English
Map o'r Safle
Newyddion

Gweld pob eitem o'r newyddion...

Prifysgolion yn cysylltu gyda Hong Kong

29.10.2009

Dr Brian Clarke, Cofrestrydd y Drindod Kathleen Adnum, Swyddog Rhyngwladol, Peter Li a Sandy Lee o Swyddfa Rhyngwladol HKBU a Kevin Matherick, Pennaeth Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol. Roedd Coleg Prifysgol y Drindod yn falch o groesawu Mr Peter Li a Ms Sandy Lee o Brifysgol Bedyddwyr Hong Kong (HKBU).

Yn ystod ei ymweliad cafodd yr ymwelwyr y cyfle i gyfarfod â staff a thrafod cyfleoedd cyfnewid ar gyfer myfyrwyr o  Hong Kong a Chaerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan.

Dywedodd Kathleen Adnum, Swyddog Rhyngwladol y Drindod:  “Mae gan Brifysgol Bedyddwyr Hong Kong gysylltiad sefydledig gyda ein cydweithwyr ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan ac roeddem yn falch iawn o gael eu croesawu i gampus y Drindod yng Nghaerfyrddin.  Y mae HKBU yn debyg i’r Drindod yn y ffaith ei fod yn canolbwyntio ar y profiad i fyfyrwyr mewn awyrgylch gofalgar lle mae gofal bugeiliol yn flaenoriaeth.  Edrychwn ymlaen at ddatblygiadau yn y dyfodol”.

Llun: Dr Brian Clarke, Cofrestrydd y Drindod Kathleen Adnum, Swyddog Rhyngwladol, Peter Li a Sandy Lee o Swyddfa Rhyngwladol HKBU a Kevin Matherick, Pennaeth Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol.

D I W E D D


Nodyn at y Golygydd

Mae HKBU wedi’i ymrwymo i ardderchowgrwydd academaidd mewn addysgu, ymchwil a gwasanaethau ac i ddatblygiad y person cyfan yn yr ymdrechion hyn sydd wedi’u hadeiladu ar traddodiad addysg uwch Gristnogol.

www.hkbu.edu.hk


Manylion pellach

Kathleen Adnum
01267 676601
Eleri Beynon
01267 676790


Gweld pob eitem o'r newyddion...