn cynnwys arwain a rheoli athrawon eraill neu staff cymorth i weithio tuag at nodau cyffredin, meddwl yn greadigol i ddatrys problemau ac i fanteisio ar gyfleoedd, cyfathrebu a rheoli amser yn effeithiol. Bydd yr ymarferwyr yn gallu ehangu a chymhwyso eu gwybodaeth bynciol yn eu maes dysgu hwy ac ym mhob un o’r meysydd allweddol yn gysylltiedig ag arweinyddiaeth pwnc.
Rhoddir ystyriaeth i bethau megis hunanreoli, bod yn batrwm ymddwyn da, dirprwyo, arddulliau rheoli, ymdrin â chydweithwyr anodd, datblygu staff, partneriaethau ayb.
Bydd Cytundeb Dysgu yn sgil Cyd-drafod yn ei le i gwrdd â deilliannau'r modwl o ran arwain a rheoli staff. Caiff hwn ei asesu, ynghyd â phecyn HMS a gynhyrchir gan yr ymarferydd yn ogystal â chyflwyniad llafar byr.
Mae’r ddau fodwl isod yn cael eu paratoi ar hyn o bryd. Gyda’r rhain gobeithiwn weithio gydag Awdurdodau Addysg Lleol a chonsortia DPP i achredu’r dysgu sydd eisoes yn digwydd ac i dîm y brifysgol ddarparu cyfleoedd DPP pellach i athrawon a fydd yn eu helpu i ddatblygu’n broffesiynol yn y gweithle.
Effaith HMS ar Arfer yn yr Ystafell Ddosbarth (i’w ddilysu)
HMS fel Catalydd ar gyfer Newid Ysgol Gyfan (i’w ddilysu)
Dwyieithrwydd Ymarferol
Mae’r Drindod wedi ymrwymo i ddyheadau Iaith Pawb ac yn ceisio darparu arweinyddiaeth ym maes dwyieithrwydd.
Nod y modwl hwn yw ystyried gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd ac addysg ddwyieithog o fewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Trafodir llenyddiaeth berthnasol a damcaniaethau diweddar yn ymwneud â dwyieithrwydd unigol a chymdeithasol. Caiff athrawon y cyfle i wneud astudiaeth werthusol o strategaethau dysgu ac addysgu sy’n hyrwyddo dwyieithrwydd. Rhoddir ystyriaeth i’r ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar safonau megis arweinyddiaeth a rheolaeth, polisi a chynlluniau gwaith, adnoddau a’r defnydd o TGCh, cyfathrebu â rhieni, cysylltiadau â’r gymuned a chynlluniau pontio ynghyd â chymhelliad ac agweddau – oll yn berthnasol i sefydliad addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.
Mae’r asesiad yn aseiniad ymarferol a thraethawd dadansoddol, adfyfyriol ar ddylanwad strategaethau addysgu ac asesu penodol ar safonau dwyieithrwydd.
Addysgu Cymraeg a Methodoleg Ail Iaith yn y Sector Cynradd
Ar hyn o bryd mae’r Drindod yn paratoi cwrs cenedlaethol i hyfforddi athrawon mewn Cymraeg ail iaith a methodoleg. Bydd yr adnoddau hyn yn darparu arweiniad a chefnogaeth ymarferol i athrawon mewn ystafelloedd dosbarth Cyfnod Sylfaen a CA2.
Nod y modwl hwn yw archwilio a gwerthuso strategaethau ac adnoddau dysgu ac addysgu ail iaith, yn cynnwys y defnydd o TGCh. Trafodir y prif ddamcaniaethau yn ymwneud â chaffael ail iaith. Bydd cyfleoedd i werthuso ac adfyfyrio ar y fethodoleg a’r adnoddau a ddefnyddir i addysgu Cymraeg fel ail iaith, ac i ddadansoddi’n feirniadol bolisïau a ffactorau eraill sy’n dylanwadu ar gyrhaeddiad.
Asesir y modwl trwy aseiniad ymarferol ynghyd â thraethawd dadansoddol.
Modwl Astudiaeth Annibynnol
Yn y modwl Astudiaeth Annibynnol rhoddir cyfle i ymarferwyr ddewis maes o ddiddordeb arbennig iddynt, i ddod yn ddysgwyr annibynnol ac i adfyfyrio ar ddysgu blaenorol.
