English
Map o'r Safle
Gwasanaethau Myfyrwyr

Cynllun Hepgor Ffioedd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar Gyfer Myfyrwyr Israddedig Rhan-amser

Mae’r cynllun hwn ar gael i fyfyrwyr rhan-amser sy’n astudio rhwng 10 a 110 credyd ac yn cwrdd ag o leiaf un o’r amodau a nodir isod:-

  • Mae eich teulu’n derbyn un o’r canlynol:-
    • Cymhorthdal Incwm
    • Lwfans Ceiswyr Gwaith
    • Budd-dal tai
    • Budd-dal y Dreth Gyngor
  • Eich unig incwm fel ‘teulu’ yw budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau
  • Mae eich ‘teulu’ yn derbyn Credyd Treth Gwaith. Dylech nodi, o Ebrill 2003, fod y Credyd Treth i Deuluoedd sy’n Gweithio wedi cael ei ddisodli gan y Credyd Treth Plant a’r Credyd Treth Gwaith. Dim ond y myfyrwyr hynny sy’n derbyn Credyd Treth Gwaith sy’n gymwys i gael eu ffioedd wedi’u hepgor. Mae pawb sy’n ateb y maen prawf hwn yn gymwys. Fodd bynnag nid yw’r sawl sy’n derbyn Credyd Treth Plant yn unig yn gymwys i gael eu ffioedd wedi’u hepgor.

Sylwer bod y diffiniad o'r 'teulu' fel a ganlyn:-

  • Myfyriwr hŷn sengl, neu
  • Pâr priod neu ddibriod, neu
  • Pâr priod neu ddibriod â phlant yn dibynnu arnynt, neu
  • Rhiant sengl â phlant yn dibynnu arno/arni

Manylion Pellach

Meriel Davies
Ffôn: 01267 676659
E-bost: m.davies@drindod.ac.uk