English
Map o'r Safle
Gwasanaethau Myfyrwyr

Gwasanaeth Gyrfaoedd

Nesta a WilburYmgynghorydd Gyrfaoedd

Nesta James
Ffôn: 01267 676829
E-bost: n.james@drindod.ac.uk

Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd ar gael i holl fyfyrwyr a graddedigion Coleg Prifysgol y Drindod, a’i brif bwrpas yw helpu myfyrwyr unigol i adnabod eu nodau o ran gyrfa wrth ymadael â’r Brifysgol, a darparu cymorth a chefnogaeth briodol i’w galluogi i weithredu’r nodau hyn.

Mae Nesta ar gael drwy’r flwyddyn ar gyfer apwyntiadau i drafod:

  • Diddordebau a sgiliau yng nghyswllt yr amrywiaeth o ddewisiadau gyrfaoedd sydd ar gael
  • Ffurflenni cais a CVs
  • Technegau cyfweliadau
  • Cyngor gyrfaoedd cyffredinol ynghylch newid cyrsiau a dewisiadau o ran astudio.

Er mwyn trefnu apwyntiad i weld Nesta, ffoniwch 01267 676830.

Os na allwch wneud apwyntiad yn ystod oriau swyddfa mae croeso ichi anfon e-bost at Nesta yn n.james@drindod.ac.uk

GO Wales

Rydym yn darparu gwasanaethau GO Wales

 

Am ragor o wybodaeth am leoliadau a blas ar waith GO Wales.

Siop Swyddi

Nesta a WilburMae cysylltiadau agos gennym â’r ganolfan waith lleol a chwmnïau lleol.

Mae gwybodaeth gennym am ystod o swyddi lleol sydd ar gael.

Bydd swyddi'n cael eu hysbysebu ar yr hysbysfwrdd yn adeilad Gwasanaethau Myfyrwyr.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn rhad ac am ddim i’r holl fyfyrwyr, israddedigion ac ôl-raddedigion. Mae rhestr o swyddi gwag cyfredol nawr ar gael ar-lein:

Swyddi cenedlaethol a rhyngwladol. Bâs data Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnwys swyddi parhaol, gwyliau, blwyddyn allan,a chyfleoedd gwirfoddoli yn ogystal â swyddi byr - dymor yn yr ardal leol. Canllawiau Hawdd ar Gyfer Cofrestru

E- gyngor gyrfaoedd : Mae modd derbyn cyngor a gwybodaeth gyrfaoedd drwy e-bost.

Adnoddau'r We

PAUDOC GyrfaoeddPAUDOC Gyrfaoedd :

Ymwelwch â gwefan y Bartneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru
Am wybodaeth ar Sioeau Deithiol Gyrfaoedd
Am wybodaeth ar sut i adeiladu'ch e - bortffolio
PAUDOC Gyrfaoedd

Prospects.ac.uk

Prospects.ac.uk - Gwybodaeth am yrfaoedd, astudiaeth ôl-radd a llawer mwy

Raddedigion gan Prospects

Online Careers Management System