Cyrsiau Ôl-raddedig
Tystysgrif Ôl-radd Mewn Rheolaeth Llwyfan
Ysgol Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau
Bwriad y cwrs yw:
- meithrin Rheolwyr Llwyfan effeithiol a phroffesiynol;
- gosod sylfaeni ymarferol ac academaidd cadarn mewn Rheolaeth Llwyfan;
- galluogi myfyrwyr i ymgymryd ag astudiaeth uwch ym maes Rheolaeth Llwyfan
- Datblygu sgiliau trosglwyddadwy myfyrwyr ym maes ymchwil, dehongli a gwerthuso beirniadol.
Prif agweddau manteisiol:
- Cyfle i weithio ar amrywiaeth eang o gynyrchiadau dan gyfarwyddwyr gwadd profiadol
- Cyfle i fanteisio ar gyswllt agos yr Ysgol â chwmni Y Theatr Genedlaethol
- Gweithdai gyda arbenigwyr ym meysydd technegol theatr
- Cyfle i weithio gyda chwmnïoedd proffesiynol cydnabyddedig
- Cyfle i weithio o fewn hinsawdd cadarnhaol sy’n annog myfyrwyr i ymchwilio ac arbrofi wrth ddatblygu sgiliau o fewn eu meysydd arbenigol
Modylau Enghreifftiol:
- Crefft a Rheolaeth Llwyfan: mewn ymarfer
- Rheoli Perfformiad – cyfrifoldeb ac atebolrwydd
- Lleoliad Gwaith
Manyleb Rhaglen
Amcanion Addysgol
Mae’r rhaglen yn anelu at:
- roi i fyfyrwyr ymwybyddiaeth feirniadol integredig o Reolaeth Llwyfan, a’u cynorthwyo i fod yn Rheolwyr Llwyfan effeithiol;
- roi i fyfyrwyr sylfaen ymarferol gadarn mewn Rheolaeth Llwyfan fel y datblygodd yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig;
- roi i fyfyrwyr sylfaen academaidd gadarn mewn Rheolaeth Llwyfan fel y datblygodd yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig;
- alluogi myfyrwyr i ymgymryd ag astudiaeth uwch ym maes Rheolaeth Llwyfan a’r cyd-destun allanol cyfnewidiol y mae Rheolwyr Llwyfan yn gweithredu ynddo;
- gynefino myfyrwyr â’r prif destunau sy’n sylfaen i lawer o theori ac ymarfer Rheolaeth Llwyfan;
- wella sgiliau trosglwyddadwy myfyrwyr ym maes ymchwil, dehongli a gwerthuso beirniadol;
- ddatblygu sgiliau deallusol myfyrwyr, gan gynnwys rhesymu beirniadol, dadansoddi, creadigrwydd a myfyrdod.
Deilliannau Dysgu
Gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau perthnasol
Erbyn diwedd y rhaglen, dylai myfyrwyr fedru:
- arddangos gwybodaeth berthnasol a dealltwriaeth o Reolaeth Llwyfan, y cyd-destun theatraidd y mae Rheolwyr Llwyfan yn gweithredu ac yn cael eu rheoli ynddo;
- arddangos ymwybyddiaeth feirniadol o’r prif themâu, ymarfer a’r dulliau sy’n berthnasol i’r ddisgyblaeth a, lle bo hynny’n briodol, i ddisgyblaethau perthynol;
- grynhoi, cyflwyno, a dehongli amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd, gan gynnwys deunydd o wahanol ddisgyblaethau;
- arddangos amrywiaeth briodol o sgiliau gwybyddol a beirniadol, sgiliau ymchwilio a sgiliau personol a rhyngbersonol perthnasol.
Medrau Gwybyddol
Caniatâ’r medrau gwybyddol a gysylltir â’r rhaglen hon fyfyrwyr i:
- ddatblygu’r gallu i gyfosod gwybodaeth ac i ddehongli a dadansoddi’n feirniadol destunau o ffynonellau amrywiol;
- ddatblygu’r gallu i ddadansoddi’n feirniadol ac i gwestiynu cysyniadau, dadleuon a damcaniaethau y byddant yn dod ar eu traws yn y cwrs;
- lunio a datblygu syniadau ymchwil a fydd yn cyfrannu at gorff y wybodaeth ar Rheolaeth Llwyfan;
- gyfarwyddo a rheoli eu dysgu eu hunain a’u datblygiad proffesiynol cyfredol;
- ddangos ymwybyddiaeth feirniadol o’u hymatebion personol i Reolaeth Llwyfan a bod yn barod i dderbyn egwyddorion a dealltwriaethau newydd.
Medrau Proffesiynol/Galwedigaethol
Galluoga’r medrau proffesiynol/galwedigaethol a gysylltir â’r rhaglen hon fyfyrwyr i:
- gwrdd â’r sialensiau y mae Rheolwyr Llwyfan cyfoes yn eu hwynebu;
- gymryd rhan ragweithiol mewn trafodaethau a phrosiectau sy’n berthnasol i’r proffesiwn;
- arddangos y gallu i adalw, dadansoddi a dethol gwybodaeth o ffynonellau amrywiol;
- ddadansoddi a dehongli data gwreiddiol ac eilaidd;
- arddangos hyfedredd wrth ddefnyddio TGCh yn effeithiol wrth gyflwyno a chyfathrebu;
- gynllunio ac ymgymryd â phrosiectau ymchwil graddfa fechan.
Medrau Allweddol/Cyffredinol
Galluoga’r medrau allweddol a gysylltir â’r rhaglen hon fyfyrwyr i:
- gyfathrebu gwybodaeth, syniadau, egwyddorion a damcaniaethau drwy ddulliau llafar a gweledol priodol;
- adnabod, cywain a thrafod data gwreiddiol a deunydd gwreiddiol, boed hynny drwy astudiaethau testunol neu waith maes;
- reoli amser, gweithio i derfynau amser, a blaenoriaethu;
- roi sylw i a myfyrio ar syniadau a dadleuon unigolion eraill;
- weithio ar y cyd fel aelod o dîm neu grŵp;
- ymgymryd ag astudio annibynnol (gan gynnwys rheoli amser) a myfyrio ar gryfderau a gwendidau'r hunan fel myfyriwr;
- ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell er mwyn canfod deunydd gwreiddiol, casglu llyfryddiaethau, cyfarwyddo ymchwil a chyfoethogi cyflwyniadau;
- ddefnyddio TG a sgiliau cyfrifiadurol i gasglu data, canfod deunydd gwreiddiol a chefnogi cyflwyniadau ymchwil.
Cymwysterau Angenrheidiol:
Gradd dda (yn ddelfrydol mewn perthnasol) neu brofiad ymarferol perthnasol
Ceisio am le:
Ystyrir pob cais unigol yn ôl ei haeddiant
#
