Gweld pob eitem o'r digwyddiadau...
Ffrinj
Dyddiad Cychwyn: 11.06.2010
Disgrifiad
Wythnos o ddigwyddiadau a drefnir gan fyfyrwyr a staff y Drindod
Nos Lun 7 Mehefin, 7pm
Lansio Sunflowers in Your Eyes gan Wasg Cinnamon: cyfrol o farddoniaeth a olygwyd gan Menna Elfyn o bedwar o feirdd benywaidd o Zimbabwe. Bydd dau fardd o Zimbabwe yn darllen o’r llyfr: Blessing Musariri ac Ethel Kwaboto a Menna Elfyn fydd yn cyflwyno’r noson.
Cefnogir y digwyddiad gan yr Academi a’r Cyngor Prydeinig
Lleoliad: Neuadd Archesgob Childs, Coleg Prifysgol y Drindod, Tocynnau £3 (£2 consesiwn)
Swyddfa Docynnau 01267 676685
Dydd Mawrth 8 Mehefin
*
Bydd myfyrwyr BA Astudiaethau Ffilm yn rhedeg gweithdai ar gyfer myfyrwyr 6ed Dosbarth a Cholegau lleol. Bydd gweithdy Ysgrifennu i’r Sgrin, ac amrywiol weithgareddau sgiliau yn dilyn, gan arwain at greu ffilm fer a fydd yn cael ei dangos ar 10 Mehefin.
Cysyllter â 01267 676696 (lleoedd yn gyfyngedig)
Nos Fawrth 8 Mehefin, 7pm
Dawnsio ar y gorwel wna haul yr haf wrth fachlud lle mae Afon Taf yn llifio i Fae Caerfyrddin. Daw myfyrwyr ar y Rhaglen MA Ysgrifennu Creadigol o Ganada, Cymru, yr India a Lloegr ynghyd i’n difyrru trwy ddarllen darnau o’u cyhoeddiad newydd Shadow Plays. Mae’r cerddi a’r cyfraniadau rhyddiaith yn ymwneud â’r thema ar ôl iddi nosi. Fe’ch gwahoddir i ymuno â hwy er mwyn profi’r hyn a allai neu na allai ddigwydd ar ôl iddi nosi. Gyda chefnogaeth Parthian Books.
Lleoliad: Talacharn – Cartref Dylan Thomas
Tocynnau £3 (£2 consesiwn)
Swyddfa Docynnau 01267 676685
Dydd Mercher 9 Mehefin
*
Bydd myfyrwyr o’r Ysgol Theatr a Pherfformio yn rhedeg gweithdai i fyfyrwyr chweched dosbarth a cholegau er mwyn ymchwilio i berfformiad heno o Derek gan Edward Bond.
Cysyllter â 01267 676696 (lleoedd yn gyfyngedig)
Nos Fercher 9 Mehefin, 7pm
gan Edward Bond
Cyfarwyddwr: Dr Jim McCarthy
Lleoliad: Y Llwyfan, Coleg Prifysgol y Drindod
Tocynnau £2 (£1 consesiwn)
Swyddfa Docynnau 01267 676685
Nos Fercher 9 Mehefin, 8pm
Cyflwyniad o ddarnau theatr, straeon byrion a barddoniaeth a ysgrifennwyd ac a berfformir gan fyfyrwyr Coleg Prifysgol y Drindod.
Lleoliad: Y Stiwdio, Coleg Prifysgol y Drindod.
Tocynnau £2 (£1 consesiwn)
Swyddfa Docynnau 01267 676685
Nos Iau 10 Mehefin, 7pm
Cyfres o arddangosiadau o ffilmiau a grëwyd gan fyfyrwyr Coleg Prifysgol y Drindod.
Lleoliad: Y Stiwdio, Coleg Prifysgol y Drindod.
Tocynnau £3 (£2 consesiwn)
Swyddfa Docynnau 01267 676685
Nos Iau 10 Mehefin, 7pm
Lansio ‘Pattern of Shadows’ gan Judith Barrow, sydd wedi’i gyhoeddi gan Wasg Honno. Bu Judith gynt yn fyfyrwraig ar raglen MA Ysgrifennu Creadigol y Drindod a bydd yn darllen o’i nofel gyntaf. Dewiswyd y nofel i fod yn un o’r llyfrau clawr meddal yn siartiau WH Smith.
Lleoliad: Neuadd Archesgob Childs, Coleg Prifysgol y Drindod, Mynediad am ddim
Nos Wener 11 Mehefin, 6pm
I gloi’r Ffrinj, cynhelir noson fywiog a chyffrous o Gerddoriaeth a Dawns a grëwyd gan fyfyrwyr perfformio ynghyd â disgyblion o ysgolion cynradd lleol.
Lleoliad: Y Stiwdio, Coleg Prifysgol y Drindod.
Tocynnau £3 (£2 consesiwn)
Swyddfa Docynnau 01267 676685
*Noddwyd y gweithdai gan iCreu
Lleoliad:
Coleg Prifysgol y Drindod
Ffôn:
01267 676685
