Achredu Datblygiad Staff
Os yw’ch sefydliad yn cynnal ystod o hyfforddiant i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus eich staff, wedyn dylech siarad â’r Drindod am y cyfle i achredu’r hyfforddiant hwn tuag at gymhwyster AU. Bydd yr achrediad hwn yn ychwanegu at werth yr hyfforddiant i gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd.
Golyga achrediad y bydd y gweithiwr yn ymgymryd â gwaith a asesir a fydd fel arfer yn ymwneud â gwerthuso a gweithredu’r hyfforddiant yn y gweithle. Mantais ychwanegol hyn i gyflogwyr yw y gallant sicrhau y defnyddir ac y datblygir yr hyfforddiant.
Modylau heb achrediad
Os nad ydych yn chwilio am achrediad, mae’r Coleg yn gallu darparu rhaglenni byr ar gyfrifiadur ar ffurf dysgu trwy waith mewn ystod o feysydd datblygu rheolaeth. Gellir defnyddio’r rhain ar eu pennau eu hunain neu eu hymgorffori mewn rhaglenni datblygu a ddarperir gan eich staff eich hun neu gan ddefnyddio arbenigedd Coleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin. Ar hyn o bryd y pynciau a gynigir yw:
- Arweinyddiaeth
- Y gyfraith a chyflogaeth
- Rheoli prosiectau
- Rheoli newid
- Arloesi wrth farchnata
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle
- Goruchwylio yn y gweithle
- Mentora a hyfforddi
- Creadigrwydd a datrys problemau yn y gwaith
- Gwella’ch effeithiolrwydd personol (ar gael hefyd fel modwl 15 credyd)