Gofynnir iddynt adfyfyrio’n feirniadol ar faes pwnc neu agwedd benodol o fewn addysg, a chyda chydsyniad Tiwtor y Brifysgol, byddant yn datblygu rhaglen astudio briodol. Mae’r modwl wedi’i seilio ar ddysgu yn sgil cyd-drafod, gyda’r tiwtor yn rhoi cyngor ar gwmpas ac addasrwydd y testun ac yn gweithredu fel mentor a hwylusydd. Bydd pob myfyriwr yn derbyn canllawiau ar strategaeth ymchwil ac yn llunio adroddiad a ymchwiliwyd yn annibynnol ynghyd â chyflwyniad seminar.
O dro i dro mae modylau ar gael mewn pynciau megis “Dyslecsia a’r Ysgol Gynradd a’r Ysgol Uwchradd – Strategaethau ar gyfer Cynhwysiant” a “Hyrwyddo Natur Arbennig Ysgolion Eglwysig”.
Gellir dilyn y modwl “Dyslecsia a’r Ysgol Gynradd a’r Ysgol Uwchradd – Strategaethau ar gyfer Cynhwysiant” ar y cyd â mynychu cwrs byr a gyflwynir yn y Drindod gan Neil Mackay. Mae Neil yn diwtor annibynnol, yn ymgynghorydd i Gymdeithas Dyslecsia Prydain ac ef fathodd y term a’r cysyniad ‘Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia’.
Nod y modwl yw galluogi ymarferwyr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o natur dyslecsia a phatrymau ymddygiad yn gysylltiedig ag ef, i werthuso strategaethau a deunyddiau i fynd i’r afael â dyslecsia’n effeithiol ac i werthuso addasrwydd y strategaethau hyn mewn gwahanol ddosbarthiadau a chyd-destunau ysgol. Asesir myfyrwyr ar draethawd yn ogystal ag astudiaeth achos sydd ill dau’n dangos tystiolaeth o ddeilliannau dysgu’r modwl.
Hyrwyddo Natur Arbennig Ysgolion Eglwysig
Mae Coleg Prifysgol y Drindod yn Goleg Prifysgol Eglwysig, ac fel y cyfryw mae “Hyrwyddo Natur Arbennig Ysgolion Eglwysig” yn fodwl sy’n adlewyrchu ethos y Brifysgol
Nod y modwl hwn yw rhoi i ymarferwyr ddealltwriaeth feirniadol o natur arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn cyd-destun Ysgol Eglwysig a’r gallu i adfyfyrio ar hyn o fewn fframwaith diwinyddol ac ysbrydol. Ymhlith pynciau eraill bydd myfyrwyr yn ystyried hanes a datblygiad Ysgolion Eglwysig gyda thrafodaeth ar rôl unigryw'r Eglwys yng nghyswllt Cymru, yn edrych ar rôl Cyfarwyddwyr Addysg Esgobaethol ac yn symud ymlaen i astudio agweddau ar addoliad, addysg amlddiwylliannol a chynhwysiant cymdeithasol o fewn yr Ysgol Eglwysig.
Ydw i’n gymwys i ymgeisio?
Mae pob athro dosbarth cyfredol a chyn athro dosbarth yn gymwys i ymgeisio – ond yr AALlau sy’n gweinyddu derbyn myfyrwyr i’r cyrsiau rheolaeth ganol. Ar hyn o bryd mae “llwybrau” gwahanol ar gael a anelir at anghenion rheini sydd ar ddechrau’u gyrfa addysgu, rheini â diddordeb mewn maes penodol a’r rheini sy’n gobeithio symud i reolaeth ganol o fewn ysgol gynradd neu ysgol uwchradd.
Sut a ble byddaf i’n dysgu?
Mae amryw o ddulliau dysgu o fewn modylau’r Dystysgrif / Diploma Graddedig. I rai disgwylir ichi fynychu darlithoedd a sesiynau ymarferol, a gellir cyflwyno’r sesiynau mewn lleoliad sy’n agos at y gweithle neu yn y Brifysgol. I eraill efallai rhoddir hyfforddiant o bell, tra bod rhai eraill, gan gynnwys y rheini â Chytundeb Dysgu yn sgil Cyd-drafod, yn gallu bod trwy gyfarfodydd unigol â thiwtor, a'r amser a’r lleoliad yn ôl dymuniad yr ymarferydd.
