Gweld pob eitem o'r newyddion...
Myfyrwyr ar restr fer gwobrau Ffresh
05.02.2010
Mae myfyrwyr o Goleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin yn y ras i ennill rhai o’r prif wobrau yn seremoni fawreddog ‘Oscars’ Cymru i fyfyrwyr sy’n gwneud ffilmiau.
Cynhelir seremoni flynyddol gwobrau Ffresh ar gyfer delweddau symudol myfyrwyr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ddydd Iau a dydd Gwener nesaf (11 a 12 Chwefror).
Ac mae myfyrwyr y Drindod wedi llwyddo i sicrhau pum lle ar restr fer y gwobrau.
Yn y categori Teledu, enwebwyd Drew Hill am Fiends, ffilm arswyd haerllug sy’n dilyn bywyd adict sydd ar y ffordd i wella.
Yn yr un categori, enwebwyd Catrin Newman ar gyfer Gwenwyn y Geiriau, rhaglen ddogfen bwerus sy’n ymchwilio i’r clwstwr o bobl ifanc a laddodd eu hun yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, gan dynnu sylw eang yn y wasg.
Enwebwyd ffilm Catrin yn y Categori Iaith Gymraeg hefyd, adran lle gwelir dwy ffilm arall gan fyfyrwyr o’r Drindod ar y rhestr fer.
Mae Lucky Nymbyr Nain yn ffilm fer gan Gareth Wyn Roberts sy’n cynnwys ymladd, herwgipio a chyffuriau – heb sôn am docyn loteri arbennig!
Rhaglen ddogfen yw Bwrw Gwreiddiau gan Nia Medi James, Carys Davies a Siân Ifans sy’n dilyn taith grŵp o fyfyrwyr i dalaith Ohio, yn yr UDA, ac yn cymharu’u profiadau hwythau â phrofiadau ymfudwyr a aeth yno ganrifoedd yn ôl.
A hithau ar ei hwythfed flwyddyn bellach, mae Ffresh – Gŵyl Delweddau Symudol Myfyrwyr Cymru – yn cynnwys y gwaith gorau gan fyfyrwyr o Gymru yn ogystal â dangosiadau arbennig, dosbarthiadau meistr, sesiynau panel a gweithdai gyda rhai o’r enwau mwyaf blaenllaw ac uchel eu parch yn y diwydiant
Mae gwesteion blaenorol wedi cynnwys y cyfarwyddwyr Stephen Frears (The Queen) a Gaston Kaboré (Zan Boko), sgriptwyr i’r sgrin Andrew Davies (Bleak House) a Tim Firth (Calendar Girls).
Am fwy o wybodaeth am yr ŵyl, ewch i http://www.ffresh.com
Gweld pob eitem o'r newyddion...
