Croeso i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Dr Medwin Hughes Ein Prifysgol ni yw’r ifancaf yng Nghymru, ac eto mae ein gwreiddiau’n ymestyn yn ôl i 1822 ac 1848 pan grëwyd ein sefydliadau gwreiddiol. Mae creu prifysgol newydd yn her gyffrous: mae’n gyfle i adeiladu ar ragoriaethau cyfredol er mwyn creu dyfodol cynaliadwy. Mae’r brifysgol newydd eisoes wedi sicrhau buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau gan y llywodraeth a chaiff yr arian hwn ei ail-fuddsoddi i ddarparu amgylchedd sy’n gweddu i ddysgu, addysgu, ymchwil ac ysgolheictod yn yr unfed ganrif ar hugain.

Ac eto, yng nghanol y datblygiadau mawr hyn i gyd, y myfyrwyr sy’n ganolog i’r Brifysgol.

Mae’r ddau gampws, yng Nghaerfyrddin a Llambed, yn cynnig amgylchedd hardd a chyfoethog sydd â phopeth sydd ei angen arnoch ar un safle.  Mae’r awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar yn amlwg, gyda’r ddau gampws yn dod â phobl at ei gilydd i ffurfio cymuned glos lle mae’r gallu i adnabod a pharchu’r unigolyn yn brif ystyriaeth.   

Mae ein cyrsiau cyffrous yn cynnig opsiynau sy’n amrywio o bynciau traddodiadol y dyniaethau i raglenni modern sy’n canolbwyntio ar fusnes.  Cynhelir yr holl addysgu mewn dosbarthiadau bach, gan staff sydd ar flaen y gad yn eu priod feysydd, ac mewn amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol. Mae cyfleoedd i astudio dramor ar gael ym mhob maes pwnc ac mae nifer o gyrsiau hefyd yn cynnig lleoliadau a phrofiad gwaith.

Mae’r bywyd cymdeithasol a ddarperir ar gyfer y myfyrwyr sy’n astudio ar y campws yng Nghaerfyrddin a Llambed  heb ei ail, gan ei fod wedi’i drefnu gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Ar y ddau gampws, canolbwynt y digwyddiadau a’r gweithgareddau yw Undeb y Myfyrwyr, gyda chlybiau chwaraeon yn amrywio o bêl-droed i syrffio, a chymdeithasau eraill yn amrywio o wirfoddoli i ddawns. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.

Ond wrth i’r Brifysgol ddatblygu a thyfu, felly hefyd ein cymuned o fyfyrwyr.  Mae nifer o’n myfyrwyr yn astudio yn y gweithle, gan ddefnyddio eu gwaith bob dydd fel sail ar gyfer ennill cymwysterau prifysgol. Mae cryn dipyn o’n myfyrwyr hefyd yn astudio yn ein sefydliadau partner yn cynnwys Colegau AB yn Aberhonddu, Aberdâr a cholegau rhyngwladol yn Llundain. 

Pa un ai ydych yn astudio ar ein campysau yng Ngorllewin Cymru neu’n rhywle arall, rydym yn cydnabod eich bod, wrth ddewis rhaglen brifysgol, yn gwneud ymrwymiad a buddsoddiad sylweddol yn eich dyfodol. Mae’n benderfyniad a gymerwn o ddifrif ac rydym yn  addo gwneud pob ymdrech i sicrhau y bydd eich profiad fel myfyriwr yn eich helpu i ddatblygu eich potensial i’r eithaf. Byddwn, wrth gwrs, yn darparu gwybodaeth academaidd gadarn ar eich cyfer, ond credwn hefyd y bydd y profiadau cymdeithasol a diwylliannol cyfoethog a gewch yn gymorth i chi ddatblygu ystod o rinweddau personol a phroffesiynol.

Estynnwn wahoddiad cynnes i chi i Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant i rannu'r cyfnod cyffrous hwn gyda ni.

Dr Medwin Hughes DPhil DPS FRSA

Is-Ganghellor

Cysylltu â Ni


Prifysgol Cymru
Y Drindod Dewi Sant


Campws Caerfyrddin


Ffôn: 01267 676767


Campws Llambed


Ffôn: 01570 422351