Skip page header and navigation

Ffioedd a Chyllid

Students collaborating at a desk

Deall Ffioedd a Chyllid Prifysgol

Rydym yn deall nad breuddwyd yn unig yw dilyn trywydd addysg uwch, ond buddsoddiad sylweddol yn eich dyfodol. Rydym nid yn unig wedi ymrwymo i ddarparu addysg wych i chi, ond profiad prifysgol gwych hefyd. I wneud hyn mae’n bwysig bod gennych ddealltwriaeth glir o ffioedd prifysgol a’r adnoddau ariannol a’r cymorth sydd ar gael i chi. 

Ffioedd Prifysgol

Mae tryloywder yn allweddol wrth drafod ffioedd prifysgol. Mae nifer o ffioedd y gall myfyrwyr eu hysgwyddo yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol, un o’r prif rai yw’r ffioedd dysgu, sef, yn syml, cost eich cwrs gradd. Bydd eich ffioedd dysgu yn dibynnu ar y rhaglen yr ydych chi wedi ei dewis a lefel yr astudiaeth.  

Gall ffioedd eraill godi yn ystod eich astudiaethau a bydd y rhain yn dibynnu ar y rhaglen yr ydych chi wedi ei dewis. Ceir syniad o’r ffioedd hyn ar dudalennau’r cyrsiau unigol o dan ‘Costau Ychwanegol’. 

Cymorth Ariannol PCYDDS

Eto, mae cymorth ariannol yn amrywio gan ddibynnu ar y rhaglen yr ydych chi wedi ei dewis a’r lefel astudiaeth. Bydd y rhain hefyd yn amrywio o ymgeisydd i ymgeisydd yn seiliedig ar amgylchiadau personol. Mae’r math o gymorth ariannol a allai fod ar gael yn cynnwys bwrsariaethau, benthyciadau ac ysgoloriaethau.