Telerau ac Amodau
Ymwrthodiad Coleg Prifysgol y Drindod
Mae’r Ymwadiad hwn yn berthnasol i’r holl ffeiliau Gwefan a/neu Fewnrwyd a gyhoeddir gan y Brifysgol, neu gan sefydliadau yn gysylltiedig â’r Brifysgol, sy’n defnyddio amrywiadau ar enwau parth Brifysgol Prifysgol y Drindod yn yr URL (gan gynnwys *.trinity-cm.ac.uk/*, *.drindod.ac.uk/*, *.drindod.com/* ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).
Tra bod Coleg Prifysgol y Drindod wedi cymryd pob gofal rhesymol wrth ddarparu deunydd ar ffurf electronig, ni all y Brifysgol gymryd cyfrifoldeb am wallau, ansawdd na chywirdeb y wybodaeth nac unrhyw ddeunydd arall a ddarperir ar Wefan(nau) a/neu Fewnrwyd y Brifysgol.
Ceidw Coleg Prifysgol y Drindod yr hawl i wneud newidiadau i Wefan a/neu Fewnrwyd y Brifysgol heb unrhyw rybudd.
Nid yw'r deunydd sydd ar gael ar Wefan(nau) a/neu Fewnrwyd Coleg Prifysgol y Drindod yn sylfaen i unrhyw gontract gyda'r darllenwyr na'r defnyddwyr. Ni fydd y Brifysgol ar unrhyw gyfrif yn gyfrifol am golledion neu gostau a ddioddefir gan unrhyw berson, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, trwy ddefnyddio neu ddibynnu ar unrhyw ddeunydd a ddarperir ar Wefan(nau) a/neu Fewnrwyd y Brifysgol.
Nid yw Coleg Prifysgol y Drindod yn gyfrifol am gynnwys na chyflwyniad unrhyw safleoedd rhyngrwyd allanol y gall fod wedi ei gysylltu â nhw, na’r cysylltiadau o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys tudalennau allanol sydd wedi'u cysylltu â Gwefan(nau) a/neu Fewnrwyd y Brifysgol, neu’r rhai a grëwyd gan unrhyw sefydliad arall sy'n gysylltiedig neu sydd ddim yn gysylltiedig â'r Brifysgol. Ni all y Brifysgol warantu y bydd y cysylltiadau hyn ar gael bob amser.
Datganiad Hawlfraint Coleg Prifysgol y Drindod
Oni nodir yn wahanol, eiddo Coleg Prifysgol y Drindod yw Hawlfraint yr holl ddeunydd a gyhoeddir ar Wefan(nau) a/neu Fewnrwyd Coleg Prifysgol y Drindod. Cedwir pob hawl.
