Dyddiau Agored
Diwrnodau Agored Cyffredinol
2010
20.10.2010
21.10.2010
Wyt ti eisiau:
- dod i wybod mwy am y Drindod?
- dod i wybod mwy am yr holl raddau, a chwrdd â’r staff academaidd?
- cael blas o fywyd myfyriwr, mewn awyrgylch Prifysgol?
- cael atebion i’r cwestiynau hynny nad oes byth cyfle i’w gofyn?
- Dangos dy deulu a dy ffrindiau o gwmpas y lle ble allai fod yn gartref i ti am dair blynedd neu fwy?
Dewch i gael profiad o’r Drindod drwy fwcio lle ar ein Dydd Agored nesaf, a chewch wybod popeth sydd i wybod am y Brifysgol, a’ch cwrs. Mae mynychu Dydd Agored yn ffordd ddelfrydol o ddod i adnabod y Brifysgol – mi fydd yn gymorth ichi wrth benderfynu a fyddwch yn hapus yn astudio yma ai peidio.
Os na fedrwch ddod ar y dyddiad arbennig hwn, yna cysylltwch â ni er mwyn trefnu dyddiad addas ichi a’ch ffrindiau.
Sut ydw i’n bwcio lle?
Mae bwcio lle ar ein Dydd Agored mor hawdd ag erioed! Y cyfan sydd angen i gwneud ydy cysylltu â’r Brifysgol naill ai drwy ffonio 01267 676791, neu drwy e-bostio dyddagored@drindod.ac.uk , gan nodi’ch enw, cyfeiriad, rhif cyswllt, ynghyd â’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo. Mae hefyd modd llenwi a dychwelyd y slip sydd yn ein Prosbectws. Yn dilyn hyn, byddwn yn danfon llythyr atoch a fydd yn cadarnhau’ch lle, ac yn rhoi amlinelliad o’r diwrnod. Os y bydd angen mwy o fanylion arnom ni, byddwn yn gofyn i ti gysylltu â ni.
Beth fydd yn digwydd yn ystod yr ymweliad?
Mae Diwrnodau Agored yn gyfle i chi gael teimlad o’r Brifysgol a’i awyrgylch. Bydd gair byr o Groeso a chyflwyniad byr am y Brifysgol yn cael ei ddilyn gan sgyrsiau pwnc ble byddwch yn cwrdd â Darlithwyr a’n Myfyrwyr Llysgenhadol. Yn ystod sgyrsiau pwnc, bydd darlithwyr yn sgwrsio am gynnwys pob cwrs, a’r math o fodiwlau sydd ar gael. Byddant hefyd yn rhoi manylion ynglŷn a beth sydd yn ddisgwyliedig gennych cyn dechrau’r cwrs, ac yn ystod eich cyfnod astudio yn y Brifysgol. Yn dilyn y sgyrsiau pwnc, mae cyfle am sgwrs bersonol gyda darlithydd, ac mae’n gyfle ichi holi cwestiynau pwrpasol ynglŷn â’r cwrs. Mae hwn hefyd yn gyfle iddyn nhw i ddod i’ch adnabod chi, ac mae’n bwysig eich bod yn dod i wybod cymaint a phosib yn ystod y sesiwn yma.
Bydd taith o Gampws y Brifysgol yn dilyn, ble byddwch yn ymweld â’r Ganolfan Chwaraeon newydd sbon, Llety Myfyrwyr, y Llyfrgell, Capel y Brifysgol, ac Undeb Myfyrwyr y Brifysgol. Yn ystod y daith byddwch yn derbyn gwybodaeth am rai o weithgareddau allgyrsiol sydd ar gael yn y Drindod.
Erbyn diwedd y dydd byddwch yn gwybod popeth sydd i’w wybod am y Brifysgol a’ch cwrs.
Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth gyda mi? (e.e. Portffolio o’m gwaith neu CV)
Does dim rhaid ichi ddod ag unrhyw beth gyda chi. Fodd bynnag, mae rhai myfyrwyr yn dod â portffolio o’u gwaith neu copi o’u CV, fel bod ganddyn nhw rywbeth i’w ddangos pan yn mynd am sgwrs bersonol gyda darlithydd. Eich dewis chi yw gwneud hyn neu beidio. Efallai y bydd rhai adrannau yn gofyn ichi ddod a CV neu bortffolio, ac yn eich gwahodd am gyfweliad anffurfiol – ond peidiwch a phoeni, byddwn yn cysylltu â chi o flaen llaw i nodi hyn.
A allaf ddod a ffrind neu aelod o deulu gyda mi?
Gallwch ddod a faint fynnwch o deulu a ffrindiau. Bydd angen i chi ein hysbysu o flaen llaw o’r niferoedd, er mwyn i ni sicrhau fod digon o luniaeth ar gael.
Sut ydw i’n cyrraedd y Drindod?
Am fanylion pellach ac i neilltuo lle cysylltwch â:
Ffôn: 01267 676791
E-bost: dyddagored@drindod.ac.uk
Graddau
Er mwyn derbyn prosbectws neu un o gyhoeddiadau eraill Coleg Prifysgol y Drindod llenwch y Ffurflen Archebu Cyhoeddiadau
Neu, ffoniwch ni ar: 01267 676767
Coleg Prifysgol y Drindod,
Caerfyrddin
SA31 3EP
Cymru
Ffôn: 01267 676767
Ffacs: 01267 676766
E-bost: cofrestrfa@drindod.ac.uk
Mae fy nghyfnod yn y Drindod wedi bod yn ardderchog. Mae pawb yn gyfeillgar ac yn gynorthwyol ac nid yw hi’n cymryd yn hir i deimlo’n gartrefol.
Mae’r cwrs yn ddiddorol iawn gan gynnwys ystod eang o bynciau llosg. Aethom ar drip addysgol i Seland Newydd yn yr ail flwyddyn a oedd yn brofiad ardderchog fydd yn aros yn y cof am byth.
Mae’r adnoddau yn y Drindod yn dda gyda nifer o ystafelloedd TG ar gael, llyfrgell helaeth a Chanolfan Adnoddau Dysgu llawn dop.
Mae byw ar gampws yn ffordd ardderchog o ymgartrefu mewn lle newydd. Mae cyfleusterau yn dda ac mae’r awyrgylch yn fywiog.
Joanne Gillespie,
BA Cynhwysiant Cymdeithasol ac
Astudiaethau Addysg
