Gweld pob eitem o'r newyddion...
Heb ei Fai... Sioe gerdd newydd sbon, ar daith yn fuan!
15.02.2010
Pan yw llofrudd mileinig yn taro ar sawl achlysur yn Tiger Bay yn ystod 1910, aiff y gymuned leol yn ferw. Fel y tyf yr helfa wyllt am y llofrudd; tyfu hefyd wna pwysau'r trigolion lleol ar yr awdurdodau i fwrw ati ar unwaith i ganfod y 'drwgweithredwr' – waeth beth fo'r gost.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol cynhyrchiad y sioe gerdd Clymau fu ar daith yn 2009, mae Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau - Coleg Prifysgol y Drindod yn falch o gyflwyno ffrwyth creadigol diweddaraf Ceri Elen ac Eilir Owen Griffiths (sydd hefyd yn un o diwtoriaid cerdd yr Ysgol). Tra bod Clymau yn seiliedig ar ddrama Siwan – Saunders Lewis, stori wreiddiol sy’n sail i Heb ei Fai..., er bod y themâu o gariad, cyfrifoldeb a phwysau disgwyliadau cymdeithasol yn treiddio trwy’r ddau waith.
“Mae’r themâu a geir yn y sioe yma yn rai hynod amserol”, yn ôl y cyfarwyddwr Iestyn Llwyd (Pennaeth Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau), “mae’r modd y gall grym y Wasg a’r Cyfryngau gynhyrfu hysteria cymdeithasol drwy eu defnydd o benawdau cynyrfiadol ‘sensational’, yn frawychus. Mwy brawychus fyth yw’r modd y gall yr awdurdodau ildio i’r fath bwysau cymdeithasol i ganfod a chyhuddo rhywun - hynny yw, unrhyw un!”
Euros Rhys Evans - cydlynydd llwybrau astudiaeth cerddorol yr Ysgol – yw Cyfarwyddwr Cerdd y cynhyrchiad. Yn ôl Euros; “Mae’n fraint i bob cyfansoddwr fedru saernïo’i gerddoriaeth, gan wybod yn union pwy sy’n mynd i berfformio’i waith am y tro cyntaf. Yn yr un modd, mae cyfle fel hwn yn wych i fyfyrwyr sy’n cael llwyfannu gwaith newydd, cyffrous, sydd wedi ei gyfansoddi’n arbennig ar eu cyfer.”
Bydd y perfformiadau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr 2il a 3ydd blwyddyn rhaglenni astudiaeth perfformio, cerddoriaeth a chyfryngau o fewn yr Ysgol i gydweithio ac arddangos eu talentau. Y myfyrwyr hefyd sydd yn gyfrifol am nifer helaeth o gyfrifoldebau ymylol trefnu a theithio’r sioe. Mae rhai o fyfyrwyr cyfryngau yr Ysgol wrthi’n creu rhaglen ddogfen sy’n dilyn datblygiad y cynhyrchiad, ac yn cyhoeddi penodau yn wythnosol ar dudalen Facebook y cynhyrchiad.
Mae’r gwaith o drefnu a chydlynu taith theatrau ar y raddfa yma yn cynnig her a phrofiad arbennig i’r myfyrwyr, ac yn rhan o fwriad yr Ysgol i gynnig profiadau realistig i’r myfyrwyr wrth eu paratoi at sialensiau tebyg yn y byd proffesiynol wedi iddynt orffen eu cyfnod yn y Drindod. Yn ôl Nanw Llwyd Williams, myfyrwraig ar ei 3edd blwyddyn sy’n hanu o Gaerdydd;
“Rwy wastad yn mwynhau cael gweithio ar sioeau cerdd, ond mae hon yn sioe sydd mor gyffrous ac yn wahanol i’r arfer. S’dim llawer o sioeau cerdd “Murder Mystery” i’w cael. Dwi’n edrych ymlaen at fynd ar y daith yn fwy na dim”
Bydd y sioe yn ymweld â’r canolfannau canlynol:
Mawrth 22/23 Neuadd Dwyfor, Pwllheli am 7:30 y.h. £7.50 / £6 cons. (01758 70 40 88)
Mawrth 24/25 Theatr Colwyn, Bae Colwyn 7:30 y.h. £8 / £6 (01492 53 26 68)
Mawrth 27 Theatr Taliesin, Abertawe 8:00 y.h. £8 / £6 (01792 60 20 60)
Mawrth 29/30 Stiwdio Weston, CMC Bae Caerdydd 8:00 y.h. (£8 - £12) (08700 40 20 00)
Am ragor o fanylion gellir cysylltu â Thîm Marchnata’r Cynhyrchiad: 07581 003 270
neu drwy e-bost: hebeifai@hotmail.co.uk
Gweler hefyd grŵp “Heb ei Fai” ar “Facebook”
Gweld pob eitem o'r newyddion...
