Gweld pob eitem o'r newyddion...
Graddedigion cyntaf y cynllun AUR
05.02.2010
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo gyntaf y Cynllun AUR (Anelu’n Uwch at Ragoriaeth) yng Ngholeg Prifysgol y Drindod yn ddiweddar lle cyflwynwyd tystysgrifau i ddisgyblion llwyddiannus o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Ysgol y Preseli ac Ysgol Gyfun y Dyffryn Teifi.
Cyfadran Gysylltiol Coleg Prifysgol y Drindod yw AUR sydd wedi cael ei chreu er mwyn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd i astudio ar lefel prifysgol. Lansiwyd AUR fis Mawrth diwethaf a bellach mae 34 o ysgolion ar draws De Cymru wedi dangos diddordeb mawr yn y cynllun.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gyfadran, Vaughan Salisbury “Mae’r ymateb i AUR o du’r ysgolion wedi bod yn galonogol iawn. Cynhaliwyd y cynllun peilot gyda’r disgyblion a wobrwywyd yn y seremoni ac erbyn diwedd y flwyddyn academaidd bydd 500 o fyfyrwyr wedi astudio o leiaf un modwl gyda ni. Mae modylau ar sgiliau astudio, astudiaethau sy’n cyfrannu at gymhwyster Bagloriaeth Cymru a modylau eraill yn ymwneud â chyrsiau cwricwlaidd Safon A. Gwêl yr ysgolion eu gwerth o ran atgyfnerthu’r gwaith y maent yn ei wneud yn barod tra hefyd yn cyflwyno’u disgyblion i’r dulliau astudio a fydd yn eu hwynebu yn eu dewis brifysgol maes o law”.
Ychwanegodd “Rydym yn ffodus o gael tîm cryf yma yn y Drindod, sydd bellach yn cynnwys Dr Mererid Hopwood, a chyda’n gilydd yr ydym wedi datblygu perthynas waith fuddiol iawn gyda’r ysgolion partner fydd yn fodd o ddiddymu rhwystrau rhwng addysg uwchradd a phrifysgol. Y mae hefyd yn dangos ymrwymiad y Drindod tuag at ehangu mynediad i addysg uwch ac i addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn arbennig”.
Ymhlith y buddiannau niferus i ddisgyblion yw’r cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy y byddant yn elwa ohonynt yn eu dewis prifysgol, y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’u pynciau dewisol.
Dywedodd Tim Hayes Pennaeth Blynyddoedd 12/13, Ysgol Bro Myrddin "Braf oedd cael rhai o'n Chweched Dosbarth i gael y cyfle i astudio ar Lefel 4 mewn modwl fydd o gymorth iddynt wrth symud ymlaen i gam nesaf eu gyrfa academaidd. Roedd y ddarpariaeth yn dda iawn, a Thiwtoriaid y Coleg yn barod iawn i ateb ein anghenion ni fel ysgol."
Ychwanegodd Dafydd Hughes, Pennaeth Blynyddoedd 12 /13 yn Ysgol y Preseli “Mae’r Cynllun Aur yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion o’r Chweched Dosbarth i ddatblygu sgiliau pwysig a fydd yn werthfawr iddynt wrth symud ymlaen at Addysg Uwch ac wrth iddynt gwblhau eu gwaith ar gyfer Bagloriaeth Cymru. Yn dilyn y cwrs mae’r disgyblion yn fwy hyderus ynglŷn â sut i fynd ati i ymchwilio, cynllunio, adolygu a chyfeirio. Ein bwriad fel ysgol yw sicrhau yn y dyfodol, bod y flwyddyn gyfan yn cael y cyfle i fanteisio ar y cynllun”.
“Hwn yw’r unig gynllun o’i fath yng Nghymru” meddai Gwilym Dyfri Jones, Pennaeth y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant, “ac y mae’n rhan greiddiol o ymateb y Brifysgol i agenda Trawsnewid Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n cynnig cyfleoedd dwyieithog i ddisgyblion ysgolion uwchradd ar draws De Cymru i astudio ar lefel prifysgol”.
Ychwanegodd “Wrth gynllunio i’r dyfodol, bwriad Coleg Prifysgol y Drindod, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, yw cynnig amrywiaeth o brofiadau addysgol perthnasol i ddisgyblion Blynyddoedd 12/13 a fydd, gobeithio, yn eu hannog i barhau â’u hastudiaethau mewn prifysgol o’u dewis yn y dyfodol.”.
Lluniau:
Dr Hywel Lewis, Gwilym Dyfri Jones Katrina Rees, Delun Evans, Vaughan Salisbury a Tim Hayes, Pennaeth Blwyddyn 12/13 Ysgol Gyfun Bro Myrddin
Disgyblion Ysgol y Preseli gyda staff y Drindod Dr Glenda Tinney, Gwilym Dyfri Jones, Vaughan Salisbury a Phennaeth Blwyddyn 12/13 Dafydd Hughes
Disgyblion Ysgol Dyffryn Teifi gyda Pennaeth Blwyddyn 12/13 Mair Wilson, Dr Glenda Tinney, Gwilym Dyfri Jones, a Vaughan Salisbury.
D I W E D D
Manylion pellach
Vaughan Salisbury 01267 676650
Eleri Beynon 01267 676790
Gweld pob eitem o'r newyddion...