Ymhob modiwl bydd deilliant a asesir a gall gynnwys elfen ysgrifenedig a chyflwyniad i gyd-fyfyrwyr.
Pwy fydd yno i’m cynorthwyo?
Os nad ydych wedi gorfod ysgrifennu’n “academaidd” am dipyn o amser, byddwn yn argymell i ymarferwyr dreulio tipyn o amser yn datblygu’u sgiliau astudio cyn ymgymryd â modylau’r Dystysgrif Raddedig. Fel arfer bydd Cydlynydd y Rhaglen a’r tiwtoriaid yn gallu’ch cefnogi wrth wneud hyn, ac fel arfer yn gallu argymell cyhoeddiadau defnyddiol i’ch cefnogi gyda’r rhan hon o’r cwrs.
Yn ddibynnol ar y dulliau cyflwyno ac asesu, bydd Cydlynydd y Rhaglen a’r tiwtoriaid ar gael i roi cyngor ar hyd y modwl. Hefyd mae tîm bugeiliol pwrpasol gan y Brifysgol os byddwch angen cefnogaeth bellach.
Faint o amser astudio fydd ei angen arnaf?
Bydd hyn yn amrywio yn ôl nifer y credydau i bob modwl, ond fel enghraifft mae ymarferwyr ar y modylau Rheolaeth Ganol fel arfer yn gallu cwblhau tri modwl ugain credyd o fewn blwyddyn academaidd ar yr un pryd â bod yn gyflogedig yn llawn amser fel athrawon dosbarth.
Pryd bydd y rhaglen yn cychwyn?
Gall hyn fod yn eithaf hyblyg i rai modylau – tra bod rhai eraill â therfynau amser gosod ar gyfer ceisiadau – fodd bynnag disgwylir i bob ymgeisydd gwblhau’r cymhwyster cyn pen tair blynedd i gofrestru am y tro cyntaf yn unol â rheoliadau’r Brifysgol.
Faint fydd yn ei gostio?
Cyllidir rhai modylau gan y llywodraeth trwy’r AALlau, i eraill efallai y gwelwch fod cyllid ar gael trwy grantiau o sefydliadau perthnasol. Bydd ymgeiswyr eraill yn dewis talu’u ffioedd eu hun.
A fydd y cwrs yn cynnig yr hyblygrwydd sydd ei angen arnaf?
Mae hyblygrwydd yn rhan bwysig o’r cwrs er mwyn ichi allu cynnal eich ymrwymiad â’r ystafell ddosbarth yn ogystal â datblygu’n broffesiynol. Fodd bynnag disgwylir i bob ymgeisydd gwblhau’r cymhwyster cyn pen tair blynedd i gofrestru am y tro cyntaf yn unol â rheoliadau’r Brifysgol. Gall ymgeiswyr adael gyda’r Dystysgrif Raddedig mewn Datblygiad Proffesiynol, sy’n golygu’u bod wedi cwblhau chwe deg “credyd” ar lefel chwech (sy’n gyfwerth ag astudio am flwyddyn), neu gallant fynd ymlaen i gwblhau’r Diploma Graddedig mewn Datblygiad Proffesiynol, lle mae angen cwblhau 120 credyd.
Fodd bynnag mae cyfle hefyd i ymgeiswyr addas symud ymlaen i lefel Meistr gan fynd â’r hyn sy’n gyfwerth ag ugain credyd ar ôl astudio am gyfwerth â blwyddyn, neu dri deg credyd ar ôl astudio am gyfwerth â dwy flynedd – rhaid i hyn gael ei gadarnhau gan bwyllgor APEL y Brifysgol. Disgwylir i ymgeiswyr sy’n cymryd yr opsiwn hwn ildio’u Tystysgrif/Diploma Graddedig.
Gwybodaeth bellach
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rhaglen, cysylltwch â:
Tim Burton (Cydlynydd y Rhaglen)
01267- 676845
t.burton@drindod.ac.uk
neu cofrestrwch eich diddordeb gyda Swyddog Gweinyddu’r Dystysgrif/Diploma Graddedig:
Catherine Davies
01267-676724
