Canllaw i rieni
Ydy eich mab neu’ch merch yn ystyried gwneud cais i fynd i brifysgol?
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth amhrisiadwy i’w helpu i baratoi ar gyfer eu taith.
Mae mynd i brifysgol yn amser cyffrous i fyfyrwyr o bob oed p’un ai ydynt yn dewis astudio’n lleol neu oddi cartref. Yn wir mae cyfnod mewn Prifysgol yn brofiad bywyd ac i nifer o fyfyrwyr dyma fydd y tro cyntaf iddynt fyw oddi cartref. Fel rhiant, gallwn ddeall fod gennych eich gofidiau a’ch pryderon arbennig a’n nod yw ateb rhai o’ch cwestiynau yn yr adran hon.
Mae mynd i brifysgol yn gwella’r gobeithion am yrfa dda ac yn y Drindod mae 98% o’n myfyrwyr mewn swydd neu’n gwneud cwrs astudio pellach o fewn 6 mis i raddio.
Mae prifysgolion yn darparu gwerth ychwanegol yn yr ystyr y bydd eich plentyn yn ennill gwybodaeth bynciol, ond hefyd ystod o sgiliau trosglwyddadwy, a fydd yn eu helpu’n ddiweddarach mewn bywyd – yn cynnwys y gallu i weithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, sgiliau hunanreoli ac amrywiaeth o sgiliau dymunol eraill y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Yn y Drindod mae’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith, â thâl ac yn wirfoddol, yn rhoi cyfleoedd ardderchog i fyfyrwyr gael profiad gwaith ac mae nifer ohonynt yn arwain at swyddi parhaol gyda’r cwmnïau ar ôl graddio.
Mae prifysgolion yn helpu myfyrwyr i ddatblygu annibyniaeth a sgiliau cymdeithasol. Mae byw a gweithio gyda phobl eraill yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu ystod o sgiliau cymdeithasol, p’un ai ydynt yn byw mewn fflat gydag wyth o bobl eraill neu’n teithio i’r brifysgol o’u cartref. I nifer o fyfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr yw’r canolbwynt y tu allan i ddarlithoedd a dyma lle byddant yn mwynhau nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol, ond gallant hefyd wirfoddoli i helpu’r Undeb i drefnu digwyddiadau, gweithio yn y siop neu’r bar neu ymuno â nifer o’r clybiau a’r cymdeithasau. Mae nifer o gyfleoedd hefyd i gael gwaith rhan-amser yn y Brifysgol trwy ddod yn Llysgennad Myfyrwyr, gweithio yn yr adran arlwyo a chynadledda, y ganolfan chwaraeon, a’r ganolfan adnoddau dysgu.
Mae cyfleoedd hefyd i fyfyrwyr y Drindod astudio dramor trwy gysylltiadau’r brifysgol â phrifysgolion eraill yn UDA a rhannau o Ewrop.
Ond, yn y Drindod, mae bob amser ddigonedd o gefnogaeth ar gael, o’r diwrnod cyntaf un, os bydd y myfyrwyr yn wynebu anawsterau. Mae ein Hadran Gwasanaethau Myfyrwyr yn siop un stop ar gyfer eu holl anghenion a gall ddarparu cyngor ac arweiniad ar unrhyw fater – o bryderon academaidd i broblemau personol. Fel prifysgol fach, does neb yn mynd ar goll yn y dorf, a chredwn fod y gofal bugeiliol a ddarperir gennym yn y Drindod yn rhagorol.
Gallwch chi helpu eich mab neu’ch merch wrth benderfynu ar y canlynol
1 Penderfynu ar y cwrs
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis prifysgol ar sail y cwrs ond gall cynnwys cyrsiau wahaniaethu o un brifysgol i'r llall. Bydd angen iddynt ymchwilio i’w hopsiynau er mwyn gweld yn union beth a gynigir trwy edrych ar wefannau a phrosbectysau prifysgolion, darllen Proffiliau Mynediad ar wefan UCAS (http://www.ucas.ac.uk/) ac ymweld ar Ddiwrnodau Agored.
2 Penderfynu pa brifysgol
Ydy e neu hi eisiau byw oddi cartref neu aros yn agosach at gartref?
A oes gan y brifysgol enw da am gwrs arbennig?
Sut beth yw’r cyfleusterau ar gyfer astudio a chymdeithasu?
A fydd cyfle i’ch mab neu’ch merch ddilyn diddordebau cymdeithasol neu hamdden?
Faint o fyfyrwyr sydd ymhob dosbarth – a fyddant ar goll mewn torf?
Pa werth ychwanegol all y brifysgol ei ddarparu – lleoliadau gwaith, astudio dramor, gwasanaethau cymorth, cyfleoedd cymdeithasol a hamdden.
Mae Diwrnodau Agored yn arbennig o bwysig oherwydd nid yn unig y byddwch chi a’ch plentyn yn cael cyfle i siarad â staff academaidd am y cwrs, byddwch hefyd yn cael cyfle i weld cyfleusterau a siarad â gwasanaethau cymorth, yn cynnwys y gwasanaeth llety a gwasanaethau myfyrwyr.
3 Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y costau dan sylw a pha gymorth ariannol sydd ar gael.
Ffactorau eraill i chi eu hystyried yw’r gost o fynd i brifysgol Gall cyrsiau israddedig llawn amser yn y Drindod bara rhwng 1 a 3 blynedd - blwyddyn ar gyfer Tystysgrif Addysg Uwch, 2 flynedd ar gyfer Diploma Addysg Uwch a 3 blynedd ar gyfer gradd. Bydd angen i chi dalu ffioedd dysgu bob blwyddyn. Darperir cymorth ariannol trwy grantiau cynnal a benthyciadau ac mae nifer o brifysgolion yn cynnig bwrsarïau i helpu myfyrwyr gael deupen llinyn ynghyd.
Dolenni
Mae byw yn y Drindod yn brofiad gwych. Rwyf wedi cwrdd â nifer o ffrindiau ac rwy’n mwynhau fy hun yn fawr.
Mae’r campws, myfyrwyr a’r staff yn gyfeillgar iawn ac mae’r awyrgylch yn creu cymuned glos. Mae’r cwrs yn agor nifer o ddrysau ar gyfer fy nyfodol. Mae’r staff yn gyfeillgar iawn ac yn gynorthwyol bob amser.
Mae’r pwll nofio ac adnoddau’r ystafell ffitrwydd yn ein hannog i gadw’n brysur. Rwyf wedi cwrdd â nifer o bobl trwy fyw ar y campws ac rwy’n mwynhau’r profiad. Mae’r campws mewn ardal gyfleus a phrydferth. Mae’r mwyafrif o bethau o fewn pellter cerdded gan roi digon o gyfleoedd ar ac oddi ar y campws.”
Victoria Aggus
BA Addysg Blynyddoedd Cynnar
