mae’n fwy na meithrinfa....mae'n eich ysbrydoli!

rhowch gychwyn cadarn i’ch plentyn mewn bywyd...

Mae’r Gamfa Wen yn feithrinfa ddydd bwrpasol a leolir yng Ngholeg Prifysgol y Drindod . Mae wedi’i chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Mae’r feithrinfa’n darparu amgylchedd diogel a chroesawgar lle bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r sylw gorau. Mae digon o le chwarae, tu fewn a thu allan, cyfarpar o ansawdd uchel a staff cymwysedig ..... ac mae’r oll yn cyfuno i ddarparu profiad cyfoethog i’ch plentyn. Croeso i bawb – plant myfyrwyr, staff ac aelodau’r cyhoedd
Ystod oedran:
O enedigaeth tan 5 oed
Oriau agor:
Llun - Gwener 8am - 6pm
Pam dewis Y Gamfa Wen?
Mae’r feithrinfa’n gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Pa un a ydynt yn siarad Cymraeg fel mamiaith neu fel ail iaith, cefnogir y plant wrth ennill sgiliau iaith yn ystod gweithgareddau chwarae pwrpasol. Mae pob aelod o’r staff yn siarad Cymraeg yn rhugl ac felly yn gallu cefnogi’ch plentyn a chi mewn ffordd naturiol.
Rydym yn dilyn fframwaith Y Cyfnod Sylfaen gyda’ plant 3 blwydd oed lle mae’r plant yn dysgu drwy weithgareddau sydd yn cynnig profiadau uniongyrchol gyda’r busnes difrifol o ‘chwarae’ yn darparu’r cyfrwng. Drwy eu chwarae, mae’r plant yn ymarfer a chyfnerthu eu dysgu, yn chwarae gyda syniadau, arbrofi, cymryd risgiau, datrys problemau ac yn gwenud penderfyniadau’n unigol ac mewn grwpiau.
Pam byddai hi’n syniad da i’m plentyn siarad a deall Cymraeg?
Dyma rai enghreifftiau o’r hyn a brofwyd gan ymchwil:
- mae dysgu iaith arall yn helpu datblygiad deallusol
- mae plant yn dysgu meddwl mewn ffyrdd gwahanol/yn ddargyfeiriol - mae canlyniadau ysgolion yn dangos perfformiad gwell gan blant dwyieithog
- os bydd 2 iaith gan blentyn bydd yn ei chael yn haws dysgu trydedd iaith
- cyfleoedd gyrfaoedd yn y dyfodol
Mae cysylltiadau gennym â Coleg Prifysgol y Drindod sydd o fewn Prifysgol Cymru a chanolfan ag enw da’n genedlaethol ym maes Ysgol Addysg Blynyddoedd Cynnar
Mae staff y feithrinfa’n cydweithio’n agos gyda darlithwyr Ysgol Addysg Blynyddoedd Cynnar.

Sut gall hyn helpu fy mhlentyn?
- gellir cyflwyno syniadau ar gyfer gweithgareddau ymarferol arloesol sydd wedi’u profi fel rhai sy’n helpu datblygiad plentyn yn ei gyfanrwydd e.e. chwarae hewristig (darganfod ac archwilio pethau newydd)
- mae darlithwyr yn rhannu gwybodaeth am ymagweddau gwahanol megis High/Scope a Reggio Emilia sy’n gallu annog plant i fod yn annibynnol
- gellir rhannu adnoddau o ansawdd da e.e. offer cerddorol amlddiwylliannol, doliau â chadeiriau olwyn i helpu plant deall cynhwysiant
- mae cefnogaeth/cyngor arbenigol wrth law pan fydd ei angen e.e. wrth reoli ymddygiad penodol y bydd plant yn ei arddangos – wedyn gellir rhannu’r cyngor hwn gyda rhieni er mwyn eu helpu yn eu rôl, sydd weithiau’n un anodd
Cyfarpar arbenigol o ansawdd da
Pam mae hyn yn bwysig?
- rydym wedi dewis prynu cyfarpar o’r ansawdd gorau gan Community Playthings am ei fod yn ddiogel, yn wydn, yn ymarferol ac yn ystyriol o blant. Am fanylion ynglŷn â pham mae’r cyfarpar hwn yn helpu plant, gweler communityplaythings.co.uk
- rydym wedi gwario’n helaeth ar 2 fath o flociau pren oherwydd gall chwarae â blociau gwmpasu holl agweddau'r cwricwlwm a phob maes datblygiad:
- Corfforol: datblygu sgiliau echddygol manwl a bras, magu cyhyrau, meistroli cydsymud
- Deallusol: datrys problemau, canolbwyntio, cysyniadau mathemategol, cofio, defnyddio’r dychymyg
- Ieithyddol a chymdeithasol: cyfleoedd i drafod gwaith sydd ar y gweill, cydweithio ag eraill, cydweithredu, cymryd eu tro, rhannu
- Emosiynol: mae’n eu helpu perfformio sefyllfaoedd, gwneud synnwyr o’r byd, mynegi’u teimladau, cael hwyl
Cyfleoedd i chwarae yn yr awyr agored
Mae lle chwarae tu allan â feranda dan do gennym gan ein bod yn teimlo’n gryf iawn bod rhaid i blant gael digon o ymarfer corff ac awyr iach. Pam mae chwarae awyr agored yn bwysig?
- mae’n gwella pob maes datblygiad
- mae plant yn ei fwynhau – mae’n rhoi rhyddid iddynt
- mae plant yn dod yn fwy iach – mae’u system imiwnedd yn cael ei chryfhau
- mae ymddygiad plant yn gwella pryd maent yn gallu rhedeg o gwmpas a gollwng stêm
Mae myfyrwyr BA Addysg Blynyddoedd Cynnar Coleg Prifysgol y Drindod yn gweithio’n agos gyda staff a phlant Y Gamfa Wen, meithrinfa ddydd y Brifysgol, i ddatblygu’u hamgylchedd chwarae awyr agored.
Hyd yn hyn maent wedi creu 2 beth o goed helyg: twnnel a ffau.
Rydym yn darparu amgylchedd croesawgar i rieni
Mae staff y feithrinfa’n credu’n gryf mewn gwerth partneriaeth gyda rhieni. Nid rhywle i wneud ichi deimlo’n euog am adael eich plentyn mo Y Gamfa Wen, yn hytrach byddwch yn teimlo'n hapus y bydd yn cael profiad dysgu cadarnhaol mewn amgylchedd gofalgar. Teimlwch yn rhydd i rannu unrhyw faterion yn ymwneud â datblygiad eich plentyn – mae help a chyngor bob amser wrth law.
Byddem yn hapus i’ch tywys o gwmpas ein cyfleusterau a/neu ddarparu gwybodaeth ychwanegol - cysylltwch â:
Ffôn: 01267 676645
E-bost: ygamfawen@drindod.ac.uk
Safwe: meithrinfa.drindod.ac.uk
