Ein hymrwymiad
Nod y Drindod yw ceisio rhoi cyfle i’w holl fyfyrwyr brofi amrywiaeth eang o ddylanwadau academaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a fydd yn hybu eu datblygiad personol ac yn ysbrydoli eu hastudiaethau. Gwnawn bob ymdrech i roi anghenion ein myfyrwyr yn gyntaf wrth gynllunio a pharatoi ein cyrsiau. Ein nod yw darparu addysg awdurdodol, adnoddau dysgu priodol, a chymorth astudio effeithiol. Rydym yn ymdrechu’n gyson i wella pob agwedd ar amgylchedd y Brifysgol er mwyn cyfoethogi mwynhad pawb sy’n aelodau o gymuned y Brifysgol. Byddwn yn ceisio ymddwyn yn gwrtais tuag atoch bob amser gan barchu preifatrwydd a chyfrinachedd. Yn anad dim, dymunwn wneud y Drindod yn gymuned lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfeillgar a chyda gofal, lle byddant yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu. Mae’r Brifysgol yn cefnogi cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth ym mhob agwedd o’i gwaith.
Siarter y myfyrwyr yn y Drindod
Mae ein Siarter Myfyrwyr yn rhoi gwybodaeth ynglyˆn â safonau gwasanaethau y mae gennych hawl i’w derbyn tra’n fyfyriwr yn y Drindod. Dywed y Siarter wrthych sut y byddwn yn ceisio cwrdd â’ch anghenion a beth i’w wneud os na fyddwn yn cyflawni’ch disgwyliadau. Mae hefyd yn dweud wrthych am eich rhwymedigaethau chi fel aelod o’r Drindod. Byddwch yn dod yn fyfyriwr yn y Drindod yn ffurfiol ar ôl cwblhau’r drefn gofrestru ar ddechrau eich cwrs. Bydd manylion llawn am Siarter Myfyrwyr y Drindod ar gael pan gofrestrwch.
Ansawdd
Fel aelod o Brifysgol Cymru, mae gan y Drindod gyfundrefn Gwarantu Safonau, sy’n ceisio sicrhau trylwyredd wrth baratoi ac addysgu cyrsiau. Mae hefyd yn goruchwylio’r broses o ddilysu a monitro cyrsiau’n fewnol. Mae pob cwrs yn cael ei fonitro, ei adolygu a’i arfarnu yn rheolaidd.
Mae’r Drindod wedi ymrwymo i’r egwyddor y dylid rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gyfrannu at brosesau gwarantu safonau trwy:
- gael eu cynrychioli ar bwyllgorau sy’n ymdrin ag adolygiadau blynyddol y cyrsiau
- gael cynrychiolaeth mewn gwahanol brosesau monitro ac adolygu
- gael eu hannog i drafod materion yn uniongyrchol gyda’r staff i gyd ac yn enwedig gyda’u tiwtoriaid personol.
Cynrychiolir y myfyrwyr ar y mwyafrif o bwyllgorau’r Drindod, yn cynnwys y Corff Llywodraethol.
Telerau ac Amodau
Fe ddewch yn fyfyriwr yn y Drindod trwy gofrestru ar gwrs a bydd yn ofynnol i chi gydymffurfio ac ufuddhau i’r Rheolau, y Rheoliadau a’r Wybodaeth i Fyfyrwyr a roddir i chi wrth gofrestru. Bydd y Drindod yn gwneud pob ymdrech rhesymol i ddysgu’r cyrsiau yn unol â’r disgrifiadau a amlinellwyd yn y Prosbectws hwn. Fodd bynnag, nid yw Coleg Prifysgol y Drindod yn darparu addysg i fyfyrwyr y Deyrnas Gyfunol fel busnes masnachol. Mae hefyd yn dibynnu’n drwm ar gronfeydd elusennol a chyhoeddus, y mae’n rhaid iddo eu rheoli mewn ffordd effeithlon a chost-effeithiol, yng nghyswllt darparu amrywiaeth o gyrsiau i nifer fawr o fyfyrwyr. Felly, ceidw Coleg Prifysgol y Drindod yr hawl i amrywio cynnwys neu ddulliau dysgu cyrsiau, i roi’r gorau i ddysgu cyrsiau neu fodylau ac i uno neu gyfuno cyrsiau, os tybia Coleg Prifysgol y Drindod fod gweithredu o’r fath yn angenrheidiol yng nghyd-destun ei amcanion ehangach.
Os bydd y Brifysgol yn rhoi’r gorau i ddysgu unrhyw gwrs, fe wna bob ymdrech rhesymol i ddarparu cwrs arall addas yn ei le. Ni all Coleg Prifysgol y Drindod dderbyn cyfrifoldeb am ddifrod i eiddo myfyrwyr, trosglwyddo firysau cyfrifiadurol i offer myfyrwyr, na chyfrifoldeb am dor-cytundeb gan gynnwys canslo cyrsiau, darlithoedd, sesiynau labordy, gweithdai a theithiau maes a gweithgareddau tebyg.
