Gweld pob eitem o'r newyddion...
Cynhadledd yn ystyried addysg awyr agored yn y blynyddoedd cynnar
30.10.2009
Sut i greu amgylchedd ysbrydoledig yn awyr agored er lles plant ifanc a’u gallu i ddysgu oedd prif ffocws cynhadledd a arweiniwyd gan Jan White yng Ngholeg Prifysgol y Drindod yn ddiweddar.
Roedd y gynhadledd yn rhan o ddiwrnod hyfforddiant ar gyfer 150 o weithwyr yn y blynyddoedd cynnar ledled Cymru – athrawon, cynorthwywyr dosbarth a gofalwyr plant – sy’n fyfyrwyr ar y prosiect Geiriau Bach a arweinir gan Ysgol Addysg Blynyddoedd Cynnar, Coleg Prifysgol y Drindod.
Mae Geiriau Bach, a ariannir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ymestyn defnydd y Gymraeg drwy arfer da yn y ddarpariaeth o addysg blynyddoedd cynnar ar draws Cymru. Mae’r prosiect yn galluogi i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant ifanc i ehangu eu defnydd o ddwyieithrwydd ac y mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ddi-Gymraeg neu’n ddihyder yn eu Cymraeg.
Dywed Sian Wyn Siencyn, Pennaeth Addysg Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod “Roeddem ni’n falch iawn o groesawu Jan i’r Drindod. Mae hi’n hysbys yn rhyngwladol ac yn hyfforddwraig uchel ei pharch yn y blynyddoedd cynnar ac er ei bod wedi’i lleoli yn Sheffield mae ganddi gryn ddiddordeb yng Nghymru a datblygiadau blynyddoedd cynnar Cymraeg.
“Mae themâu lles a dysgu plant yn egwyddorion creiddiol o rhaglenni Dechrau’n Deg a’r Cyfnod Sylfaen 3 – 7 yng Nghymru ac fe anogwyd y myfyrwyr i ystyried ffyrdd y gallant gynnwys profiad o’r iaith Gymraeg yn effeithiol a’i droi’n arfer da mewn chwarae ac addysg yn yr awyr agored”.
D I W E D D
LLun: Sian Wyn Siencyn gyda Jan White a rhai a fynychodd y gynhadledd
Manylion pellach:
Sian Wyn Siencyn
01267 676798
Eleri Beynon
01267 676790
Gweld pob eitem o'r newyddion...
