English
Map o'r Safle
Datblygu Safwe a Mewnrwyd

Hygyrchedd

Mae Coleg Prifysgol y Drindod wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wasanaethau ar y We yn hygyrch i’w holl ddefnyddwyr. Mae’r Brifysgol wedi cymryd camau i gefnogi Menter Hygyrchedd y We (WAI) ac mae’n parhau i wella hygyrchedd i wasanaethau ar y We. Mae’r fenter hon yn cynnwys y defnydd o Daflenni Rhaeadru (Cascading Style Sheets - CSS) wedi’u hymgorffori mewn dogfennau (X)HTML a ddilyswyd gan ddefnyddio gwasanaeth dilysu Consortiwm y We Fyd-eang (W3C). Nod y Brifysgol yw cyrraedd o leiaf Lefel Cydymffurfio "AA" Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 1.0. gan anelu at Lefel Cydymffurfio “AAA” ar gyfer holl ddatblygiadau gwasanaethau’r Wefan a'r Fewnrwyd.