English
Map o'r Safle
Newyddion

Gweld pob eitem o'r newyddion...

Cynhadledd i fyfyrwyr Addysg Grefyddol

05.02.2010

Gregynog Am y tro cyntaf, bydd cyfle i fyfyrwyr Astudiaethau Crefyddol sy’n dilyn eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg gyfarfod mewn cynhadledd arbennig a gynhelir yn hyfrydwch a mawredd Gregynog.

Trefnwyd y cyfarfod ar y cyd rhwng Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor ac Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin. Testun y gynhadledd yw ‘Agweddau ar Grefyddau’r Byd’, a bydd tri chyflwyniad llawn a thrafodaeth yn dilyn: ‘Yr Iddew trwy lygaid y Cristion’ gan yr Athro Gareth Lloyd Jones (Prifysgol Bangor), ‘Cristnogaeth Fyd-eang: Cipolwg ’Nôl a ’Mlaen’ gan Dr Noel Davies (Coleg Prifysgol y Drindod) ac ‘Iesu, Merched a’r Cyd-destun Iddewig’ gan Dr Catrin Williams (Prifysgol Bangor). Yn ogystal, bydd cyfle i’r myfyrwyr drafod eu hanghenion a mynegi eu barn ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg bresennol. Bydd y gynhadledd yn dechrau ar ôl swper ddydd Iau, 18 Chwefror ac yn dod i ben ar ôl cinio dydd Gwener, 19 Chwefror. Noddir y gynhadledd gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg.

Manylion pellach

Eleri Beynon
01267 676790


Gweld pob eitem o'r newyddion...